Skip page header and navigation

Sioe Haf: Crefftau Dylunio

Crefftau Dylunio

Pieces of stained glass in primary colours divided by black cames; half the glass is covered by a thin piece of chequered cloth.

Sioe Raddio ‘Mater’ 2024

Mae Crefftau Dylunio’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu’r sgiliau gwneud 3D creadigol y mae eu hangen arnynt i weithio’n broffesiynol â gwydr, cerameg, a gemwaith. Mae ein myfyrwyr yn darganfod eu llais creadigol wrth ddatblygu sgiliau gwneud â llaw traddodiadol a dulliau cyfoes megis torri â laser a chwistrell ddŵr ac argraffu 3D.  

Mae’r rhaglen yn cynnig ystod amrywiol o arferion deunydd a phroses, gan gynnwys cerameg, prosesau gwydr a ffurfir yn oer ac mewn odyn, pren, metel, plastigau, gwydr ffibr a resinau, tecstilau, gemwaith, gwneud mowldiau, torri â laser a chwistrell ddŵr, CAD/CAM, argraffu a sganio 3D. Daw hyn law yn llaw â damcaniaeth, sgiliau digidol, proffesiynol a menter yn barod at y diwydiannau creadigol y tu hwnt i raddio. Mae’r garfan sy’n graddio eleni wedi archwilio ystod eang o brosesau ac wedi arbenigo mewn cerameg, gwydr lliw, gwydr wedi’i gastio, gemwaith, cyfryngau cymysg, a hyd yn oed realiti estynedig y gellir ei wisgo.  

Mater: Mae mater o bwys. Mae crefft o bwys. Rydych chi o bwys. 

Llongyfarchiadau i flwyddyn 2024, mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda chi. 

Tîm y Staff 
BA(Anrh) Crefftau Dylunio

Dosbarth '24

Ein Profiad

Amdanon Ni

Charis Constantinou

Mae fy nghasgliad o waith yn adlewyrchu sut y mae Prydain wedi trawsnewid a mynd yn fwy amrywiol dros y ddwy ganrif ddiwethaf, gan gymryd ysbrydoliaeth o ran arddull o’r mudiad Celf a Chrefft Fictoraidd. Dylanwadwyd ar y ddelweddaeth gan decstilau Prydeinig traddodiadol megis gwlanen a chwiltio clytwaith yn ogystal â thecstilau sydd wedi dod i Brydain o bell, megis saris wedi’u brodio’n gain neu ddefnyddiau Affricanaidd o brint traddodiadol. 

Ynghyd â hyn, mae’r manylion yn fy nyluniad yn cyfeirio at symboliaeth ddiwylliannol o bob rhan o’m tref enedigol, Birmingham, gan gynnwys adeiladau crefyddol a gwaith celf diwylliannol modern. Mae’r triptych yn defnyddio’r cwilt clytiau fel trosiad ar gyfer y clytwaith o ddiwylliannau sy’n gwneud cenedl fodern ac ethnig, crefyddol a LHDT+ amrywiol. Mae delwedd y tartan yn hongian, defnydd sy’n draddodiadol Brydeinig, yn cyfeirio at sut mai’r hunaniaethau hyn yw’r ffibrau sy’n gweu gyda’i gilydd i greu ein cenedl, sy’n newid ac yn tyfu’n barhaus.

Ar ôl i mi adael Abertawe, rwy’n bwriadu cychwyn fy musnes gwydr lliw fy hun, yn gweithio ar gomisiynau mentrus ac unigryw ar gyfer cleientiaid gydag estheteg fodern. 

Dabrowka Kornas

Mae fy mhrosiect mawr ‘Biblically Accurate Tea Set’ yn archwilio’r rhyngweithiad rhwng fy niwylliant, traddodiad, crefydd a hunaniaeth. Mae’i ffurf yn anweithredol mewn ystyr confensiynol, ond er hynny mae’n gwahodd mewnsyllu, gan adlewyrchu cymhlethdod hunaniaeth yn wyneb dylanwadau ac argyhoeddiadau’r mwyafrif.  

Gan weithio gyda phorslen, mae’r llestri te’n defnyddio gloyweddau yn ogystal â manylion a paentiwyd ag ocsid er mwyn adlewyrchu celf werin Bwylaidd. Rwy’n gobeithio archwilio a phortreadu diwylliant ymhellach mewn synnwyr cyfoes yn fy ngwaith cerameg pellach. Yn y dyfodol, rwy’n bwriadu parhau i wneud darnau gweithredol ac anweithredol a fydd yn ysbrydoli meddwl a sgwrsio.   

Diane Wilson

Dylunydd wneuthurwr o Gymru yw Diane, a pherchennog ‘At the edge of the sea…’

Fe’i ganed yng Ngogledd Cymru ond mae hi wedi treulio llawer o’r ddau ddegawd diwethaf yn Ne Cymru; tirweddau dramatig a chyferbyniol y wlad arfordirol hon fu’n ysbrydoliaeth barhaus i’w gwaith.

Mae ei gyrfa a’i haddysg wedi canolbwyntio yn y gorffennol ar les a chefnogi’r rheiny sydd â rhwystrau i ddysgu, yn ogystal ag astudio Astroleg, Paraseicoleg ac Ymarferydd Iachau Cyfannol Japaneaidd. Mae’r dylanwadau cyfunol hyn yn effeithio ar ei harfer ac yn ysgogi ymchwil i les ysbrydol drwy ein cysylltiad â’r môr. Mae lles ein planed hefyd yn ffactor bwysig ac mae’n ymdrechu i aros yn ymwybodol o faterion amgylcheddol cyfoes ac i fabwysiadu arferion cynaliadwy.

Mae Diane yn archwilio’r themâu hyn mewn lleoliad crefft gyfoes trwy ddetholiad o ddeunyddiau. Mae ei hoff ddeunyddiau’n cynnwys gwydr, copr, piwter ac enamelau; ei hoff dechnegau yw torri â llaw traddodiadol, gwneud mowldiau, sgwrio â thywod a chastio. Er bod yn well ganddi fabwysiadu a hyrwyddo’r prosesau traddodiadol hyn, mae Diane wedi cofleidio cymorth technoleg mewn prosiectau dethol ac wedi arbrofi â decalau ffotograffig, argraffu 3D, ysgythru â laser a thorri â chwistrell ddŵr. 

Elwyn Barnes

Enw fy mhrosiect mawr yw paralelau ac mae’n mynd i’r afael â stereoteipiau a pha mor niweidiol a chyfyngol y gallant fod. Rwy’n creu cerfluniau cerameg sy’n portreadu anifeiliaid â nodweddion ac emosiynau dynol, gydag addurniadau darluniol yn aml. Rwy’n gweithio gyda chlai crochenwaith caled y gellir ei fowldio a’i gerfio â llaw i ddatgelu’r anifeiliaid sy’n cuddio oddi mewn iddo. Mae tanwydredd yn darparu lliw a modd o ddarlunio ar fy narnau. Mae fy mhrofiad bywyd fy hun yn ddyn traws yn ysbrydoli naratifau fy ngwaith, gan gyffwrdd ar themâu dysfforia, derbyniad, cariad, dyhead a rhyddid mynegiant.

Mae niwroamryiwaeth yn dylanwadu ar bob darn rwy’n ei wneud, gan ddefnyddio fy ngherfluniau i ennyn dealltwriaeth a helpu eraill i weld golygwedd unigryw unigolion awtistig. Mae fy ngwaith celf ar gyfer unrhyw un a hoffai gael darn unigryw, boed hynny ar gyfer orielau, casglwyr neu ar gyfer y cartref! 

Nancy Farrington

Rwy’n gweithio gyda chastio mewn odyn i archwilio materoldeb gwydr trwy lens tecstilau. Gan ddefnyddio technegau trin defnydd megis crychu (smocking and gathering), rwyf wedi datblygu fy mhrosesau fy hun i drosi tecstilau yn wydr, gan fy nghaniatáu i archwilio’r cydadwaith rhwng priodweddau deunyddiau gwrthgyferbyniol – meddal a chaled, tryloyw ac anrhyloyw, bregus a chadarn. 

