Skip page header and navigation

Cyflwyniad

Mae’r cwrs Sylfaen wedi’i leoli mewn stiwdio fawr, agored, brydferth yng Nghyfnewidfa Ddylunio ALEX, a adnewyddwyd yn ddiweddar, ac yma oedd lleoliad cyntaf y cwrs dros 100 mlynedd yn ôl. Rydym yn gweithio ar draws Campysau Alex a Dinefwr sy’n cynnig mynediad llawn i fyfyrwyr at weithdai, cyfleusterau ac adnoddau pwrpasol yn y Coleg Celf.

Myfyriwr Celf yn gweithio mewn stiwdio

Yr Ysgol Gelf

Mae gan y Coleg Celf rai o gyfleusterau gorau’r ardal, gan gynnwys offer traddodiadol a thra modern sydd ar gael i’r holl fyfyrwyr fanteisio arnynt. Mae’r myfyrwyr sylfaen yn cael mynediad i feysydd astudio arbenigol megis: Gwneud printiau, Ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth, Adeiladu mewn gweithdy â chyfarpar llawn, Argraffu 3D, Torri â laser, Cerameg a Gwydr, mannau gwaith digidol gyda chyfrifiaduron personol a Mac.

Myfyriwr yn peintio darn celf gyda chwistrell

Profiad a Sgiliau

Rydym yn cynnal ethos a hud y cwrs Sylfaen, gan alluogi i fyfyrwyr adeiladu sail o brofiad a sgil wrth ddarganfod meysydd newydd nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i’w harchwilio o’r blaen.  Credwn fod hyn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ar lefel gradd ac yn hollbwysig o ran gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.

Cyfleusterau

Mae ein myfyrwyr Sylfaen yn mwynhau mynediad at gyfleusterau gwneud printiau traddodiadol ar draws ein dau gampws celf a dylunio yng nghanol y ddinas, megis:

  • letterpress
  • lino
  • argraffu sgrin
  • ysgythru
  • risograff
  • colagraff
  • peiriannau gwasg Adana

Mae’r rhain yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau crefft traddodiadol wrth lunio delweddau a ffurf llythrennau, ochr yn ochr â’n darpariaeth ddigidol bwrpasol.

Yn yr adeilad a fu unwaith yn hen lyfrgell gyhoeddus Abertawe, rydym wedi’n lleoli mewn adeilad pensaernïol ysbrydoledig a adeiladwyd yn wreiddiol yn 1887.

Mae ein lle stiwdio Sylfaen helaeth yn arbenigo ym mhedwar llinyn penodol ymarfer dylunio tri dimensiwn, cyfathrebu gweledol, celfyddyd gain a thecstilau.

Mae gan bob un ei le stiwdio pwrpasol ei hun.

Mae ein gweithdai yn Adeilad Alex yn arbenigo mewn adeiladu a dylunio tri dimensiwn yn seiliedig ar ddeunydd ac maent yn cynnwys cyfleusterau helaeth sy’n cefnogi offer llaw traddodiadol a phrosesau peiriant.

Mae gan fyfyrwyr fynediad at resin a chastio plastr, ffurfio a phrosesu gwydr, sgwrio â thywod, enamlo, torri, troi, ac argraffu 3D.

Yn ein campws Dinefwr mae myfyrwyr hefyd yn elwa o fynediad at floc cerameg, stiwdio ffotograffiaeth ac ystafell dywyll, cyfleusterau argraffu ffabrig a thorri laser.

Mae ein gweithdai islawr yn Adeilad Alex yn arbenigo mewn adeiladu a dylunio tri dimensiwn yn seiliedig ar ddeunydd ac maen nhw’n cynnwys cyfleusterau helaeth sy’n cefnogi offer llaw traddodiadol a phrosesau peiriant.

Gyda chymorth arbenigol gan ein technegwyr profiadol a gwybodus, mae gan fyfyrwyr fynediad at gastio resin a phlastr, ffurfio a phrosesu gwydr, sgwrio â thywod, enamlo, ysgythru asid, torri, llwybro, melino, troi, offer thermo-ffurfio ac argraffu 3D.

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.