Skip page header and navigation

Hafan | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swansea Students

Eich Stori Chi

Byddwch yn arwr eich stori trwy gael yr union addysg sydd at eich dant. Mae gennym ni 20 maes pwnc i chi ddewis o’u plith. O fewn pob un, mae ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli chi. Mae’n amser gafael yn eich dyfodol a throi eich uchelgais yn realiti. 

Rydym ni’n cynnig profiad personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd sy’n ysbrydoli, gyda digonedd o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu bod digon o amser i drafod a bod gennych chi ddealltwriaeth well o’ch pwnc. Byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym mhennod nesaf eich stori.

More to Explore

four students on beach playing in shallow water

Archwilio eich opsiynau yn ystod Clirio

Mae’r cyfnod clirio yn adeg gyffrous pan fo digonedd o gyfleoedd ar gael i chi. Efallai eich bod wedi gwneud penderfyniad hwyr i fynd i’r brifysgol, wedi newid eich meddwl am eich pwnc, neu ddim wedi cael y canlyniadau yr oeddech  chi’n eu disgwyl; os felly, mae gan y system Glirio ystod eang o gyrsiau i’ch ysbrydoli. 

Mae ein tîm cyfeillgar wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’ch cwrs delfrydol.

banner

Cydiwch yn eich dyfodol â dwy law.

Mae gennym ystod eang o gyrsiau ar gael drwy’r broses Glirio ar draws:
Celf a Dylunio, Rheolaeth Busnes, Cyfrifiadura, Addysg, Peirianneg, Iechyd, y Dyniaethau, y Gyfraith, y Cyfryngau, Perfformio, Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon a rhagor.

 

Dathlu Llwyddiant

Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau drwy ein haddysg arloesol, a graddio yw ein hamser i ddathlu llwyddiant ein myfyrwyr wrth iddynt ddod yn gyn-fyfyrwyr i ni.

Ymunwch â ni i ddathlu llwyddiant rhai o’n graddedigion a darganfod y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud ar ôl graddio gyda ni.

Dechreuwch ar eich Antur

Cewch chi ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli. Yn ystod eich cwrs, byddwch chi hefyd yn edrych ar wahanol lwybrau gyrfa a dewisiadau ar gyfer eich dyfodol. Beth bynnag yw eich uchelgeisiau, byddwn ni’n eich helpu chi i gychwyn yn llwyddiannus gan gadw eich nodau’n gadarn mewn golwg. 

Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym ni gannoedd o opsiynau i chi ddewis o’u plith.

Ffeithiau a Ffigurau

Ffeithiau a Ffigurau

Y Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau i Ddod