SKIP-Cymru (Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant dan oed Ysgol)
Hyfforddiant achrededig i gefnogi Iechyd a Llesiant mewn Dysgu Sylfaen (20 credyd)
Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu lefel fanwl o ddealltwriaeth o ddatblygiad corfforol plant drwy ymgysylltu â theori a llenyddiaeth i gefnogi cymhwyso’r rhain i arfer.
Mae darparu’r hyfforddiant dros dymor yn caniatáu amser i’w gymhwyso ac i adfyfyrio arno mewn arfer.
Mae asesu drwy ddyddlyfr adfyfyriol yn eich galluogi i gael dirnadaeth fanwl o’r modd y mae’r broses hon yn effeithio ar eich arfer a deilliannau plant.
Mae 3 gweithdy wyneb yn wyneb ar draws y tymor yn rhoi cyfleoedd i weithio gydag arbenigwyr blaenllaw i addasu arfer, mynd i’r afael â heriau penodol yn codi o’ch lleoliadau chi.
Beth yw strwythur yr hyfforddiant?
Gweithdai ymarferol:
- Bydd angen i chi fynychu 3 diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb dros dymor.
Dysgu o Bell:
- Byddwch yn cwblhau pump awr o theori yn hyblyg ar-lein.
Offer:
- Er mwyn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygiad corfforol plant, mae angen i amrywiaeth o offer priodol fod ar gael iddynt. Gallwn eich cynorthwyo gydag archwiliad o’ch darpariaeth gyfredol.
Asesiad Ymarferol
- Cyflwynwch dasg ymarferol i gymheiriaid yn ystod diwrnodau hyfforddi wyneb yn wyneb.
- Cyflwynwch gynllun a thystiolaeth fideo yn cyflwyno sesiwn datblygiad corfforol i grŵp o blant ynghyd â hunanwerthusiad byr.
Asesiad Ysgrifenedig
- Ysgrifennwch ddyddlyfr adfyfyriol sy’n cysylltu theori â’ch arfer.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn wedi’i deilwra?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at athrawon/gweithwyr proffesiynol sydd…
- Â gradd
- Yn gweithio gyda phlant i adfyfyrio ar weithredu
- Yn cynllunio neu’n rheoli rhaglenni datblygiad corfforol (dosbarth cyfan neu grŵp cymunedol).
Dyddiadau Dechrau a Chostau
Pryd gallaf ddechrau?
I gael gwybod am ddyddiadau cyrsiau ac i gadw lle ar gwrs, anfonwch e-bost at kirsty.edwards@pcydds.ac.uk.
Faint mae’r hyfforddiant yn costio?
Mae’r cwrs SKIP-Cymru Lefel 4 yn costio £500 y pen. Rydym yn cynnig gostyngiadau am nifer o fwciadau.