Skip page header and navigation

Sut i Wneud Cais

Darllenwch y wybodaeth ganlynol cyn mynd ati i wneud eich cais. Efallai bod gofynion ychwanegol yn berthnasol ar gyfer rhai rhaglenni, felly darllenwch dudalennau’r rhaglenni unigol.​ Bydd ceisiadau’n cael ei ystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain. 

  • Os ydych yn gwneud cais am un o’n Doethuriaethau Proffesiynol, neu Radd Meistr trwy Ymchwil ac eisiau cael trafodaeth anffurfiol gyda’r Rheolwr Rhaglen cyn cwblhau cais, mae’r manylion cyswllt ar gael ar dudalen y rhaglen berthnasol.

    Os ydych yn gwneud cais i ddechrau ar eich prosiect ymchwil eich hun megis PhD, MPhil neu PhD trwy Waith Cyhoeddedig, cewch eich cefnogi gan dîm goruchwylio o ddim llai na dau oruchwyliwr, sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Astudiaethau ac o leiaf un goruchwyliwr arall. Bydd o leiaf un goruchwyliwr gyda chi ar gyfer MSc drwy Ymchwil.  Felly, cyn i chi wneud cais, y cam cyntaf yw cysylltu â Rheolwr Graddau Ymchwil yr Athrofa berthnasol yn eich maes ymchwil arfaethedig i gael gwybod pwy yw’r goruchwylwyr sydd ar gael i’ch cefnogi.​ 

    Chwiliwch am y manylion cyswllt sy’n berthnasol i chi ar dudalen Athrofa eich pwnc:

    Mae croeso hefyd i chi gysylltu â registrypgr@uwtsd.ac.uk 

  • Mae’r gofynion mynediad academaidd ar gyfer graddau ymchwil wedi’u nodi ym Mhennod 8 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd a’r Cod Ymarfer ar gyfer Graddau Ymchwil. 

    Fel arfer mae angen gradd Meistr neu radd anrhydedd ail ddosbarth uwch sy’n berthnasol i’r prosiect ymchwil arfaethedig neu brofiad proffesiynol cyfatebol er mwyn astudio ar gyfer PhD, PhD trwy Waith Cyhoeddedig, Doethuriaeth Broffesiynol ac MPhil.

    Fel arfer mae angen gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch sy’n berthnasol i’r prosiect ymchwil arfaethedig neu brofiad proffesiynol cyfatebol er mwyn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Ymchwil a gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth trwy Ymchwil.  

  • Rhaid i bob ymgeisydd nad y Gymraeg na’r Saesneg yw eu hiaith frodorol ddarparu tystiolaeth o’u gallu yn y Gymraeg neu’r Saesneg i lefel sy’n angenrheidiol er mwyn cwblhau’r rhaglen waith ac i baratoi i gyfiawnhau traethawd ymchwil yn yr iaith honno.​  Fel arfer, mae hyfedredd myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn cael ei brofi gydag isafswm sgôr IELTS cyffredinol (neu gyfwerth) o 6.5 (gan gynnwys isafswm sgôr o 6.5 mewn darllen ac ysgrifennu).

    Mae rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg y Brifysgol ar gael yn: Gofynion Mynediad Iaith Saesneg | PCYDDS.

  • Dewiswch eich cwrs gan ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio e.e. PhD. Bydd angen i chi ddewis teitl y rhaglen, gyda’ch dyddiad dechrau arfaethedig a’ch dull astudio, megis amser llawn neu ran-amser, o bell neu ar y campws, cliciwch drwodd i’r ffurflen gais.

    Pan fyddwch yn dechrau ar eich cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfrinair er mwyn i chi fedru mewngofnodi unrhyw bryd i gwblhau eich cais.

    Mae tri cham i’r ffurflen. Mae Cam 1 yn gofyn am wybodaeth sy’n ymwneud â chi. Mae Cam 2 yn wybodaeth sy’n ymwneud â’r cwrs yr ydych yn ei ddewis, fel eich addysg a’ch cymwysterau blaenorol a’ch Cynnig Ymchwil neu eich Datganiad Personol. Mae Cam 3 yn ymwneud â Datganiadau.

    Mae’n rhaid i chi gwblhau pob un o’r meysydd gorfodol (wedi’u marcio â *) cyn y gallwch chi Gadw a symud i’r adran nesaf. Ar waelod y sgrin ym mhob adran, cewch yr opsiwn i Gadw yr hyn rydych chi wedi’i lenwi a Pharhau i’r adran nesaf, neu i Gadw a Gadael a dychwelyd i’r ffurflen yn nes ymlaen. Pan fydd adran wedi’i chwblhau a’i chadw, bydd tic gwyrdd yn ymddangos.

