Skip page header and navigation

Ffioedd a Chyllid

Students collaborating at a desk

Deall Ffioedd a Chyllid Prifysgol

Rydym yn deall nad breuddwyd yn unig yw dilyn trywydd addysg uwch, ond buddsoddiad sylweddol yn eich dyfodol. Rydym nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu addysg wych i chi, ond profiad prifysgol gwych hefyd. I wneud hyn, mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth glir o ffioedd prifysgol a’r adnoddau ariannol a’r cymorth sydd ar gael i chi. 

Ffioedd Prifysgol

Mae tryloywder yn allweddol wrth drafod ffioedd prifysgol. Mae nifer o ffioedd y gall myfyrwyr eu hysgwyddo yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol, un o’r prif rai yw’r ffioedd dysgu, sef, yn syml, cost eich cwrs gradd. Bydd eich ffioedd dysgu yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a lefel yr astudiaeth.  

Gall ffioedd eraill godi yn ystod eich astudiaethau a bydd y rhain yn dibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis. Ceir syniad o’r ffioedd hyn ar dudalennau’r cyrsiau unigol o dan ‘Costau Ychwanegol’. 

Cymorth Ariannol PCYDDS

Eto, mae cymorth ariannol yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen yr ydych chi wedi ei dewis a’r lefel astudiaeth. Bydd y rhain hefyd yn amrywio o ymgeisydd i ymgeisydd yn seiliedig ar amgylchiadau personol. Mae’r math o gymorth ariannol a allai fod ar gael yn cynnwys bwrsariaethau, benthyciadau ac ysgoloriaethau.  

US Federal Loans

Cymorth Ariannol Benthyciadau Ffederal y DU 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cymorth ariannol, rhaid i chi gwblhau ffurflen ‘Free Application for Federal Student Aid (FAFSA). 

Gallwch wneud cais ar-lein ar Wefan FAFSA. Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod eich porwr gwe yn gydnaws. Sylwch nad yw PCYDDS yn rhan o’r broses FAFSA. Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â FAFSA, dylech edrych ar Gymorth Myfyrwyr. 

  • Un o’r camau olaf wrth gwblhau’r FAFSA yw darparu cod prifysgol/ysgol ffederal Adran Addysg yr Unol Daleithiau PCYDDS. Cod ysgol PCYDDS: 012341 00 (neu G12341) 

    Manylion cyswllt: 

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i Gymorth Arian: moneysupport@uwtsd.ac.uk 

    Cymhwysedd ar gyfer Cwrs 

    Mae ein tystysgrif cymhwysedd gydag Adran Addysg yr Unol Daleithiau yn caniatáu i ni ddarparu Cymorth Myfyrwyr Ffederal ar gyfer y canlynol:

     • Cyrsiau Israddedig 

    • Cyrsiau Ôl-raddedig 

    Nid yw rhaglenni tystysgrif a diploma yn gymwys ar gyfer Cymwys Myfyrwyr Ffederal. Sylwch nad yw rhai cyrsiau’n gymwys ar gyfer Cymorth Myfyrwyr Ffederal. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os mai dyma’r achos wrth i ni asesu eich FAFSA. 

    Dyma restr o’r mathau o gyrsiau nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cymorth Myfyrwyr Ffederal: • Cyrsiau gyda blwyddyn astudio dramor orfodol. 

    • Cyrsiau sy’n cynnwys lleoliad gwaith gorfodol neu Leoliad Proffesiynol.Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ryngosod. 

    • Cyrsiau a ddarperir mewn sefydliadau partner 

    • Cyrsiau a addysgir ar gampysau Birmingham a champysau Allgymorth 

    • Cyrsiau Dysgu o Bell. 

    • Cyrsiau rhan-amser neu gyrsiau â Chyfnod Preswyl isel. 

    Efallai bod rhaglenni nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cymorth Myfyrwyr Ffederal yn dal i fod yn gymwys ar gyfer Benthyciadau Myfyrwyr Preifat. 

  • Nid yw myfyrwyr sydd yma ar raglen Astudio Dramor sydd wedi cofrestru mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau yn gymwys i wneud cais ar gyfer cymorth ariannol trwy PCYDDS. Yn hytrach, dylech wneud cais i’ch prifysgol ‘cartref’. 

    Sut i Wneud Cais

    Gellir cyflwyno ceisiadau FAFSA ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 o fis Ionawr 2024, fodd bynnag, ni fydd PCYDDS yn dechrau ceisiadau FAFSA nes 27 Mai 2024 - byddwn yn ymdrin â cheisiadau yn y drefnu y byddwn yn eu derbyn. Mae’n rhaid eich bod wedi derbyn cynnig o le ar gwrs gan PCYDDS ac wedi derbyn y lle hwn cyn i ni brosesu eich cais ar gyfer Cymorth Myfyrwyr Ffederal. Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais erbyn 31 Gorffennaf 2024 fan bellaf er mwyn i ni allu prosesu eich cais mewn pryd i chi wneud cais am fisa. Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n parhau byddwn yn prosesu eich FAFSA yn ddiweddarach gan fod rhaid i ni flaenoriaethu ymgeiswyr newydd sy’n gwneud cais a fisa myfyriwr am y tro cyntaf.

    Gwneud cais am gymorth 

    1. Llenwch gais FAFSA 

    2. Gwiriwch eich Adroddiad Cymorth Myfyriwr

    Unwaith y bydd FAFSA wedi prosesu eich gwybodaeth bydd copi o’ch Adroddiad Cymorth Myfyriwr (SAR) yn cael ei e-bostio atoch. Gwiriwch y wybodaeth yn ofalus a sicrhewch ei fod yn cynnwys EFC (amcangyfrif o gyfraniad teulu) a manylion unrhyw fenthyciadau blaenorol. 

    Os oes unrhyw wybodaeth ar goll neu os oes sylwadau’n dweud bod angen gwybodaeth bellach, bydd angen i chi wneud cywiriadau ac ailgyflwyno eich cais. Os oes C wrth ymyl yr EFC, bydd angen gwybodaeth bellach. Gwiriwch y codau sylwadau a gwnewch unrhyw newidiadau sydd eu hangen. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol (fel prawf o ddinasyddiaeth yr Unol Daleithiau). Dylai bod y fersiwn electronig o’r SAR ar gael i ni mewn 72 awr (3 diwrnod) ar ôl ei gyflwyno. 

    E-bostiwch y Swyddog Cymorth Ariannol i roi gwybod i ni eich bod wedi cyflwyno cais fel y gallwn dynnu’r SAR i lawr mewn ffordd amserol: moneysupport@uwtsd.ac.uk 

    Cyfrifo costau presenoldeb: Os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs Prifysgol ac wedi derbyn y cynnig yn gadarn, byddwn yn anfon cyfrifiad o gostau presenoldeb atoch a manylion y benthyciadau rydych yn gymwys i’w cael, ynghyd â chyfarwyddiadau ar beth i’w wneud nesaf. Sylwch na fyddwn yn cyhoeddi costau presenoldeb i fyfyrwyr nad ydynt wedi derbyn ein cynnig o le.

  • Dyma’r benthyciadau sydd ar gael:

    Sefydlog; isafswm gwerth Dim llog tra byddant yn yr ysgol   Ffi tarddiad o 1.057% wedi’i ddidynnu adeg ei dalu 
    Heb gymhorthdal  Sefydlog; uchafswm gwerth; codir llog tra byddant yn yr ysgol Ffi tarddiad o 1.057% wedi’i ddidynnu adeg ei dalu 
    Benthyciad PLUS  Gwerth uchaf wedi’i bennu gan y Brifysgol wrth gyfrifo’r costau presenoldeb; codir llog tra byddant yn yr ysgol  Ffi tarddiad o 4.228% wedi’i ddidynnu adeg ei dalu 

    Mae uchafswm y benthyciadau â chymhorthdal a heb gymhorthdal fel a ganlyn: 

    Israddedigion dibynnol (myfyrwyr 24 oed ac iau): 

    Blwyddyn y cwrs  Benthyciad â chymhorthdal  Benthyciad heb gymhorthdal  Uchafswm benthyciad 
    1 $3,500 $2,000 $5,500
    2 $4,500 $2,000 $6,500
    3 and later $5,500 $2,000 $7,500

    Israddedigion annibynnol (myfyrwyr 24 oed neu’n hŷn neu’r rheiny y gwrthodwyd Benthyciad Parent PLUS i’w rhieni): 

    Blwyddyn y cwrs  Benthyciad â chymhorthdal  Benthyciad heb gymhorthdal  Uchafswm benthyciad 
    1 $3,500 $6,000 $ 9,500
    2 $4,500 $6,000 $10,500
    3a hwyrach  $5,500 $7,000 $12,500

    Myfyrwyr graddedig a phroffesiynol: 

    Blwyddyn y cwrs  Uchafswm benthyciad heb gymhorthdal 
    Bob blwyddyn   $20,500

    Y cyfansymiau oes yw $65,500 (â chymhorthdal) a $138,500 (â chymhorthdal a heb gymhorthdal wedi’u cyfuno). Ni chaniateir i chi fenthyg mwy na’r cyfanswm hwn. 

    Caniateir defnyddio benthyciadau Federal Direct Parent a Benthyciadau Grad PLUS fel cyllid atodol pan gyrhaeddir uchafsymiau benthyciadau â chymhorthdal a heb gymhorthdal. 

    Fel bob amser, mae’r cyfanswm y cewch ei fenthyg drwy fenthyciadau myfyrwyr ar gyfer unrhyw flwyddyn academaidd wedi’i gyfyngu i’ch costau presenoldeb cyfrifedig blynyddol minws pob ffynhonnell nawdd arall. 

  • Fel bob amser, mae’r cyfanswm y cewch ei fenthyg drwy fenthyciadau myfyrwyr ar gyfer unrhyw flwyddyn academaidd wedi’i gyfyngu i’ch costau presenoldeb cyfrifedig blynyddol minws pob ffynhonnell nawdd arall. 

    Amcangyfrif o Gostau Presenoldeb yn PCYDD 

    Sylwch nad ydych yn gallu benthyg mwy na chyfanswm eich costau presenoldeb amcangyfrifedig (CoA).

    • Fel arfer mae gan gyrsiau israddedig flwyddyn academaidd 39 wythnos. 

    • Fel arfer mae gan gyrsiau ôl-raddedig (graddedig a phroffesiynol) flwyddyn academaidd 52 wythnos. 

    Blwyddyn academaidd 2024/25 Wythnosol  39 wythnos 
    Ystafell (wedi’i seilio ar ystafell en-suite)    £5,000 (yn fras, yn amodol ar y campws) 
    Prydau £50 £2,300
    Llyfrau a chostau’r cwrs  £10 £400
    Teithio   £500
    Personol £57 £2,400
    Is-gyfanswm costau byw    £10,600
    Ffioedd dysgu (amrywiol)    £13,500 (UG) £15,000 (PG)
    Hediadau (dau hediad dwy ffordd)    £2,400
    Cyfrifiadur   £500
    Costau ymgeisio ar gyfer fisa i astudio yn y DU    £875
    Gordal GIG    £450
    Cyfanswm cost presenoldeb    £28,325 UG (£29,825 PG)
    Wedi’i drosi i $ yr Unol Daleithiau    

    Amcangyfrif o gostau presenoldeb. Enghraifft yn unig yw’r ffioedd dysgu a ddangosir uchod a byddant yn amrywio yn ôl eich cwrs. 

    Rhoddwn wybod i chi am amcangyfrif o gostau presenoldeb eich cwrs ar ddechrau eich cais wedi’i seilio ar y wybodaeth ar eich adroddiad Cymorth Myfyrwyr. Gellir hefyd cynnwys ffioedd tarddiad benthyciad yn y costau presenoldeb (rydym yn eu cynnwys yn awtomatig yn y wybodaeth a anfonwn atoch).

    * Sylwch fod y gyfradd gyfnewid a ddangosir yn enghreifftiol yn unig a chaiff ei phennu unwaith y flwyddyn ar gyfer costau presenoldeb (fel arfer ym mis Mai). Bydd yr union gyfradd gyfnewid a ddefnyddir wrth brosesu taliadau yn amodol ar gyfradd farchnad ar y diwrnod u caiff yr arian ei brosesu. 

    Sylwch nad ydych yn gallu benthyg mwy na chyfanswm eich costau presenoldeb amcangyfrifedig (CoA). 

