Skip page header and navigation

Sioe Haf: Celf a Dylunio Sylfaen

Celf a Dylunio Sylfaen

Blue line drawing of a calm, slightly pensive male face reflected horizontally from the centre of the banner; the background is solid magenta.

Cyfnewid

Eleni gwnaeth myfyrwyr cwrs Sylfaen gweithio ar wahanol safbwyntiau mewn meysydd arbenigol eang megis Celf Gain, Tecstilau, 3D a Chyfathrebu Gweledol i gynhyrchu gwaith sy’n ymwneud â’r teitl CYFNEWID.

Cyfnewid yw’r pwynt pan ddaw’r cyffredin yn rhyfeddol. Yn Aml mae dechrau’r broses greadigol  yn cynnwys sicrwydd mewn syniadau ac arferion cyfarwydd. Mewn Cyfnewid  dyma pryd fyddwn yn cymryd yr elfennau hyn ac yn eu cyfuno â’r annisgwyl. Ar y pwynt hwn gall syniad drawsnewid o ragdybio at ddwys. 

Tîm y Staff 
CertHE Celf a Dylunio Sylfaen

Dosbarth '24

Ein Gwaith

Agnieszka Nowak

Cyffyrddiad. Ofn. Cywilydd. Unigrwydd.

Mae’r gwaith hwn yn archwilio cyffwrdd a beth mae’n ei olygu i estyn allan am help. Yr ofn a’r cywilydd sy’n dod gyda phroblemau personol na allwn ddelio â nhw ar ein pen ein hunain. Sut y gall unigrwydd effeithio ar ein penderfyniadau a sut y gall cysylltiad corfforol wneud i’r problemau hyn ddiflannu, neu ein helpu i ddelio â nhw. Bydd y stigma ynghylch problemau penodol (trais ac ymosodiad rhywiol, dibyniaeth ar gyffuriau, cam-drin) yn aml yn ddigon i atal person rhag estyn allan am help neu hyd yn oed siarad amdanynt.

A oes unrhywbeth sy’n cymryd lle anwyldeb a chyffyrddiad? A allwn roi i ni ein hunain yr holl gariad sydd ei angen arnom? 

Al Attala

Mae’r gwaith hwn yn dangos ac yn bodoli mewn byd ffuglennol fel dull o archwilio dileu posibilrwydd. Wrth ddarlunio gwareiddiadau a’r rhesymeg sy’n sail iddynt, mae’r paent yn calcheiddio’r carped, gan rewi ei blygiadau yn eu lle. Wrth gymhwyso ystyr ddiwylliannol, mae potensial eitem yn cael ei ddileu ac mae’n dod yn beth cyffredin. Mae agwedd ddigidol y gwaith yn caniatáu i wylwyr gamu i’r byd a ddarluniwyd a phrofi ei reolau diwylliannol, ei systemau gormes a’i resymeg. Trwy ddynwared adloniant ailadroddus a chwarae gyda’r dewis a gyflwynwyd, mae’n archwilio sut y gall unrhyw beth ddod yn rhywbeth cyffredin, trais yn benodol. 

Amy Megan Smith

 Mae’r darnau a ddangosir yn cael eu creu gan ddefnyddio amrywiol dechnegau maelwisg: mae’r gorchuddion llaw yn defnyddio patrwm 4-yn-1 Ewropeaidd, mae’r clustdlysau yn defnyddio patrwm 6-yn-1 Japaneaidd, ac mae’r mwclis yn defnyddio patrwm 4-yn-1 Persiaidd. Er mai’r patrwm 4-yn-1 Ewropeaidd yw’r mwyaf cyffredin ar gyfer gwneud eitemau ar raddfa fwy, mae’r patrymau Japaneaidd a Phersiaidd yn nodweddiadol wrth greu gemwaith am eu bod yn addasu’n well i ddyluniadau cymhleth. Trwy broses arbrofol, mae’r gwaith yn archwilio sut y gellir addasu patrymau sylfaen gwahanol i wneud amrywiol ddyluniadau gemwaith unigryw. 

