![people sitting down at an Alumni presentation](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2023-11/support-uwtsd-header.jpg?h=77039d24&itok=va47pXWe)
Cefnogi’r Drindod Dewi Sant
Cefnogi’r Drindod Dewi Sant
Efallai y byddech chi’n disgrifio eich amser yma fel rhai o flynyddoedd gorau eich bywyd, felly beth am wneud hynny’n realiti i eraill drwy roi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol.
Rydym ni’n credu’n gryf mai cyn-fyfyrwyr yw ein cefnogwyr a’n llysgenhadon gorau. Mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth ein helpu i ddarparu’r profiadau gorau posibl ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol.
Gallwch chi gefnogi ein myfyrwyr a’n darpar fyfyrwyr mewn nifer o ffyrdd.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi os gallwch gynnig unrhyw gefnogaeth.
Ffyrdd o gefnogi
![Gliniadur ar fwrdd sy'n dangos logo Hynt Graddedigion](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-11/GradOutcomes_English.jpg?h=115daa38&itok=FeOxHQ0k)
Cyfrannu at yr arolwg Hynt Graddedigion
Drwy gwblhau’r arolwg Hynt Graddedigion, gall graddedigion newydd ein helpu i roi cipolwg i ddysgwyr y presennol a’r dyfodol ar gyfleoedd a chyrchfannau gyrfa posibl yn seiliedig ar yr hyn y byddwch yn dweud yr ydych yn ei wneud 15 mis ar ôl i chi orffen eich astudiaethau.
![Visiting student giving advice to current students](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-11/career-journey-talk-or-workshop.jpg?h=4fbd609a&itok=W4rMfT-i)
Sgwrs neu weithdy taith gyrfa
Rhannwch eich gwybodaeth a’ch profiadau trwy fynd yn ôl at eich cwrs neu ddisgyblaeth academaidd i gynnig darlith fel darlithydd gwadd neu weithdy i fyfyrwyr presennol. Efallai bod gennych stori yr hoffech chi ei rhannu am eich taith ar ôl graddio - mae’r effaith mae’r straeon hyn yn ei chael ar brofiad myfyrwyr yn amhrisiadwy. Maen nhw’n gallu agor drysau ac ysbrydoli.
![Alumni staff member presenting to a group](https://www.uwtsd.ac.uk/sites/default/files/styles/page_header/public/2024-01/alumni-advertising-job-opportunities.jpg?h=77039d24&itok=bJCy5_vc)
Hysbysebu cyfleoedd swyddi
Oes gan eich cwmni swydd wag i’w llenwi? P’un ai yw’n ddelfrydol ar gyfer graddedigion newydd neu’n swydd i rywun mwy profiadol, beth am gefnogi cyn-fyfyrwyr eraill y Drindod Dewi Sant trwy anfon y cyfleoedd swyddi hyn atom ni i’w postio ar ein Bwrdd Swyddi a thudalen LinkedIn Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr PCYDDS.
Carem i chi gwrdd â’n myfyrwyr a’n cyn-fyfyrwyr presennol wyneb yn wyneb mewn digwyddiadau gyrfaoedd a rhwydweithio ar ein campysau. Beth am ddod i un o’r rhain i hyrwyddo’ch cwmni a rhannu eich arbenigedd?
![Student working on a piece of stained glass](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-11/offer-work-experience.jpg?h=caf26d13&itok=egUlNLQ7)
Cynnig profiad gwaith
Fel y gwyddoch bydd ein myfyrwyr yn elwa ar gymaint o brofiad â phosibl pan fyddant yn gadael y brifysgol. Os ydych yn berchennog busnes neu mewn sefyllfa o fewn eich cwmni i allu cynnig profiad gwaith neu interniaethau ac yn gallu cynnig profiad sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r cyrsiau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
![Myfyriwr yn tynnu llun ar ei ffôn](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-11/Share-Your-Story.jpg?h=4b7f1b64&itok=60p66eJA)
Rhannu eich stori trwy gyfweliad neu astudiaeth achos
Peintiwch ddarlun o fywyd ar ôl graddio ac ysbrydolwch y genhedlaeth nesaf trwy rannu’ch stori drwy newyddion, astudiaeth achos, neu flog y gellir ei ddefnyddio i farchnata a hyrwyddo’r Drindod Dewi Sant a’ch cwrs astudio.
Gwneud Rhodd
Gall cyfraniad ariannol i’r Drindod Dewi Sant, waeth pa mor fawr neu fach, alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau sy’n newid bywydau a symud ymlaen yn eu hastudiaethau.
Mae rhoddion yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein cenhadaeth o ‘drawsnewid addysg, trawsnewid bywydau’ wedi’i seilio ar ddarparu cyfleusterau, ymchwil, profiadau ar gampws a sianel o dalent o israddedigion i arweinwyr mewn diwydiant, waeth beth fo’u hamgylchiadau ariannol, gan ddarparu mynediad i addysg uwch i bawb.
Gall rhoddion rheolaidd neu unigol fynd tuag at nifer o gronfeydd ac mae croeso i’n rhoddwyr nodi i ble yr hoffent i’w cyfraniadau fynd.
Rydym hefyd yn agored i’ch syniadau felly os hoffech drafod prosiect codi arian, cysylltwch â ni.
Rhoi i Lambed
Os hoffech chi roi rhodd benodol i’n campws yn Llambed, mae gennym nifer o gronfeydd arian y gallwch gyfrannu atynt.
-
Mae’r gronfa hon yn cefnogi ystod o brosiectau ehangu mynediad sy’n ceisio rhoi mynediad i addysg uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd annhraddodiadol. Bydd hyn yn cynnwys grwpiau cymorth a gweithdai rhanbarthol er mwyn rhoi llwybr mynediad i fyfyrwyr sy’n astudio yn Llambed.
-
Mae’r gronfa hon yn darparu bwrsarïau ar gyfer myfyrwyr preswyl newydd o gefndiroedd incwm isel.
-
Mae’r gronfa hon yn cefnogi mentrau sy’n cyfoethogi profiadau myfyrwyr ar y campws ac yn cyfrannu’n sylweddol at fywyd y campws, drwy gynnig cymorth ariannol ar gyfer gwibdeithiau, costau teithiau maes, teithiau ymchwil a rhagor.
-
Pan fyddwch yn cyfrannu trwy Rodd Cymorth , gallwn hawlio’n ôl gan Gyllid a Thollau EM y dreth cyfradd sylfaenol rydych eisoes wedi’i thalu ar eich rhodd. Mae hyn yn cynyddu gwerth eich rhodd i ni o 25%, heb unrhyw gost ychwanegol i chi.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch, gallwch hefyd hawlio’n ôl y gwahaniaeth rhwng treth cyfradd uwch a chyfradd sylfaenol ar gyfanswm gwerth eich rhodd i’r Brifysgol ar eich ffurflen dreth hunanasesu.
-
- Rhodd ariannol – rhodd o swm penodol o arian at ddibenion cyffredinol y Brifysgol
“Rhoddaf i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535) [y swm o £_______].
Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
- Rhodd Benodol – rhodd o eitem(au) penodol at ddibenion cyffredinol y Brifysgol
“Rhoddaf [noder manylion yr eitem(au)] penodol] i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).
Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
- Rhodd Weddilliol – rhodd o weddill yr ystâd i gyd at ddibenion cyffredinol y Brifysgol
“Rhoddaf fy ystâd weddilliol i gyd i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).
Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.
- Rhodd Weddilliol o ganran o weddill yr ystâd gyfan at ddibenion cyffredinol y Brifysgol
“Rhoddaf _____% o weddill fy ystâd [cyn/ar ôl tynnu Treth Etifeddiant, os oes unrhyw swm yn daladwy – argymhellir y dylid cael cyngor cyfreithiol arbenigol ynghylch hyn] i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).
Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd er budd y Brifysgol a enwyd, a bod rhwydd hynt gan y Brifysgol ei defnyddio ym mha ffordd bynnag sydd orau ym marn y Brifysgol ar adeg ei derbyn. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
Mae’r cymalau a awgrymir uchod yn berthnasol lle bo’r rhoddion i’w defnyddio at ddibenion cyffredinol y Brifysgol fel elusen addysgol. Os dymunir cefnogi nodau elusennol penodol neu adrannau penodol o fewn y Brifysgol yna gellir ystyried y dewisiadau amgen canlynol:-
[I gefnogi myfyrwyr]
“Fy nymuniad yw cyflwyno’r rhodd at ei dibenion cyffredinol fel elusen addysgol [A gofynnaf i’r arian gael ei ddefnyddio ar gyfer cymorth ariannol myfyrwyr fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc neu swyddog perthnasol arall ar y pryd.] Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
[I gyfadran/ysgol/adran benodol]
“Fy nymuniad yw i’r rhodd gael ei defnyddio o fewn y [gyfadran/ysgol neu adran] fel y bo’n briodol ym marn Cofrestrydd a Chlerc y Brifysgol neu swyddog perthnasol arall ar y pryd. Os bydd y [gyfadran/ysgol/adran] a nodwyd wedi dod i ben neu wedi uno â chyfadran, adran, ysgol neu goleg arall neu wedi newid ei henw cyn fy marwolaeth, yna gofynnaf i’r Brifysgol ddefnyddio’r rhodd hon mewn cyfadran, adran neu ysgol arall o fewn y Brifysgol fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc neu swyddog perthnasol arall yn ôl eu doethineb. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
Os bwriedir i leoliad arbennig elwa, er enghraifft Campws Llambed neu Gaerfyrddin, yna dylid defnyddio’r geiriad a awgrymir ar gyfer cyfadran/ysgol/adran benodol ond gan ei addasu fel y bo’n briodol.
Enghraifft bosibl:-
“Rhoddaf y swm o £10,000 i Swyddfa Cyn-fyfyrwyr Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7ED (Rhif Elusen Gofrestredig 1149535).
“Fy nymuniad yw i’r rhodd gael ei defnyddio o fewn Cyfadran y Dyniaethau yn Llambed fel y bo’n briodol ym marn Cofrestrydd a Chlerc y Brifysgol neu swyddog perthnasol arall ar y pryd. Os bydd Cyfadran y Dyniaethau yn Llambed wedi dod i ben neu wedi uno â chyfadran, adran, ysgol neu goleg arall neu wedi newid ei henw cyn fy marwolaeth, yna gofynnaf i’r Brifysgol ddefnyddio’r rhodd hon mewn cyfadran neu ysgol arall o fewn y Brifysgol fel y bo’n briodol ym marn y Cofrestrydd a’r Clerc neu swyddog perthnasol arall yn ôl eu doethineb. Ar ôl cyflwyno’r gymynrodd, bydd derbynneb gan yr Is-Ganghellor neu swyddog awdurdodedig arall yn rhyddhad digonol i’m hysgutorion.”
Ymwadiad
Mae’r cymalau a awgrymir uchod yn enghreifftiau o gymalau y gellid eu defnyddio mewn Ewyllys i wneud rhoddion i’r Brifysgol ac mae’n bosibl na fyddant yn briodol ym mhob amgylchiad. Felly, ni ddylid dibynnu ar y cymalau hyn heb geisio cyngor cyfreithiol arbenigol yn gyntaf, yn enwedig o ran goblygiadau Treth Etifeddiaeth. Ni fydd y Brifysgol yn atebol i unrhyw berson sy’n defnyddio’r cymalau enghreifftiol uchod heb gymryd eu cyngor cyfreithiol eu hunain.