    Mae’r ffurflen yn cynnwys cyfarwyddiadau cynhwysfawr i chi eu dilyn, ac mae blychau cymorth ar gael ym mhob adran, yn manylu ar y wybodaeth ofynnol. Pan fyddwch wedi cwblhau a chadw pob cam a phob adran, cliciwch ar ‘Cyflwyno’.

  • Mae eich cynnig ymchwil yn rhan allweddol o’ch cais ymchwil ôl-raddedig. Dyma eich cyfle i ddangos eich gwybodaeth am eich pwnc a sut y bydd eich ymchwil yn gwneud cyfraniad gwreiddiol i’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn y maes hwnnw.

    Mae’r adran hon o’r cais ar-lein wedi’i rhannu i’r penawdau canlynol gyda blychau testun i’w llenwi:

    Teitl arfaethedig
    Teitl dros dro eich gwaith ymchwil. Gall y geiriad newid wrth i’ch ymchwil ddatblygu.

    Cefndir a chyd-destun
    Yn yr adran hon, bydd angen i chi:

    • Rhoi’r testun ymchwil yn ei gyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol;​
    • Egluro pam fod yr ymchwil yn arwyddocaol ac yn bwysig;
    • Rhoi’r ymchwil yn ei gyd-destun academaidd presennol;
    • Cyfeiriwch at destunau allweddol
    • 500 o eiriau

    Cwestiwn ymchwil arfaethedig

    Amcanion arfaethedig

    • Eglurwch beth rydych chi eisiau ei gyflawni drwy’r gwaith ymchwil
    • Amlinellwch amcanion y gwaith ymchwil.
      250 o eiriau

    Amcanion arfaethedig
    Amlinellwch y cam(au) y byddwch yn eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.
    250 o eiriau

    Methodoleg arfaethedig

    Yn yr adran hon, bydd angen i chi egluro sut y byddwch yn cyflawni eich nodau a’ch amcanion:

    • Esboniwch eich agwedd/dull disgyblaethol;
    • Disgrifiwch y dulliau y byddwch yn eu defnyddio i gynnal eich ymchwil e.e. ymchwil yn y llyfrgell, ymchwil ar-lein, gwaith maes, dadansoddi data gweledol, cyfuniadau o’r rhain;
    • Cyfeirnodwch eich gwaith gan ddefnyddio’r system gyfeirnodi sy’n briodol i’ch disgyblaeth.
      500 o eiriau

    Cyfraniad a wneir i wybodaeth yn y maes
    Nodwch sut y bydd canlyniadau’r ymchwil hwn yn effeithio ar y maes pwnc neu’r maes proffesiynol.

    Llyfryddiaeth fynegol

    • Dylech gynnwys yr holl waith a ddyfynnwyd yn y cynnig ymchwil; 
    • Dylai’r rhestr fod yn nhrefn yr wyddor gan ddefnyddio’r system gyfeirnodi sy’n briodol i’r ddisgyblaeth. 

    Teipiwch yn y blychau i gadw’r fformat yn hytrach na gludo o ddogfen Word.​

  • Teitl arfaethedig

    Dylai eich teitl roi arwydd clir o thema eich ymchwil arfaethedig a’r cwestiynau ymchwil cysylltiedig sy’n cael eu trafod yn eich gwaith.​

    Portffolio o Gyhoeddiadau

    Yn yr adran hon, bydd angen i chi:

    • ddarparu rhestr fanwl o’r gwaith cyhoeddedig a fydd yn cael eu cynnwys yn eich cyflwyniad terfynol, ynghyd â thystiolaeth o argaeledd cyhoeddus a’r modd y gellir olrhain y gweithiau cyhoeddedig;
    • dylai’r rhestr fod yn nhrefn yr wyddor gan ddefnyddio’r system gyfeirnodi sy’n briodol i’ch disgyblaeth. 
    • rhaid darparu manylion llawn am gyhoeddiadau ynghyd â chanran y cyfraniad at unrhyw gyhoeddiadau cydweithredol;
    • darparwch ddolenni i’ch cyhoeddiadau.

    Sylwadau Beirniadol Cychwynnol ar y Corff o Waith

    Rhowch ddatganiad o ddim mwy na 3,000 o eiriau. 

    Yn yr adran hon, bydd angen i chi ddangos:

    • cydlyniad y corff o waith;
    • effaith academaidd y corff o waith a’i gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn eich maes sydd o safon sy’n cyfateb i PhD “traddodiadol”; 
    • y themâu a’r materion allweddol yr ydych, ar hyn o bryd, yn rhagweld y byddwch chi’n eu defnyddio i integreiddio, syntheseiddio a dangos effaith eich portffolio o gyhoeddiadau trwy’r sylwebaeth feirniadol sy’n ofynnol mewn traethawd ymchwil cyffredinol.