Gan weithio gyda gorweddiad naturiol defnydd a chyfyngiadau castio, rwy’n mwynhau caniatáu i’m ffurfiau cerfluniol ymddangos yn ddigymell yn ystod y broses wneud, gan arwain at gymysgedd eclectig o siapau gyda chysylltiadau esthetig â daeareg, melysion, a ffurfiau corfforol. Mae hanesion diwylliannol pwytho yn llenwi fy ngwaith â themâu cysyniadol benyweidd-dra, gwaith menywod, ffasiwn hanesyddol a hiraeth, sy’n adlewyrchu fy niddordebau a’m hymchwil personol fy hun. 

Oliwia Kaczmarek

Dylunydd gemwaith cyfoes yw Oliwia Kaczmarek, sy’n arbenigo mewn gemwaith realiti cymysg a realiti estynedig. Gan wthio’r ffiniau rhwng y real a’r digidol, mae gwaith Oliwia’n holi’r cwestiwn ‘a all realiti ymestyn y tu hwnt i’r pwynt corfforol?’

Mae posibiliadau diderfyn dyfodol gemwaith mewn cymdeithas a ysgogir gan dechnoleg yn ysbrydoliaeth fawr i waith Oliwia.

Gyda dyfodol ansicr, ac adnoddau’n mynd yn fwy prin, yr un peth cyson a erys yw datblygiad technoleg. Bydd angen i wreiddiau gwneud gemwaith traddodiadol esblygu er mwyn goroesi.  

Tazmin Baldwin

Mae fy nhaith artistig yn troi o gwmpas archwilio’r cydadwaith cymhleth rhwng golau, lliw, a seicoleg, i gyd drwy gyfrwng hynod ddiddorol gwydr. Rwy’n gweithio mewn ffordd gysyniadol, mae agweddau synhwyraidd a seicolegol celf yn ennyn fy chwilfrydedd, gan archwilio themâu’r cof, hunaniaeth, colled, a’r synhwyrau; y rhain yw’r ffactorau sy’n ysgogi fy ymdrechion creadigol. Mae fy arfer yn cwmpasu ystod amrywiol o dechnegau gwydr, o sgrin-brintio a sgwrio â thywod i asio a llathru, mae’r rhain yn caniatáu ar gyfer delweddaeth fanwl a haenau, gan greu dyfnder a chanfyddiad newydd mewn gwydr 2D. Rydw i hefyd yn ymgorffori arferion digidol, gan eu defnyddio i gyfoethogi fy nyluniadau a gwella fy nhechnegau ymarferol. 

Trwy gyfuno sgil ddigidol, rwy’n cymysgu fy themâu craidd gyda chrefftwaith arloesol yn rhwydd. Mae’r cydadweithio egnïol rhwng golau a lliw mewn gwydr yn cynnig posibiliadau di-ben-draw ar gyfer mynegiant artistig. Trwy arbrofi parhaus, rwy’n ymdrechu i greu darnau sy’n cyfareddu syllwyr, gan eu gwahodd i brofiad synhwyraidd sy’n adlewyrchu fy niddordeb yn y cyfrwng deinamig hwn. Mae gwydr yn newid yn gyson, ac mae ei freuder a’i gryfder yn fy nenu at ei gymhlethdodau ac yn gwthio terfynau fy nghrefft. Taith sy’n esblygu’n barhaus yw fy ngwaith, sy’n datgelu dimensiynau a chyfleoedd newydd ym myd celf gwydr. 

Tony Stephens

Artist a gwneuthurwr sydd wrthi’n archwilio posibiliadau cerameg wedi’i danio â mwg. proses danio gyffrous ac anrhagweladwy yw hon, sy’n wastad yn creu syrpreisys a rhyfeddod – hyd yn oed oes bydd pethau’n mynd ‘o’i le’. Mae pob proses danio yn ddigwyddiad!

Daw ysbrydoliaeth o edrych ar y ffyrdd mwy cyntefig o greu, a diddordeb yn hud y byd naturiol. Bûm yn ddigon ffodus i fyw mewn ardaloedd hardd o’r du, a gelwir rhai o’r lleoedd hyn yn ‘fannau tenau’. Lleoedd elfennol ydyn nhw lle rydych yn teimlo presenoldeb natur ac yn gweld pa mor fach yr ydym ni mewn gwirionedd a sut rydym yn effeithio ar y systemau naturiol o’n cwmpas. Mae’r lleoedd hyn wedi gadael hôl ysbrydol arnaf i sy’n aml yn dod i’r amlwg yn fy ffordd o feddwl a’m harfer.