Sut i Wneud Cais
Gwneud cais i'r Brifysgol
P’un ai ydych chi’n bwriadu astudio ar gyfer gradd baglor, gradd meistr neu ddoethuriaeth, rydym ni yma i helpu i wneud y broses ymgeisio mor rhwydd â phosib. Rydym ni’n deall bod meddwl am wneud cais i brifysgol yn gallu bod yn gyffrous ar un llaw ac yn ddyrys ar y llall. Ein nod yw sicrhau bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud cais.
Gallwn ni roi cyngor ar wneud cais trwy UCAS, neu roi cyngor ar wneud cais yn uniongyrchol neu drwy asiant. Gallwn ni roi awgrymiadau gwych ar ysgrifennu datganiad personol disglair a hefyd eich cynghori os ydych chi’n rhoi cymorth i ymgeisydd. Wrth i chi ymchwilio i’r adnoddau rydyn ni wedi’u casglu, byddwch chi’n dod o hyd i gamau gweithredu, awgrymiadau o lygad y ffynnon, a phrofiadau myfyrwyr presennol sydd wedi dewis yr un llwybr â chi.
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost dilys ar eich cais fel na fyddwch chi’n colli unrhyw negeseuon pwysig gan y Brifysgol, nac oddi wrth UCAS pan fydd hynny’n berthnasol.
Os oes gennych chi unrhyw anableddau neu gyflyrau iechyd, nodwch hyn ar eich ffurflen gais. Yna gallwn weithio gyda chi i ystyried pa gymorth ac addasiadau y gallai fod eu hangen er mwyn i’ch astudiaethau fod yn hygyrch a’ch galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol.
Explore our Carmarthen Campus
Mae eich antur israddedig yn dechrau nawr. P'un ai a ydych chi'n chwilio am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais ar gyfer gradd baglor neu gyngor ar baratoi cais rhagorol, rydyn ni yma i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi ddilyn eich trywydd eich hun.
Sut i Wneud Cais Israddedig
Gan ddibynnu ar y rhaglen, gallwch wneud cais am le ar ein rhaglenni Ar-lein a Dysgu o Bell yn uniongyrchol i ni neu drwy UCAS - gwasanaeth derbyn y prifysgolion a’r colegau
Er y gall dewis astudio mewn gwlad wahanol ymddangos yn anodd i ddechrau, rydym yn ymroi i sicrhau fod y broses yn un rhwydd i chi.
Gyda rhaglenni Prentisiaeth PCYDDS cewch barhau i weithio tra byddwch yn astudio, gan ddatblygu eich cymhwysedd yn y gweithle yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig (fel HNC, HND, gradd, neu Radd Meistr).
Mae gennym rwydwaith o asiantau ar draws y byd yn barod i'ch helpu gyda'ch cais.
Mae'r Brifysgol wedi penodi cynrychiolwyr/asiantau lleol a all gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth gyda cheisiadau gan ddarpar fyfyrwyr.
Rydyn ni’n ymdrechu i roi arweiniad gwerthfawr i’n myfyrwyr pan fyddan nhw ar ddechrau eu taith academaidd.
Cysylltu â’r Tîm Derbyn
-
Ffôn: 0300 500 5054
E-bost: admissions@uwtsd.ac.uk
Campws Caerfyrddin
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Llawr 1af Adeilad Dewi
Heol y Coleg
Caerfyrddin
SA31 3EP
Campws Llambed
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Adeilad Caergaint
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7ED
Campws Abertawe
Swyddfa Dderbyniadau
Y Gofrestrfa
PCYDDS
Technium 1
Heol y Brenin
Abertawe
SA1 8PH -
Ffôn: 0300 373 0651
E-bost: homerecruitmentwales@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 0121 229 3000
E-bost: birminghamadmissions@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 0207 566 7600
E-bost: londonadmissions@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 01792 482050
E-bost: international.registry@uwtsd.ac.uk -
Ffôn: 01267 676849
E-bost: RegistryPGR@uwtsd.ac.uk -
Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’ch cofnod cofrestru myfyriwr, arholiadau, graddio neu os ydych am wneud cais am drawsgrifiad/tystysgrif mewn perthynas â’ch astudiaethau yn PCYDDS, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r Gofrestrfa.
Cofrestru
Rhaid i bob myfyriwr gofrestru cyn y gallant ymuno â’r Brifysgol yn swyddogol.
-
Cofrestru yw’r broses sy’n sicrhau eich bod yn:
- Cytuno bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol am flwyddyn academaidd gyfan neu ran ohoni
- Cytuno cadw at Statudau, Ordinhadau a Rheoliadau’r Brifysgol a thalu’r holl ffioedd perthnasol (fel ffioedd dysgu).
- Creu a/neu newid eich cofnod myfyriwr.
Os na fyddwch chi’n cofrestru, ni fydd gennych yr hawl i:
- Dderbyn eich cerdyn adnabod myfyriwr
- Cael amserlen eich cwrs ac adnoddau eraill sydd eu hangen ar gyfer eich rhaglen astudio
- Cymryd rhan mewn asesiadau
- Derbyn Tystysgrif Eithrio rhag y Dreth Gyngor (lle’n briodol)
- Derbyn eich cyllid myfyriwr (lle’n briodol)
- Byw mewn neuaddau preswyl (lle’n briodol)
- Cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth ychwanegol gan y Brifysgol
-
Dylai’r broses gofrestru barhau am tua 15 munud. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch: