Skip page header and navigation

Mae Gan Ddinas Arfordirol Abertawe Rywbeth i Bawb

Mae amrywiaeth o siopau yn Abertawe, o’r rhai annibynnol lle gallwch brynu cynnyrch arbenigol o bob math hyd at y siopau cadwyn mawr. Galwch heibio i’r farchnad enwog er mwyn crwydro’r stondinau  - rhai yn gwerthu nwyddau trydanol, eraill yn gwerthu bwyd a chynnyrch ffres, gan gynnwys cocos a bara lawr!  

Neu gallwch fynd i fowlio deg, i chwarae tag laser, neu fwynhau ffilm yn un o’r ddwy sinema fawr heb adael canol y ddinas. 

Swansea’ Waterfront City Has Something to Offer Everyone

Cerddwch o amgylch Marina Abertawe

Wrth ymyl ein campws SA1, lle mae’r ddinas yn cwrdd â’r môr, mae Marina Abertawe wedi’i leoli yn ardal Chwarter Morwrol wobredig Abertawe. Bob blwyddyn cynhelir digwyddiadau arbennig yma, gan gynnwys Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, gyda’i ffair a’i sglefrio iâ, y Sioe Awyr flynyddol, a nifer o ddigwyddiadau chwaraeon gan gynnwys digwyddiadau parkrun 5 a 10K.

Myfyrwyr yn cymdeithasu ac yn mwynhau coffi

Ewch am Noson Allan Wych

Ar Wind Street mae bariau, clybiau a bwytai di-ri lle gall myfyrwyr fwynhau ac ymlacio - peidiwch â methu’r noson fyfyrwyr bob Nos Fercher!  

Yn 2023, derbyniodd Abertawe wobr Baner Borffor am y nawfed tro. Mae’r wobr yn arwydd y gall ymwelwyr ddisgwyl noson ddifyr, amrywiol, diogel a phleserus. 

Ewch i Weld Sioe

Ers agor ei drysau ym mis Mawrth 2022, mae Arena Abertawe, sydd wedi’i lleoli yng nghanol datblygiad Bae Copr, yn dal 3,500 o bobl ac yn denu rhai o enwau mwyaf y byd ym maes adloniant.  

Mae theatr hanesyddol y Grand hefyd yn llawn awyrgylch ac yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol, artistig ac adloniannol. 

Ewch i Fwynhau Ychydig o Ddiwylliant neu Chwaraeon

Mae sawl oriel o fri rhyngwladol yn Abertawe, gan gynnwys Oriel Glynn Vivian ac Oriel Mission. Mae lleoliadau diwylliannol eraill yn cynnwys Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a Chanolfan Dylan Thomas.  

Mae Abertawe yn gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Clwb Rygbi Abertawe a Chlwb Criced Sir Forgannwg. Amrywiaeth o chwaraeon proffesiynol i chi eu mwynhau!

Myfyriwr ar draeth Abertawe yn taflu ffrisbi

Cadwch yn Heini

Mae Abertawe yn ddinas egnïol, ac mae digon o gyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau ar dir a môr. Mae’r rhain yn cynnwys syrffio, beicio, padlfyrddio, caiacio, golff, tenis, syrffio barcud a mwy. Yr LC yw Parc Dŵr a Chanolfan Hamdden mwyaf blaenllaw Cymru. 

Mae pwll 50m i’w gael ym Mhwll Cenedlaethol Cymru hefyd. Fel un o’n myfyrwyr, byddwch yn cael mynediad i’n Hacademi Chwaraeon traws-gampws.  

Ymhellach i Ffwrdd…

Un o ardaloedd poblogaidd Abertawe yw’r Mwmbwls, gyda’i amrywiaeth o siopau boutique, caffis, bariau, castell, goleudy, pier Fictoraidd, ac wrth gwrs hufen iâ enwog Joe’s.  

Mae digonedd o barciau a mannau gwyrdd yn Abertawe, a llawer ohonyn nhw o fewn pellter cerdded i’n campysau, gan gynnwys Gerddi Clun, Gerddi Botaneg a llyn cychod Singleton, Parc Fictoria, Parc Brynmill, a Pharc Cwmdoncyn, sydd â chysylltiadau â Dylan Thomas. Mae’r mannau gwyrdd hyn yn lleoedd gwych i ymlacio, i adolygu ac i dreulio amser gyda ffrindiau, a hynny o fewn cyrraedd hawdd i ganol y ddinas ar droed neu ar feic. 

Yn 1956, Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf yn y DU i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae’r Penrhyn 19 milltir o hyd, sy’n dechrau yn y Mwmbwls ac yn ymestyn tua’r gorllewin, o fewn cyrraedd hawdd i Abertawe mewn car a’n enwog am ei arfordir hardd a’i draethau trawiadol ac yn ffefryn gan gerddwyr a syrffwyr fel ei gilydd. 

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.