Skip page header and navigation

Diogelu

Gall unrhyw un yn ein cymuned fod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso sy’n golygu bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bob un. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw ein gilydd yn ddiogel. 

Er bod rhai grwpiau’n fwy agored i gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, amgylchiadau, yn hytrach na nodweddion personol, sydd fwyaf tebygol o gynyddu’r risg ac yn aml mae’n ganlyniad i gyfuniad o ffactorau.

Mae diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn golygu:

  • Eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
  • Sicrhau nad yw eu hiechyd a’u datblygiad yn cael eu heffeithio mewn unrhyw ffordd
  • Sicrhau eu bod yn cael tyfu i fyny’n ddiogel ac yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd y mae bywyd yn eu cynnig

Cymorth Diogelu

Mae’r Brifysgol yn gweithio gyda’n staff, ein myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a’n rhwydweithiau rhanbarthol i helpu i ddiogelu ein cymuned. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau lleol, yr Heddlu ac asiantaethau statudol eraill i rannu gwybodaeth, i adnabod problemau ac i ymateb i heriau.

Fel rhan o’r gweithgarwch partneriaeth lleol hwn, mae’r Brifysgol yn bodloni’i dyletswydd statudol mewn perthynas ag atal pobl fregus rhag cael eu denu i eithafiaeth neu derfysgaeth.

Os ydych chi’n pryderu y cewch chi neu eraill eich denu i eithafiaeth neu eich bod mewn perygl o radicaleiddio, dilynwch lwybr adrodd Achos Pryder. 

  • Argyfwng

    Os oes argyfwng yn codi ac rydych ar y campws dylech gysylltu â’r Tîm Gweithrediadau 24/7 ar 07767 842738.

    Os oes argyfwng yn codi pan fyddwch oddi ar y campws, ffoniwch 999.

    Cadw’n Ddiogel

    Os ydych yn gofidio am fyfyriwr arall, llenwch y ffurflen Achos Pryder. Gallwch roi gwybod am eich pryderon yn ddienw os ydych chi’n dymuno. Gall eich pryderon gynnwys materion yn ymwneud ag iechyd, lles neu ymddygiad myfyriwr, neu amgylchiadau a allai fod yn effeithio ar eu cynnydd academaidd neu reolaeth gyffredinol o fywyd yn y Brifysgol.

    Gwasanaethau Lles Myfyrwyr

    Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ar fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau. Mae’r tîm Lles yn cynnig ystod o wasanaethau sydd wedi’u llunio i gefnogi myfyrwyr i fynd i’r afael â’u hastudiaethau yn effeithiol. Mae’r tîm Lles yn darparu cyngor ac arweiniad proffesiynol a chyfrinachol mewn perthynas â lles ac iechyd meddwl myfyrwyr. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau Lles a ddarperir a sut i gael mynediad atynt ar gael yma..

    Ymrwymiad y Brifysgol

    Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo lles a diogelwch myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ym mhob agwedd o’n gweithrediadau a’n hamgylchedd.

    O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn agored i niwed ac mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau a pholisïau ar waith i ymateb i’r angen sy’n codi a helpu eu diogelu.

    Mae ein Polisi Diogelu yn egluro’r fframwaith sydd ar waith i ddiogelu rhag risg, cam-drin a niwed posibl, ac i ymateb yn briodol i bryderon.

    Mae’r egwyddorion yn y Polisi yn nodi bod PCYDDS wedi ymrwymo i:

    • Ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer ei holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr;
    • Darparu amgylchedd sy’n ddiogel rhag niwed i’r rhai sydd o dan 18 oed;
    • Cynnal hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed i’w hamddiffyn rhag niwed, fel eu bod yn rhydd rhag anaf ac i fod mewn amgylchedd diogel ac iach.

    Mae’r Polisi’n seiliedig ar Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru. Mae’r Polisi hefyd yn cydnabod cyfrifoldebau ehangach y Brifysgol o ran Dyletswydd Prevent y DU a’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth a/neu gael eu radicaleiddio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â themâu Prevent, cysylltwch â’r Swyddog Arweiniol Prevent Dros Dro, Rhys Dart.

    Swyddogion Diogelu Dynodedig PCYDDS

    Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: Rhys Dart r.dart@uwtsd.ac.uk

    Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Profiad Academaidd): Mirjam Plantinga m.plantinga@uwtsd.ac.uk

    Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol: Jane O’Rourke J.ORourke@uwtsd.ac.uk

  • Dyletswydd PREVENT 

    O dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 mae gan bob prifysgol gyfrifoldeb statudol i sicrhau ‘sylw dyledus i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth’.​ Ceir canllawiau penodol mewn perthynas â’r ddyletswydd hon ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a Lloegr.

