Ceisiadau Rhyngwladol
Ceisiadau Rhyngwladol
Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydyn ni’n ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi. Yma, cewch ganllawiau cynhwysfawr ar weithdrefnau ymgeisio, gofynion mewnfudo a fisa, a hyfedredd yn yr iaith Saesneg, gan roi cefnogaeth gadarn i chi ar bob cam o’ch gweithgareddau addysgol.
Sut i wneud cais
Gall myfyrwyr sy’n awyddus i astudio gradd yn llawn amser gyda ni wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Bydd y graddau hyn yn cael eu dyfarnu gan PCYDDS
Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch y Gofrestrfa Ryngwladol.
Gallwch hefyd wneud cais trwy asiant yn eich gwlad chi. Mae PCYDDS yn gweithio gyda rhwydwaith sefydledig o asiantaethau addysgol ar draws y byd sy’n chwarae rhan werthfawr iawn wrth gefnogi ymgeiswyr a darpar fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio gyda ni. Gall asiant eich helpu i wneud cais. Byddan nhw’n rhoi cyngor ar ddewis a gwneud cais am radd, cael fisa a dod o hyd i lety.
Rhestr o Swyddfeydd Rhanbarthol
Swyddfa India PCYDDS
905, Adeilad Kailash, KG Marg, Barakhamba, Delhi Newydd, 110001, India
Os oes gennych ddiddordeb mewn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer PCYDDS, cysylltwch â ni.
Gall Myfyrwyr Rhyngwladol a hoffai astudio gyda ni am semester wneud cais drwy lawrlwytho a llenwi ffurflen gais astudio dramor.
Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau i’r Gofrestrfa Ryngwladol a GoGlobal.
Y dyddiad cau ar gyfer semester yr Hydref yw 30 Mai 2024.
Sylwch fod rhaglenni Astudio Dramor a Chyfnewid yn amodol ar fod wedi cofrestru ar hyn o bryd mewn Prifysgol yn eich mamwlad.
-
Dyddiad cau Campysau Cymru Campws Llundain Campws Birmingham Ar-lein Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 12 Awst 2024 27 Awst 2024 29 Gorffennaf 2024 2 Medi 2024 Dyddiad cau Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) 2 Medi 2024 17 Medi 2024 19 Awst 2024 Amh Dechrau Tymor 23 Medi 2024 7 Hydref 2024 9 Medi 2024 23 Medi 2024 Dyddiad cau
Campysau Cymru
Campws Llundain
Campws Birmingham
Ar-lein Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
18 Tachwedd 2024
13 Rhagfyr 2024
11 Tachwedd 2024
6 Ionawr 2025 Dyddiad cau (CAS)
9 Rhagfyr 2024
22 Ionawr 2025
2 Rhagfyr 2024
Amh
Dechrau Tymor 27 Ionawr 2025 10 Chwefror 2025 13 Ionawr 2025 27 Ionawr 2025 Deadline Wales Campuses London Campus Birmingham Campus Application Deadline Amh 17 April 2025 24 March 2025 CAS Deadline Amh Amh Amh
Mae’n rhaid i bob Myfyriwr Rhyngwladol sy’n ceisio mynediad i’r Brifysgol ddangos eu bod yn rhugl yn y Saesneg i’r lefel a nodir yng ngofynion mynediad a pholisi Saesneg y Brifysgol.
Mae gan PCYDDS wasanaeth arbenigol a chynhwysfawr sy’n rhoi cymorth gyda phob cam o’r broses o wneud cais am fisa ar gyfer astudio yn y DU. Bydd y math o fisa y byddwch ei angen yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gan gynnwys hyd a lefel y cwrs astudio dan sylw.