Annika Hanson-Carlson

Disgwyliad 

Er fy mod i wrth fy modd â ffilmiau tawel, rwy’n sylweddoli efallai nad ydyn nhw mor hygyrch i gynulleidfa fodern, sydd ddim yn gyfarwydd â’r cyfrwng, oherwydd y diffyg lliw a deialog rydyn ni wedi dod i arfer â nhw mewn sinema fodern. Roeddwn i eisiau tynnu sylw’r gwyliwr at y ffilm, nid trwy sain ond lliwiau llachar. Argraffwyd a lliwiwyd pob ffrâm â llaw, dewis a ysbrydolwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau cynnar, George Melies, a’r darn o Yellow Submarine (1968) oedd wedi’i rotosgopio. Mae’r lliwiau a’r patrymau sy’n symud yn gyson yn y ffilm hon yn crisialu cyffro’r cymeriad wrth arwain at y gusan. 

Anya May

Ar hyd fy oes rwyf wedi cael perthynas heriol gyda hunaniaeth, a hunanddelwedd aneglur, gyfnewidiol. Mae hyn oherwydd anhwylder ffiniol personoliaeth. Mae’r casgliad hwn o gerfluniau a fideos yn gwireddu dilyniant fy hunaniaeth wrth i mi fynd yn hŷn. Tra hefyd o’r farn bod popeth yn digwydd am reswm ac mae hynny’n rhoi’r hyder i mi y bydd popeth yn iawn yn y pen draw er gwaethaf heriau bywyd.

Er fy mod wedi cael trafferth ar adegau gyda hunanddelwedd a phersonoliaeth, mae fy lle diogel a fy ‘hunan delfrydol’ wedi aros yn gyson.

Ari James

Mewn ymateb i friff yr Interchange, mae fy ngwaith wedi meddiannu a diweddaru fy narlun sy’n bodoli’n barod, sef cymeriad a enwais yn ‘Ink’. Gan dynnu ar y technegau yr wyf wedi’u dysgu a’u datblygu drwy gydol fy amser ar y cwrs hwn, a gweithio gyda themâu gan gynnwys creu a dinistrio, rwyf wedi archwilio’r cyfyngiad tameidiog o ddefnyddio 24 ffrâm yr eiliad mewn ffilm fer wedi animeiddio. Defnyddiwyd y darnau celf gysyniadol a gyflwynir fel rhan o’r arddangosfa hon i gynorthwyo’r broses animeiddio. 

Charlotte Davies

Rwy’n cael fy nhynnu’n gyson at ‘Girl with a Dove’ gan Picasso am ysbrydoliaeth. Mae’r darn hwn yn taro tant gyda mi, gan ennyn ymdeimlad o ddiniweidrwydd a llonyddwch yng nghanol amseroedd cythryblus. Yn fy ngwaith cyfredol, rwyf wedi cael fy arwain gan y paentiad, gan ddefnyddio ei liwiau ac ymgorffori’r dechneg wnïo draddodiadol o Corea o’r enw ‘Bojaji’ i adeiladu siapiau a lliwiau.

Fy mwriad oedd ail-ddychmygu gofod trothwyol lle mae golau naturiol yn dod a mynd, gan adlewyrchu treigl amser ac emosiynau.

Roedd y broses o wneud y cerfluniau gweol hyn yn broses fwriadol, drefnus yn cynnwys torri, trefnu, pinio, presio a gorchuddio o fewn fy amgylchedd creadigol - ystafell deuluol yn llawn prysurdeb gyda chymysgedd o dawelwch, anhrefn, syniadau, chwareusrwydd, goleuo, cysylltiad a symud. 

Chloe Duggan

An Ordinary Love.

Wrth chwilio am hanfod y person rwy’n ei garu, yn lle hynny rwyf wedi dod o hyd i harddwch ac arwyddocâd yn yr eiliadau bach sy’n mynd heibio heb i neb sylwi. Wrth arsylwi a chadw dyddlyfr, rwyf wedi crisialu’r hud mewn pethau cyffredin a’r llawenydd yn y drefn arferol. Ein perthynas gyffredin gydag eiliadau sy’n eiddo i ni yn unig yw’r hyn sy’n ein gwneud ni’n anghyffredin.

