Diwrnod Agored Caerdydd
Beth gewch chi gan Ddiwrnod Agored Caerdydd
Mae mynychu Diwrnod Agored yng Nghaerdydd yn ffordd wych o ddysgu am y Brifysgol a’n cyrsiau. Diwrnod Agored Caerdydd yw’ch cyfle i archwilio, dod i wybod rhagor am ein prifddinas a’r pwnc o’ch dewis, a hyd yn oed godi nwyddau am ddim i’ch cael chi’n barod am eich blwyddyn gyntaf.
Cadwch le ar Ddiwrnod Agored Caerdydd
Diwrnodau Agored i Ddod
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfleoedd i chi weld beth mae ein campysau’n eu cynnig i chi. Gallwch chi hefyd weld beth i’w ddisgwyl gennym ni wrth ddewis astudio yn PCYDDS. Rydym ni’n cynnal Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn er mwyn i chi gael cyfle i ofyn cwestiynau sy’n bwysig i chi. Cadwch le ar ein diwrnod agored nesaf neu cofrestrwch eich manylion er mwyn i ni allu rhoi gwybod i chi am ddyddiadau ein diwrnodau agored nesaf.
Dysgwch ragor am Ddiwrnod Agored Caerdydd
Archwiliwch Bynciau sydd ar gael yng Nghaerdydd
Mae amrywiaeth o raglenni ar gael ar Gampws Caerdydd. Archwiliwch ein rhestr gyrsiau i weld beth sy’n tanio eich brwdfrydedd, ond dyma flas ar y meysydd pwnc rydym yn eu cynnig:
BA Dawns Fasnachol
BA Theatr Gerddorol
BA Perfformio (cyfrwng Cymraeg)
TystAU Proffesiwn Plismona
TystAU Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol
TystAU Sgiliau Cyflogadwyedd
TystAU Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle.
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (2 flynedd)
MA Theatr - Perfformio (cyfrwng Cymraeg)
MA Theatr - Cyfarwyddo (cyfrwng Cymraeg)
MA Theatr (Theatr Gerddorol)
BMus Perfformio Lleisiol
MA Perfformio (Repetiteur a Chyfeilio)
Teithio i Gaerdydd
Teithio …
-
Mae Tŷ Haywood o fewn taith gerdded i ganol y ddinas, yr orsaf fysys ganolog a gorsaf drenau Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith
-
Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood o nifer o lwybrau beicio Caerdydd sydd ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith
-
Gallwch gyrraedd Tŷ Haywood ar wasanaethau bysys rheolaidd y ddinas.
Gallwch ddefnyddio Cynllunydd Myunijourney PCYDDS i’ch helpu i gynllunio eich taith fws.
-
Mae gan Orsaf Drenau Caerdydd gysylltiadau rheilffordd gwych gyda threnau’n rhedeg yn rheolaidd o, ac i Gaerfyrddin, Abertawe, Gorsaf Picadilly Manceinion a Llundain. Gallwch gynllunio eich taith drên yn Traveline.cymru.
-
Mae Campws Caerdydd mewn lleoliad cyfleus ac â chysylltiadau da â phriffyrdd, yn cynnwys traffordd yr M4.
Mae nifer o opsiynau parcio yn ninas Caerdydd ond y maes parcio aml-lawr agosaf at Dŷ Haywood yw Plas Dumfries Caerdydd.
Cynlluniwch eich Taith
Teithio Gwyrdd
Mae’n hawdd cyrraedd ein campysau ar droed, ar feic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Dilynwch y dolenni isod am wybodaeth ar sut i gyrraedd yno drwy ddefnyddio dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
Bydd ein tudalennau cynaliadwyedd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn PCYDDS.