    Mae gan ddyletswydd Prevent dri phrif amcan:

    • Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a’r bygythiad sy’n ein hwynebu gan y rhai sy’n ei hyrwyddo
    • Atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a rhoi cyngor a chefnogaeth iddyn nhw
    • Gweithio gyda chyrff y sector a sefydliadau allanol perthnasol lle bo perygl radicaleiddio

    Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, mae’r Brifysgol:

    1. wedi cyhoeddi Polisi Dyletswydd Prevent sy’n amlinellu sut rydym yn cymryd ymagwedd resymol a chymesur at bryderon yn seiliedig ar yr asesiad o risg;
    2. yn cynnal cynllun gweithredu Prevent;
    3. yn sicrhau bod Asesiad Risg Prevent ar waith. 

    Caiff y dogfennau hyn eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd trwy’r Fforwm Diogelu, a Chyngor y Brifysgol, ein Corff llywodraethu, yn darparu trosolwg. 

    Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yw corff monitro Prevent ar gyfer darparwyr AU yng Nghymru. Yn ogystal, y Swyddfa Safonau Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) yw corff monitro Prevent ar gyfer darpariaeth Prentisiaethau Gradd Uwch.  Mae’r Brifysgol yn adrodd i’w chyrff monitro yn rheolaidd.

    Mae’r Brifysgol yn rheoli Prevent fel rhan o’i gweithgareddau lles a diogelu. Yn PCYDDS rydym wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol i bob aelod o’n cymuned. 

    Hyfforddiant

    Mae’r Brifysgol yn cynnal hyfforddiant ymsefydlu ar ddyletswydd Prevent ar gyfer pob aelod newydd o staff. Hefyd, mae’n cynnal cyrsiau byr mewnol sy’n cwmpasu diogelu a Dyletswydd Prevent sydd ar gael i’r holl staff. Hefyd, mae cyflwyniad i adnoddau Diogelu yn rhan o ymsefydlu myfyrwyr ac mae’n cyfeirio at Prevent. Mae’r adnoddau hyn yn benodol yn nodi sut i godi mater sy’n destun pryder a cheisio cymorth o fewn y Brifysgol.​

    Gall unrhyw un gael mynediad i hyfforddiant cenedlaethol Prevent drwy hwb e-ddysgu’r Swyddfa Gartref.

    Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau trwy ei hymgyrch ‘Action Counters Terrorism’. Mae hyn yn cynnwys cyngor am fod yn wyliadwrus a pha ymddygiad neu weithgaredd a allai alw am gyflwyno adroddiad. 

    Cefnogaeth Allanol

    Mae arweinwyr diogelu yn y Brifysgol yn cymryd rhan weithredol yng Ngrŵp Prevent Addysg Uwch (AU) De Cymru ac maent wedi’u hymgorffori o fewn strwythurau Prevent rhanbarthol a chenedlaethol. Mae cynrychiolwyr y Brifysgol hefyd ar y paneli Channel a byrddau Contest rhanbarthol perthnasol, yn ogystal â fforymau cysylltiedig eraill. Mae hyn yn galluogi’r brifysgol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau lleol, yn ogystal â dealltwriaeth o fframweithiau polisi rhanbarthol, lleol a chenedlaethol.

    Lleisio pryder

    Mae gan y brifysgol broses ar gyfer adrodd ar ymddygiad sy’n peri pryder neu bryderon diogelu drwy’r ffurflen achos pryder. Mae’r broses hon yn agored ac ar gael i unrhyw un ei defnyddio. Bydd staff cymwys y Brifysgol yn mynd i’r afael â phryderon ac yn penderfynu ar ba gamau i’w cymryd, gan gysylltu ag awdurdodau statudol yn ôl yr angen.

    Cofiwch, mewn argyfwng, dylech ffonio 999 bob tro.

    Dull Gweithredu’r Brifysgol

    Mae ein cyfrifoldebau diogelu Prevent yn cael eu cymhwyso ar sail bod unigolyn yn agored i gael ei radicaleiddio ac nid o ganlyniad i nodweddion gwarchodedig unrhyw unigolyn. Mae ein cyfrifoldebau Prevent yn cael eu cydbwyso yn erbyn ein cyfrifoldeb i gynnal hawl unigolyn i ryddid barn o fewn y gyfraith o dan ddeddfwriaeth berthnasol.  Ceir rhagor o fanylion am sut y caiff dyletswydd Prevent ei gweithredu yn y Brifysgol yn ein Cod Ymarfer Siaradwyr a Digwyddiadau Allanol

    Ein nod yw gweithredu dyletswydd Prevent gyda’r ystyriaeth, ymgynghoriad a’r gofal dyledus er mwyn caniatáu rhyddid academaidd ac i amddiffyn staff a myfyrwyr er mwyn iddynt fedru eistedd ochr yn ochr gyda’i gilydd.

    Enwau cyswllt:

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r tudalennau hyn neu unrhyw agwedd ar ddyletswydd Prevent, cysylltwch ag Arweinydd Prevent y Brifysgol. 

  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr: Rhys Dart r.dart@uwtsd.ac.uk

    Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol (Profiad Academaidd): Mirjam Plantinga m.plantinga@uwtsd.ac.uk

    Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol: Jane O’Rourke J.ORourke@uwtsd.ac.uk