Daniel Rees

Ar gyfer y gwaith hwn, canolbwyntiais ar y syniad o newid neu drawsnewid, yn bennaf mewn ystyr bersonol ond hefyd yn gyffredinol. Mae’r flwyddyn hon wedi dod â llawer o newid o ran yr amgylchedd ac yn fy mywyd personol. Roeddwn i eisiau portreadu nad yw newid bob amser yn beth drwg ond eto gall fod yn anhygoel o ysgytwol ac yn aml yn anodd delio ag ef neu addasu iddo. Gall gymryd llawer allan ohonom, yn gorfforol ac yn emosiynol. 

Emily Ellard

Fe wnaeth archwiliad o systemau canghennog a phatrymau ffractal; gwythiennau, canghennau, gwreiddiau a chelloedd, fy ngalluogi i archwilio rhwydweithiau sy’n gynhenid i’r corff dynol a natur.

Ar gyfer hyn, ystyriais ffyrdd y mae bodau dynol wedi’u cydblethu â natur trwy strwythurau a ymgorfforir gan fywyd dynol a phlanhigion, gan gwestiynu ein perthynas â natur. Er enghraifft, dinistrio gerddi cwrel sydd wedi’u diliwio gan gyffyrddiad dynol, yn y bôn wedi’u halogi. Rwyf wedi cynhyrchu dilledyn cysyniadol sy’n fwriadol organig ei natur, wedi’i seilio ar fy ymchwil, gan gyfeirio hefyd at y broblem o ddiliwio cwrel, sy’n weladwy yn yr edafedd  naturiol, di-liw, crai a heb eu lliwio a ddefnyddiwyd.

Roeddwn i eisiau i’r gwisgwr a’r gwyliwr weld y gwrthdaro hwn trwy’r dilledyn ei hun. Mae’n dangos cysylltiad ond hefyd datgysylltiad â’n hamgylchedd, sydd yn ei dro’n ysgogi’r syniad o ‘gyfnewid’ fel thema gyffredinol. 

Emma Millington

Mae newid yn anochel, ond nid yw’n ddrwg i gyd pan fyddwch wedi’ch amgylchynu gan y bobl rydych chi’n eu caru. Pan fydd gennych eich gilydd mae’n ymddangos bod popeth yn cwympo i’w le. Mae bywyd yn llawn newid, ond dylid ei ddathlu o hyd. Mae bywyd yn ffordd hir iawn all gael ei thorri’n fyr ar unrhyw adeg. Felly, ar gyfer fy narn i, penderfynais anrhydeddu’r newidiadau diweddar ym mywyd fy nheulu; rwyf wedi creu archif o fywyd priodasol fy Ewythr a’m Modryb.

Eve Slatter

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchiad ac yn gasgliad o eiliadau a dreuliwyd gyda fy nhad cyn iddo farw. Mae ffotograffau, fideos a chyfnodolion yn gweithredu fel llinell amser ar gyfer ei fywyd cyn i mi a phan wnesi ei adnabod. Mae’r fideo yn arddangos amgylcheddau a phrofiadau a ddogfennodd ef, sydd mor anghyfarwydd i mi ac rwy’n cwestiynu pethau nad oeddwn yn eu gwybod am fy nhad, ei feddyliau a’i deimladau personol a sut mae’n newid fy safbwynt ar bethau rwy’n eu cofio amdano.

Trwy ddweud y stori, rwy’n talu teyrnged iddo fel person ac fel tad a’m perthnasedd cynyddol iddo y tu allan i’r person yr oeddwn yn adnabod. 

Georgia Day

Dechreuodd y darn hwn fel archwiliad i fy mhroses greadigol bersonol, gan esblygu ar hyd y ffordd i ymchwilio’r hyn sydd yn ac y gellid ei ystyried yn ‘gelf’. Rwyf wedi arbrofi gyda gweadau a delweddau nad ydynt yn cael eu hystyried yn ‘gelf’ gonfensiynol, ac wrth rannu sut rwy’n edrych ar y byd, sylweddolais fy moddhad esthetig fy hun yn y frodorol. 

