Skip page header and navigation

Athrofa Rheolaeth Ac Iechyd

Athrofa Rheolaeth Ac Iechyd

Staff member in discussion with laptop in front of him

Yn Datblygu Graddedigion Sy’n Barod I’w Cyflogi

Mae’r Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn ymrwymedig i ddatblygu graddedigion creadigol, medrus a chyflogadwy.

Mae integreiddio theori ac ymarfer, dod o hyd i atebion i broblemau anodd a gallu deall eu cryfderau personol yn rhoi pasbort sgiliau i bob person graddedig ar gyfer cyflogadwyedd.

Rhoddir sylw mawr i daith bersonol, broffesiynol ac addysgol y myfyriwr; gan ddarparu cyfleoedd hyblyg i astudio ar raglenni a grëwyd gyda diwydiant a’r sector cyhoeddus.

Ein Cyrsiau a Lleoliadau

Ein Pynciau

Mae’r Athrofa’n darparu rhaglenni ar draws campysau’r Brifysgol yng ngorllewin Cymru, gyda myfyrwyr yn dilyn rhaglenni ar Gampws Busnes Abertawe, Campws Caerfyrddin ac yn ein colegau partner.

Yn ogystal, mae’r Athrofa’n rhannu llawer o’i rhaglenni â’n campws yn Llundain a Chanolfannau Dysgu Rhyngwladol ar draws y byd.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddysgu yn y gweithle ac mewn lleoliadau allgymorth cymunedol, gan sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr ag y bo modd yn gallu cyfuno eu hastudiaethau a’u hymrwymiadau gwaith a theulu.

Ein Meysydd Academaidd

Ein Hymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu

Canolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn dysgu a datblygu arfer yw ACAPYC, sy’n cynnig rhaglenni/DPP pwrpasol, o gyrsiau byr i ddoethuriaethau, ar gyfer gweithwyr proffesiynol a’u sefydliadau.

a group of people smiling