    Teipiwch yn y blychau i gadw’r fformat yn hytrach na gludo o ddogfen Word.​

  • Darparwch wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais, fel pam yr ydych chi eisiau dilyn y rhaglen hon, sut yr ydych yn disgwyl elwa o ddilyn y rhaglen a’r sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n eich gwneud yn ymgeisydd addas. Mae’r wybodaeth y byddwch chi’n ei roi yn ein galluogi i adnabod set ehangach o sgiliau na’r rhai y mae eich cymwysterau a’ch geirdaon yn eu dangos. Ceir uchafswm o 64000 nod ar gyfer y datganiad personol.  

  • Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen gais ar-lein, bydd angen i chi gasglu’r dogfennau ategol canlynol ynghyd:

    • tystiolaeth o’r cymwysterau uchaf (copïau o dystysgrifau neu drawsgrifiadau gwreiddiol, a chyfieithiadau Saesneg os oes angen. Os yw’ch enw bellach yn wahanol i sut y mae’n ymddangos ar dystysgrif, rhowch dystiolaeth ddogfennol swyddogol);​ 
    • prawf o bwy ydych chi (pasbort, tystysgrif geni).

    Gellir uwchlwytho dogfennau i’r cais ar-lein yn y fformatau ffeil canlynol:

    .jpg, .png, .jpeg, .doc, .docx a .pdf Uchafswm maint y ffeil yw 5MB.

    Dylai’r dogfennau yr ydych chi’n eu huwchlwytho fod yn glir ac yn dangos y ddogfen yn llawn.

    Bydd hefyd angen i chi baratoi’r canlynol:

    • enwau a manylion cyswllt e-bost dau ganolwr;
    • datganiad personol, ar gyfer Doethuriaethau Proffesiynol a rhaglenni Meistr trwy Ymchwil;
    • cynnig ymchwil, ar gyfer PhD, PhD trwy Waith Cyhoeddedig, MPhil a Meistr mewn Gwyddoniaeth trwy Ymchwil.
  • Bydd y ffurflen gais ar-lein yn gofyn i chi am enwau a manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost, dau ganolwr. Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, bydd e-bost yn gofyn am eirda yn cael eu hanfon yn awtomatig at eich canolwyr, yn eu gwahodd i gwblhau geirda trwy ddolen a fydd yn arwain at eich cais.​

    Fel arfer, dylai’r canolwyr fod yn unigolion o sefydliad yr ydych wedi astudio ynddo neu lle’r oeddech yn gyflogedig neu lle’r ydych yn cael eich cyflogi ar hyn o bryd. Fel arfer, dylai canolwyr allu gwneud sylw ar eich gwaith academaidd. Os ydynt yn dod o sefydliad yr ydych wedi astudio ynddo, yna rhaid iddynt fod yn academyddion sydd wedi asesu eich gwaith fel rhan o’r cymhwyster sy’n cael ei ddefnyddio i gael lle ar y rhaglen.​ Os ydynt yn dod o sefydliad yr ydych wedi bod yn gyflogedig, neu’n cael eich cyflogi yno ar hyn o bryd, yna mae’n rhaid iddynt fod wedi bod yn rheolwr llinell arnoch. Ni ddylai’r canolwyr fod yn perthyn i chi nac yn ffrind personol. 

    Cewch yr opsiwn hefyd i uwchlwytho geirda. Rhaid i eirda sydd wedi ei baratoi o flaen llaw fod ar bapur pennawd ac yn cynnwys llofnod. Rhaid iddynt hefyd fod yn rhai diweddar (o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf).

  • Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais ar-lein, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth ar e-bost.

    Bydd y Gofrestrfa (Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig), neu’r Gofrestrfa Ryngwladol yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth. 

  • Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych fod statws eich cais wedi newid ac yn eich gwahodd i weld y diweddariad ym mhorth ymgeiswyr MyTSD.​ Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwch yn gallu gweld y penderfyniad a’r llythyr cynnig.   Dewiswch o’r opsiynau i dderbyn neu wrthod.

Gwybodaeth bellach

  • Hydref, Chwefror a Mehefin, yw’r dyddiadau cychwyn fel arfer er cofiwch nad yw pob rhaglen ar gael ar bob dyddiad. Edrychwch ar dudalen we y rhaglen berthnasol, gofynnwch i Reolwr Graddau Ymchwil yr Athrofa neu cysylltwch â’r Gofrestrfa (Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig).

    Ar gyfer y PhD, PhD trwy Weithiau Cyhoeddedig, MPhil a Meistr yn y Gwyddorau trwy Ymchwil, os ydych yn ymgeisydd ‘cartref’, gwnewch gais ar gyfer y dyddiad dechrau sydd well gennych a byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni eich cais. Argymhellir cyflwyno’n gynnar; fel arfer wyth wythnos cyn y pwynt mynediad. Os ydych yn ymgeisydd tramor, cyfeiriwch at y dyddiadau cau cyflwyno perthnasol ar y tudalennau Ceisiadau Rhyngwladol.