Hannah Flint

Mae’r gwaith hwn yn archwilio mynegiant rhywedd trwy ategolion gwisgadwy, a ddatblygwyd trwy syniadau ‘gwrth-harddwch’. Crëwyd fy narnau i hyrwyddo delweddau trawsddynol er mwyn darganfod yr hunan, trwy gymryd ysbrydoliaeth o estyniadau ewinedd acrylig a thueddiadau mwy cyfredol fel gemau dannedd, gan eu hail-greu mewn ffordd fwy grotesg a dwys. Diben hyn yw caniatáu i’r gwyliwr weld trwy’r un lens ag ydw i’n gweld fy mhrofiad rhywedd personol, yn ei ffordd unigryw a bron yn ymosodol ei hun.

Wrth wthio agweddau bach mewn ffasiwn, fel ategolion, i ffyrdd na ellir eu gwisgo bron, fel trwy ehangu fy ngheg, gan ddatgelu fy nannedd amherffaith, teimlwn ymdeimlad o ryddhad a llawenydd, wrth ymgyflwyno fel rhywun ‘hyll .’ Mae cael y rheolaeth i ymgyflwyno’n frawychus yn fwriadol wedi bod yn rhyddhaol iawn.

Izzy Green

“Methiant pensaernïol sylfaenol; ymagwedd cyfundrefnedig, cyson at fyd o anhrefn “rhyfeddol” llwyr.”  

Gordan Matta – Clark

Yn adlewyrchiad ar foderniaeth ac ideolegau Le Corbusier, mae’r darn ffotograffig hwn ar raddfa fawr yn archwilio ailadroddiad o fewn pensaernïaeth. Trwy broses weithdrefnol o adeiladu, mae’r gwaith yn cwestiynu gallu’r strwythurau hyn i ddarparu ar gyfer profiad dynol unigol.

Jazz Owen

Gwnaed y gwaith hwn i rannu profiadau menywod yn y 21ain ganrif. Ei bwrpas yw gwneud i’r gwyliwr deimlo’n anghyfforddus, a chydnabod sut y gwneir i rai menywod deimlo wrth i rywrai ddynesu atynt: chwibanu arnynt, gafael ynddynt, eu taro. Yn bersonol, rwyf i, ynghyd â llawer o ferched eraill, wedi profi’r math hwn o sylw nas dymunwyd. Dywedir wrthym, “mae hyn oherwydd yr hyn yr ydych yn ei wisgo.”

Jess Morton

Ein Gwirionedd

Mae’r darn hwn yn cynrychioli digwyddiad diffiniol, a brofwyd o dri safbwynt gwahanol.

Ei (ef), Ei (hi) a ‘realiti’. Mae’n tynnu ar y llinellau aneglur rhwng cof, rhagfarn a chamargraff, a sut y cânt eu defnyddio i ychwanegu Ein Gwirionedd

Joseph Nash

Mae’r casgliad hwn o waith wedi’i ysbrydoli gan y teithiau cerdded wythnosol rwy’n mynd arnynt gyda fy Nan a’n cŵn, a mwynhau arfordir Gŵyr. Penderfynais archwilio tri llwybr yn yr ardal, sy’n gorgyffwrdd ac yn cyfnewid. Fe wnes i olrhain ystadegau’r teithiau cerdded ar y ap ‘Strava’, a ddefnyddir i wella’r profiad mewn chwaraeon dygnwch trwy gofnodi a dadansoddi pellter, hyd a’r camau a gymerwyd.

Ar ôl recordio’r teithiau, creais gyfres o bosteri wedi’u dylunio i hysbysu ac annog eraill i gerdded, sy’n dangos y llwybrau cyfnewidiol a gymerais, ynghyd â dehongliadau mewn delweddau, minimalaidd, fflat o eiliadau gyda fy nghi mwyaf chwareus, Kiko a’r golygfeydd godidog syydd yn ei amgylchynu. 