  • Defnyddiwn y wybodaeth a gyflwynwyd gennych yn eich FAFSA a’ch llythyr cynnig, i bennu eich cymhwysedd ar gyfer Myfyriwr Ffederal. Caiff y costau safonedig eu pennu yn erbyn eich statws myfyriwr. Myfyriwr Israddedig Dibynnol, Myfyriwr Israddedig Annibynnol neu Fyfyriwr Graddedig. Gweler yr adran Mathau o Fenthyciadau ar gyfer diffiniadau o fyfyrwyr israddedig ‘dibynnol’ ac ‘annibynnol’ . 

    Yn amodol ar eich statws, gallech hefyd fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Benthyciad Direct PLUS. Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig/proffesiynol, gallech fod yn gymwys ar gyfer Benthyciad Direct PLUS; os ydych yn fyfyriwr israddedig dibynnol, gall fod eich rhiant yn gymwys ar gyfer benthyciad Direct Parent PLUS. 

    Bydd eich cymhwysedd hefyd yn amodol ar eich rhaglen astudio bwriedig, Cyfraniad Teulu Amcangyfrifedig (EFC) a nodwyd ar eich SAR a chyllid arall sydd ar gael i chi fel ysgoloriaethau a ddyfarnwyd. 

    Unwaith bydd y cyfrifiad wedi’i gwblhau bydd y ddogfen Costau Presenoldeb a’r Dystysgrif Cyfrifiad ar gyfer uchafswm cyfanswm y benthyciadau a ganiateir y flwyddyn hon yn cael eu e-bostio atoch, ynghyd â llythyr cynnig yn manylu eich cymhwysedd ar gyfer y gwahanol fathau o fenthyciad a’r symiau y gallwch eu benthyg. 

    Bydd y llythyr cynnig yn cynnwys y camau sy’n rhaid i chi eu cymryd er mwyn i’ch benthyciad(au) gael eu prosesu’n amserol. Darllenwch hwn yn drylwyr. Bydd angen i chi: 

    1. Gadarnhau’r swm rydych yn dymuno ei fenthyg a dychwelyd copi wedi’i arwyddo o’r llythyr cynnig i’r brifysgol 

    2. Cwblhau’r cais/ceisiadau am fenthyciad a gwiriad cwnsela a chredyd mynediad (ar gyfer benthyciadau PLUS) 

    3. Sicrhau eich bod wedi llofnodi Prif Nodyn Addewidiol ar gyfer Benthyciadau â Chymhorthdal/heb Gymhorthdal Uniongyrchol; 

    4. Darparu sgrinlun yn cadarnhau eich bod wedi cwblhau’r Cwnsela Mynediad (sylwch NA allwn dderbyn ‘Cwnsela Ymwybyddiaeth Ariannol’) hyd yn oed os ydych wedi’i wneud mewn blwyddyn flaenorol – mae’n arfer da gwneud hyn bob blwyddyn am ei fod yn eich atgoffa o’ch cyfrifoldebau yn y Cynllun Benthyciadau Uniongyrchol; a 

    5. Llofnodi Prif Nodyn Addewidiol a darparu sgrinlun o’r neges derbyn gwiriad credyd os byddwch chi’n defnyddio Benthyciad PLUS, 

    Gwnewch hyn i gyd ar-lein yn studentaid.gov. Rydych yn mewngofnodi i hwn drwy ddefnyddio’r un PIN ag i fewngofodi i’ch FAFSA. 

    Cofiwch, os dyfarnwyd ysgoloriaeth i chi gan y brifysgol i dalu am ran o’r ffioedd dysgu neu’r holl ffioedd dysgu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y dyfarniad ar y cam hwn fel y gallwn leihau swm eich ffi dysgu ar eich costau presenoldeb i adlewyrchu eich dyfarniad ysgoloriaeth. 

    Nid ydym bob tro yn gwybod ymlaen llaw p’un a dyfarnwyd ysgoloriaeth i chi felly gellir cyfrifo eich costau presenoldeb ar sail eich bod yn gorfod talu swm cyfan y costau dysgu. Os bydd hyn yn digwydd, cewch eich cam-gymeradwyo am gostau presenoldeb uwch, fodd bynnag, pan fydd eich ysgoloriaeth yn ymddangos ar eich cyfrif yn hwyrach yn y flwyddyn academaidd, yna, bydd rhaid i ni leihau eich benthyciadau. Nid oes gennym unrhyw ddisgresiwn yn hyn o beth.

