Ymchwil mewn Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Ymchwil mewn Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg
Mae ein hymchwil yn drawsddisgyblaethol, ac mae’n cwmpasu maes eang o waith mewn Peirianneg Fodurol, Logisteg a Pheirianneg Gweithgynhyrchu, ynghyd â Chyfrifiadura Cymhwysol.
Canolbwyntia ein dull gweithredu ar ddatrys problemau agos i’r farchnad sy’n ymwneud â diwydiant, sy’n berthnasol i gwmnïau rhanbarthol, ac sydd yn aml yn gofyn am ddatrysiadau dylunio arloesol a tharged o ran system rheoli amgylcheddol.
-
The work is focussed on the interaction of low energy photons with human tissue. Much of the work has been carried out through collaborative research projects with locally-based international companies in two areas of research.
Industrial standard multiphysics applications for stress and fatigue predictions
Modelling codes for simulating light-tissue interaction. -
Y brifysgol yw’r prif bartner academaidd yng Nghanolfan Ddilysu NDT yn ECM2 Port Talbot a weithredir gan TWI. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r EPSRC wedi hwyluso caffael offer a chapasiti o’r radd flaenaf, gan gynnwys:
- Uwchseineg
- Thermograffi isgoch
- Mesur straen ffotoelastig yn gyfrifiadurol
- Fibrometreg sganio laser Doppler
Yn ychwanegol at yr adnoddau hyn, mae gan y brifysgol ddigonedd o offer microscopeg optegol confensiynol a chyfleusterau fideo digidol cyflymder uchel ac mae’n bartner yn rhaglen ASTUTE (Technolegau Cynhyrchu Cynaliadwy Uwch) i Gymru gyfan sy’n darparu manteision uniongyrchol i fusnesau.