Joseph Thompson

Mae llonyddwch penodol i’w gael wrth ailadrodd prosesau syml, dro ar ôl tro. Yn y darn hwn roeddwn i eisiau archwilio’r arfer myfyriol y tu ôl i ddatblygu patrymau ailadroddus, a sut mae llinellau a siapiau syml yn esblygu i fod yn strwythurau cymhleth pan gânt eu lluosi a’u trefnu mewn ffyrdd penodol.

Keanu Markoff

Mae’r gwaith hwn yn archwilio’r syniad o ‘Gyfnewid’ trwy’r cysyniad o chwarae a rhyngweithio. Gan ddefnyddio deunydd cyfansawdd o’r enw Valchromat, sy’n gryf ac yn cynnig amrywiaeth mewn lliw, mae’n cyflwyno’r posibiliadau o ategolion a swyddogaeth ddeuol, gan ddefnyddio magnetau i alluogi dyluniadau i gael eu newid a’u haddasu yn unol â dewisiadau esthetig y gwisgwr. 

Leanne Pepper

Cymerwch sedd a gorffwys calon flinedig. Gadewch i’r gwydr daflu cynhesrwydd ac eglurder ar y corff a’r meddwl, i losgi anobaith ac ymostyngiad i ffwrdd yn raddol. Efallai bod cyfryngau heddiw yn condemnio, yn mynnu hunan-fflangellu, ond yma, mae’r byd naturiol yn eich croesawu ac yn meddwl amdanoch. Eisteddwch yn ôl a rhyfeddu.

Mae’r darn hwn yn eich gwahodd i edrych y tu hwnt i anobaith, i godi uwchlaw’r llwyth o wybodaeth negyddol am yr hinsawdd a chredu y gallwn newid er gwell: gwerthfawrogi ac ailgysylltu â’r byd naturiol. Mae’r rhuthr am gynnydd wedi twyllo dynoliaeth i feddwl ein bod ar wahân i natur, pan mewn gwirionedd, rydym yn gydgyfnewidiol.

Mae eistedd ac edrych ar y darn hwn yn gweithredu fel gweddi i chi’ch hun a’r byd naturiol: “Rwy’n gweld fy hun ynot ti, ac nid wyf wedi rhoi’r gorau iddi.”

Niamh Hill

Cyfnewid trwy ddarnio

Roeddwn i eisiau archwilio’r syniad o ddadfeiliad a darnio ffisegol a sut mae deunyddiau a thecstilau yn ymateb i wahanol brosesau sy’n rhoi ôl traul arnynt ac yn newid eu siâp a’u ffurf. Mae dadfeilio yn thema allweddol yn y darn hwn ac mae’n ymateb i ymweld â’r gweithfeydd copr adfeiliedig yn yr Hafod.

Mae’r gwaith yn archwilio patina a gweadau’r strwythurau sy’n dadfeilio – mae’r palet lliw yn cael ei lywio gan y mwyn copr a oedd yn elfen mor sylfaenol o orffennol Abertawe.

Mae pinnau copr yn cysylltu â’r profiad o fateroldeb yr wyf yn ei gyfleu trwy fy ngwaith ac yn cysylltu â thopograffeg lle, gan bwysleisio natur fregus a threuliedig y gwaith, ond hefyd ein hamgylchedd. Defnyddir cyfnewid yn y cyd-destun hwn fel thema gyffredinol sy’n archwilio’r rhinweddau ansefydlog hyn. 

Noah Richards

Trwy ailadrodd digidol, mae’r gwaith hwn yn dangos y broses o ddirywio. Mae gweithredoedd dynol yn cyflymu’r cyfraddau dirywio presennol yn y byd naturiol, gyda 50 o bob 20,000 o rywogaethau yn diflannu bob blwyddyn. Trwy 50 ailadroddiad digidol o 20,000 picsel, mae’r gwaith hwn yn gwneud cyfraddau dirywio yn fwy gweladwy, gan adlewyrchu sut mae gweithredoedd dynol yn dod â ni’n agosach at drychineb amgylcheddol.  