    Sylwch gan eich bod yn fyfyriwr rhyngwladol, efallai y bydd Gofynion Cynnal a Chadw yn berthnasol i chi. 

    Os na wnewch chi anfon popeth sydd arnom ei angen, ni fyddwn yn gallu dechrau eich benthyciadau. 

    1. Ardystiad benthyciad 

    2. Talu’r benthyciad 

    3. Bydd myfyrwyr israddedig a graddedig yn derbyn dau daliad (un y semester). 

    Pan fyddwch wedi cwblhau camau 1 i 3, byddwn yn dechrau eich benthyciadau ar y system ac unwaith y byddant wedi’u cadarnhau, byddwn yn e-bostio tystysgrif benthyciad US Federal Direct atoch. 

    Er mwyn sicrhau bod eich taliad cyntaf yn cael ei wneud ar amser a bod gennych ddigon o amser i wneud cais am eich fisa rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn cwblhau eich cais am fenthyciad erbyn 31 Gorffennaf 2024 fan bellaf ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi. 

    Ar gyfer myfyrwyr sydd ar flwyddyn academaidd safonol, sy’n dechrau ym mis Medi, bydd y dyddiadau talu cynharaf fel a ganlyn: 

    Taliad 1 Taliad 2
    7 Hydref 2024 10 Chwefror 2025

    O bob taliad (ar ôl ei gyfnewid i £GBP) byddwn yn didynnu swm tuag at ffioedd dysgu, llety (os ydych chi mewn llety Prifysgol) ac unrhyw daliadau eraill sy’n ddyledus, a chaiff y gweddill ei anfon atoch chi. Bydd angen i chi agor cyfrif banc yn y D.U. i osgoi gorfod talu dau daliad cyfnewidfa dramor. 

    Cewch e-bost i’ch hysbysu tua 14 diwrnod cyn pob taliad, yn unol â rheoliadau Ffederal ynglŷn â’ch hawl i ganslo. Unwaith bydd y taliad wedi’i wneud ac rydym wedi didynnu eich ffioedd, fe gewch gadarnhad o unrhyw ad-daliad a gaiff ei roi yn eich cyfrif banc ynghyd â dadansoddiad o sut rydym wedi dyrannu’r taliad. 

    Sylwch y gall gymryd hyd at 14 diwrnod ar ôl dyddiad y taliad i chi dderbyn eich ad-daliad. Er enghraifft, os mai dyddiad y taliad yw 5 Hydref, caiff unrhyw ad-daliad ei dalu i chi erbyn 21 Hydref. 

    Rydym yn gweithio gyda Darparwr Cyfnewidfa Dramor i sicrhau cyfradd gyfnewid gystadleuol ar gyfer pob taliad sy’n gysylltiedig â chyfradd y farchnad ar y pryd. Felly, bydd pob taliad ar gyfer swm gwahanol mewn £GBP. 

  • Pan fyddwch yn derbyn Benthyciadau Myfyriwr Ffederal ar gyfer cyfnod y benthyciad a amlinellir yn eich cais am fenthyciad, mae’n rhaid i chi gofrestru ar eich rhaglen astudio a pharhau i wneud cynnydd academaidd boddhaol. Ystyr cynnydd academaidd boddhaol yw cael cyfartaledd o raddau C (50%) ar y lleiaf dros y flwyddyn academaidd gyfredol. Sylwch fod hyn yn safon uwch na marc pasio’r Brifysgol ar gyfer myfyrwyr israddedig. Byddwn yn gwirio’ch cynnydd cyn rhyddhau arian benthyciadau.

    I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Polisi Cynnydd Academaidd Boddhaol. 

  • Os byddwch yn tynnu’n ôl o’ch cwrs, yn gohirio eich astudiaeth neu’n bresennol llai na 50% o’r amser, rhaid i chi roi gwybod i’r swyddfa Cymorth Ariannol (Cronfeydd Myfyrwyr) yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr heb fod yn hwyrach na phum diwrnod gwaith ar ôl tynnu’n ôl yn ogystal â hysbysu swyddfa eich cwrs. 

    Os bydd myfyriwr sy’n derbyn cymorth ariannol yn tynnu’n ôl o’u cwrs neu bydd eu presenoldeb yn cwympo o dan 50%, byddwn yn ail-gyfrifo eu cymhwysedd i gael cymorth ariannol yn seiliedig ar eu cyfnod presenoldeb. Gallai hyn olygu bod rhaid i chi ad-dalu arian a gawsoch gan fenthyciadau Ffederal Stafford neu Plus rydych wedi’u cael. Efallai bydd rhaid i’r Brifysgol hefyd ad-dalu cronfeydd a gafwyd ar gyfer ffioedd dysgu a/neu lety i Lywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau. Yn yr achos hwn, gallech chi fod yn gyfrifol am dalu ffioedd ychwanegol i’r Brifysgol er mwyn ailosod y cronfeydd hyn.

  • Gwneir unrhyw gyfrifiad yn unol â’r rheolau a bennwyd gan Adran Addysg yr Unol Daleithiau ac ni ellir eu diwygio mewn unrhyw ffordd. 

  • Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob myfyriwr sydd wedi derbyn benthyciad(au) Ffederal ac wedi graddio neu dynnu’n ôl o’u rhaglen astudio, neu mae eu presenoldeb wedi disgyn o dan 50%, gwblhau cwnsela ymadael. Gwneir hyn trwy’r porth Cymorth Myfyrwyr. Ewch i’r safle a dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwnsela ymadael Stafford Loan a neu fenthyciad PLUS. 

  • Eich cyfrifoldeb chi yw ad-dalu eich benthyciadau, yn yr un ffordd, y mae’n rhaid i chi ad-dalu benthyciad banc neu forgais. Pan fyddwch yn gadael eich cwrs byddwch yn dechrau cyfnod gras chwe mis (nid yw hyn yn berthnasol i fenthyciadau PLUS sy’n myned i gyfnod ad-dalu yn syth, ond gallwch ofyn am gael ei ohirio. 

    Mae nifer o opsiynau ad-dalu ar gael i chi a dylech drafod y rhain gyda’ch gwasanaethwr benthyciadau i benderfynu p’run sy’n fwyaf addas ar eich cyfer chi. Os na fyddwch chi’n dewis cynllun ad-dalu cewch eich rhoi ar y cynllun safonol gydag ad-daliadau sefydlog am hyd at ddeng mlynedd. Cewch fanylion eich gwasanaethwr benthyciadau ar wefan NSLDS.

    Cewch fanylion pellach am gynlluniau ad-dalu, gan gynnwyd cyfrifianellau rhyngweithiol, ar y wefan Cymorth Myfyrwyr Ffederal. 

  • Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu cael benthyciad ffederal yr Unol Daleithiau neu nad ydynt yn bodloni meini prawf benthyciad ffederal yr Unol Daleithiau fenthyg gan fenthycwyr preifat yn yr Unol Daleithiau. Er enghraifft, myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs sydd heb ei gymeradwyo ar gyfer benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau (TAR), neu fyfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell wedi’u lleoli yn yr Unol Daleithiau ond wedi cofrestru ar gwrs gradd yn y D.U. yn PCYDDS. 

    Os ydych yn gymwys ar gyfer benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau, cynghorwn eich bod yn edrych ar y rhain cyn gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr preifat yn yr Unol Daleithiau, gan fod benthyciadau ffederal yn aml yn rhatach ac mae’r rhan fwyaf y myfyrwyr o America yn gymwys ar eu cyfer. Sylwch nad yw benthyciadau preifat yr Unol Daleithiau yn caniatáu i chi fenthyg mwy o arian na benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau.

    Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda pha bynnag fenthycwyr preifat y byddwch yn penderfynu ei ddefnyddio, byddwch yn ymwybodol bod nifer y benthycwyr preifat sy’n gwasanaethu ar y D.U. ar hyn o bryd yn gyfyngedig. 

    • Os ydych yn dymuno gwneud cais am fenthyciad preifat myfyriwr yr Unol Daleithiau, anfonwch e-bost atom. 

    • rhaglenni gradd cysylltiedig (yn y DU gelwir y rhain yn raddau sylfaen); 

    • rhaglenni gradd baglor;

    • graddau meistr a rhaglenni doethurol; a 

    • rhaglenni gradd proffesiynol cyntaf Dolenni defnyddiol: