Ysgol Gelf Dydd Sadwrn – Coleg Celf Abertawe
Introduction
Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.
more info
Wedi’i addysgu gan arbenigwyr yn eu maes cewch gyfle i archwilio a datblygu eich creadigrwydd tu allan i’r ysgol ac archwilio detholiad o’r cyfleusterau arbenigol a ganlyn:
• Ffotograffiaeth ddigidol ac ystafell dywyll
• Gwneud printiau a llythrenwasg
• Patrwm Arwyneb ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau
• Celf Gain
• Crefftau Dylunio
• Graffeg
• Darlunio
• Cerameg
• Dylunio cynnyrch
Cost: £220