Osian Hallgarth

Mae chwedl Icarus yn ein hannog i ystyried sut y dylem hedfan: os byddwn yn hedfan yn rhy uchel bydd ein hadenydd yn toddi yn yr haul ac os byddwn yn hedfan yn rhy isel, byddwn yn boddi yn y môr. Y foeswers yw hedfan gan roi sylw i’r ystyriaethau hyn, dod o hyd i gydbwysedd, a deall ein lle yn y byd.

Fe wnes i greu’r gwaith hwn i rannu stori Icarus mewn perthynas â dylunio cyfoes, trwy adeiladu adenydd wedi’u crefftio â llaw, gan ddefnyddio deunyddiau modern, yn cynnwys plastig, papur, MDF a glud, yn lle’r cwyr cannwyll a’r plu a ddefnyddiwyd yn fersiwn wreiddiol Icarus.

Mae’r gwaith yn ein gwahodd i ystyried ein hymddiriedaeth yn y mecanweithiau sy’n ein cefnogi, ac i gydnabod manteision a chanlyniadau ein dewisiadau.

Dychmygwch eich hun yn gwisgo’r adenydd hyn: hedfanwch i ffwrdd, a byddwch yn gyfrifol ar lwybr eich taith. 

Patrice Hutchings

Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos yn gyfres o arbrofion â thecstilau sy’n mynd i’r afael â’r cof. Mae’r gwaith yn defnyddio ffabrig a gymerwyd o ddillad aelodau o’r teulu, gan gynnwys y rhai a fu farw yn ddiweddar. Fe’i hysbrydolwyd gan yr artist Louise Bourgeois, a ddefnyddiodd ei dillad ei hun i wneud darnau celf, cerfluniau ffabrig a llyfrau fel ffordd o gofnodi ei phrofiadau.

Yn fy ngwaith, mae’r dillad wedi cael eu datbwytho, yna’u torri i siâp. Mae hyn wedi’i symboleiddio gan y llaw, sy’n awgrymu’r weithred o wneud ei hun, ond mae hefyd yn ymgorfforiad o fyfyrwyr a staff eraill ar y cwrs Celf a Dylunio Sylfaen. Mae pob templed llaw yn dynodi myfyriwr unigol, wedi ei arysgrifennu â neges bersonol. Gofynnais, “beth oedd eich hoff atgof o’r cwrs”. Roeddwn i eisiau gallu crisialu hyn, yna’i gynnwys mewn darn llyfr arbrofol, y gall y gwyliwr ei droi a’i drin a’i drafod. Mae’n gweithredu fel atgof o’r amser a dreuliais eleni ar y cwrs Sylfaen.

Romany Timm

Америка дарова (What’s up America)  

Mae’r casgliad bach hwn wedi’i ysbrydoli gan gyfnewid arddull rhwng America fodern a Dwyrain Ewrop Ôl-Sofietaidd. Addurnais y dillad ail-law hyn gyda fy addasiadau fy hun i gynrychioli cyfnewidiad gweledol o bethau Americanaidd a Dwyrain Ewropeaidd gan ddefnyddio darnau grynj ag ôl traul arnynt, elfennau wedi’u gwneud â llaw, a phwyslais ar fanylion bach. Trwy gydol y casgliad roeddwn i eisiau cynrychioli pa mor gyffredin oedd brandiau ffug yn yr Undeb Sofietaidd oherwydd eu cyfyngiadau ar farchnata cyfalafol, yn enwedig Adidas, a ddaeth yn symbol diwylliannol o Rwsia a Dwyrain Ewrop. Ochr yn ochr â’r casgliad mae cymysgedd o hip hop Americanaidd a Dwyrain Ewropeaidd.  

Roxy Bender

Sŵn cloch wynt yn cael ei gario gan wynt ysgafn trwy ei chegin ar ddiwrnod trymaidd yng nghanol haf. Mae’r darn hwn yn bodoli fel cofeb ac mae’n prosesu’r teimladau yn dilyn marwolaeth mam ffrind annwyl iawn. 

Mae natur dros dro’r cydrannau (cyfuniad o wrthrychau hapgael, a gwrthrychau gwneud wedi’u llunio o ddeunyddiau sydd ar gael yn rhwydd) yn adlewyrchu angen dybryd i ymateb yn y foment trwy ddefnyddio’r hyn sydd wrth law ac yn ymarferol fel offerynnau mynegiant, yn ogystal â dealltwriaeth ei bod yn amhosibl trosi atgofion ac emosiynau anhraethadwy, byrhoedlog a wynebir trwy fywyd a marwolaeth. 

