Mae’n bleser gennyf gael y cyfle hwn i fynegi’r dymuniad i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyflawni statws Prifysgol Noddfa.
Datganiad Cenhadaeth ein Prifysgol yw ‘Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau’ ac mae’n sail i bopeth a wnawn. Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymwybodol o’n sefyllfa fel Prifysgol sydd o Gymru ac yng Nghymru, Cenedl Noddfa, ac sy’n gweithredu’n rhannol yn ardal Abertawe, Dinas Noddfa. Fel Prifysgol ceisiwn gefnogi nodau datganedig y Genedl Noddfa a dymunwn wneud ein rhan i groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Gymru.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd a chymorth addysgiadol i helpu unigolion i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu potensial. Rydym yn dathlu sgiliau, profiad a gwytnwch ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn cydnabod y cyfraniad mae’r grŵp hwn yn gallu’i wneud ac wedi’i wneud i Gymru. Mae gan y Brifysgol draddodiad balch o weithgarwch prosiect a gwaith gyda ffoaduriaid a chyda phobl sy’n ceisio lloches. Mae’r prosiect hwn yn caniatáu i ni ganolbwyntio ein polisïau, ein cefnogaeth, ein gweithgarwch a’n rhwydwaith partneriaeth gyda’i gilydd dan un faner i sicrhau bod ein hymrwymiad yn eglur ac yn ddigamsyniol: mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Brifysgol Noddfa.
Professor Dylan Jones, Deputy Vice Chancellor