Scarlett Hegarty

Rwy’n cael fy nhynnu yn isymwybodol at y strwythur mewn pethau cyffredin, a’r patrymau sy’n creu eu hunain yn fy mywyd. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae’r ffordd hon o feddwl wedi datgelu ei hun yn fy mhroses o wneud, gan fwydo i mewn i’m penderfyniadau esthetig yn reddfol, bron fel ail natur.

Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu agweddau ar natur drefnus bywyd tra’n dal i ddal gafael ar yr ymdeimlad hwnnw o anhrefn ac anrhagweladwyedd sydd heb fod yn bell i ffwrdd mewn bywyd. Wedi’i lywio gan y mudiad Minimalaidd, mae estheteg y gwaith yn fwriadol gynnil, gan greu pwyslais ar linell a ffurf. Trwy drefn, strwythur ac ailadrodd mae’r gwaith wedi fy helpu i ddeall fy nhueddiadau creadigol fy hun, gan ddysgu mwy amdanaf fy hun yn y broses.

Shannon Jones

Mae’r dyluniad o siandelïer, sy’n hawdd ei adnabod ar unwaith, yn gysylltiedig â moethusrwydd, gormodedd a phrydferthwch. Mae’r gwaith hwn yn cyfuno syniadau o ysblander â sbwriel wedi’i daflu i ffwrdd i esgor ar gyferbyniad syfrdanol, gan annog ystyriaeth o sut rydym yn defnyddio plastig untro er hwylustod: rhoi cyfoeth o flaen cynaliadwyedd.

Gan adleisio effaith ddeniadol golau ar blastig o dan y dŵr, mae’r gwaith yn defnyddio techneg debyg i’ch temtio i mewn. Unwaith y tu mewn, rydych chi’n cael eich dal, wedi’ch amgylchynu gan blastig untro, yn wynebu’r syniad bod yna ddewis. Er ei bod yn hysbys i bawb bod y môr yn cael ei dagu gan blastig, mae’n gysyniad pell i ffwrdd, yn un na allwn ei weld. Trwy daflu goleuni ar y pwnc hwn, mae’r gosodiad hwn yn dod â’r perygl i’r wyneb, gan eich herio i amgyffred realiti llym ein heffaith ar y byd a’n cartref.

Sophia Hixson

Mae My Floral Garden yn gasgliad o dair gwisg gysyniadol ac ategolion sy’n dangos ystyr benyweidd-dra meddal trwy ddyluniadau blodeuog a chynllun lliw cydweddol. Gyda’r tair gwisg gysyniadol hyn, rwyf wedi arddangos tri blodyn arwyddocaol: Blodau Sakura, Tegeirianau a Lilïau Gwyn. Fel fy hoff flodau, maent yn symbol o wahanol ystyron i mi’n bersonol, ond gydag un yn gyffredin: harddwch. Rwyf wedi meithrin fy arddull fenywaidd fy hun, wedi’i hysbrydoli gan waith Valerieivi Milano a Shushu/Tong, gan gynhyrchu ffilm fer o fy nillad a wisgwyd gan Haowei Zhang.

Tim Evans

Lleisiau

Mae’r gosodwaith hwn yn archwilio mwyhau a thawelu ymadroddion gwleidyddol. Megaffonau yw lleisiau’r rhai nas clywir i ddod yn glywadwy. Mae dogfennau golygedig briffio’r heddlu yn cynrychioli ymyrraeth y wladwriaeth i orfodi mudandod. Mae tawelu lleisiau gwleidyddol wedi digwydd yn y broses hon, a’r ymyriad hwn yw’r gwir bwynt cyfnewid, lle mae celf a realiti gwleidyddol yn gwrthdaro. Mae’r wladwriaeth yn tawelu, a chelf yn mwyhau.

Todd Richards

Crëwyd rhai o’r darnau hyn gan ddefnyddio gwydr wedi torri sydd wedi’i adfer a’i ychwanegu at y clai i greu rhywbeth newydd a gwreiddiol. Mae rhai o’r arbrofion hyn yn archwilio gwead a haenau o wydredd. Dylai’r gweadau a grëwyd gael eu trin a’u trafod a’u mwynhau yn gorfforol ac yn weledol.  

Mae’r darnau hyn sydd wedi’u gwneud â llaw i fod i gael eu defnyddio; nid casglu llwch yn unig. Cafodd y syniad hwn ei feithrin ynof yn ifanc, wrth i mi dreulio amser gyda fy hen nain oedd yn defnyddio ei llestri cerameg bob dydd. Pe baent yn torri, yna byddent yn torri ar ôl cyflawni’r pwrpas y cawsant eu creu ar ei gyfer. Mae adennill deunyddiau sydd wedi’u taflu a defnyddio gwrthrychau a waredwyd yn elfen amgylcheddol a hanfodol o’m harfer.

Tyler White

Wrth i mi sefyll o flaen fy nghreadigaethau, caf fy atgoffa o wirionedd sylfaenol: er y gall ffeithiau a siartiau roi gwybodaeth, daw gwir ddysgu o drochi yn y byd, o archwilio, creu, a’r llawenydd pur o fyw. Mae’r athroniaeth hon yn sail i’m taith artistig. Wrth fentro i’r byd, rwy’n crisialu ei hanfod trwy’r lens, gan gyfuno ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau. Mae pob delwedd yn dyst i’r cyfoeth o brofiad a geir y tu hwnt i werslyfrau ac ystafelloedd dosbarth. Trwy fy nghelf, rwy’n gwahodd eraill i ymuno â mi i gofleidio rhyfeddodau bywyd, gan danio chwilfrydedd, a dathlu harddwch bodolaeth.

Yasmin Warrey

Mae You Can’t Go Home yn edrych ar gyfnewid diwylliant a mewnfudo trwy hanes perthynas ryng-hil fy nain a’m taid. Mae’n gofnod o’u profiadau nhw ac yn ddatganiad gwleidyddol am harddwch amlddiwylliannaeth a’m creodd i fod fel yr wyf, yn cynnwys ffotograffau teuluol ac ysgrifennu a ysbrydolwyd gan sgyrsiau gyda fy nain a’m taid. Yn eu geiriau nhw: 

“O ystyried ein bod yn dod o gefndiroedd gwahanol iawn (un ohonom o feysydd glo Swydd Efrog, y llall o ddinas hynafol ar gyrion anialwch yn Iran), mae’r ddau ohonom wedi gallu dysgu llawer i’r llall yn y blynyddoedd cyn ac ar ôl ein priodas – gwersi am sut mae gwahanol ddiwylliannau yn effeithio ar ei gilydd a sut mae rhai gwerthoedd (fel cariad a harddwch) yn rhagori ar wahaniaethau a ffiniau gwleidyddol a chrefyddol. 

“Mae bod gyda’n gilydd wedi ein gwneud yn effro i leoedd sy’n llawn hanes rhyngddiwylliannol – yn wir, wedi’u creu allan o  hanes rhyngddiwylliannol; lleoedd lle mae rhywun yn dod ar draws haenau o ddiwylliannau ar ben ei gilydd, lleoedd fel Istanbul, Sisili, Cordoba, Toledo a Rhufain. 

“Rydym wedi dysgu peidio â meddwl am ein cefndiroedd diwylliannol ein hunain fel rhai cynhenid uwchraddol neu unigryw eu gwerth, gan fod yn falch ein dau o’r hyn sydd orau yn ein treftadaeth ein hunain (ac efallai â chywilydd o’r hyn sydd waethaf). Yn ymwybodol ac yn anymwybodol, rydym wedi annog ein plant a’n hwyrion i werthfawrogi amrywiaeth (a chydgysylltiad) gwahanol draddodiadau diwylliannol; i ystyried y byd, yn hytrach na’ch man geni yn unig, fel eich treftadaeth.”  

(Parvin a Glyn)