Skip page header and navigation

David Migliorati N’Doua

Profiad David yn PCYDDS

A motorbike rider in yellow and black protective gear doing a wheelie on a dirt track.

Enw: David Migliorati N’Doua

Cwrs: BEng Peirianneg Beiciau Modur

Astudiaethau Blaenorol: Mecaneg a Mecatroneg (Ysgol uwchradd – Yr Eidal)

Tref eich cartref: Stezzano (Yr Eidal)

Profiad David ar BEng Peirianneg Beiciau Modur

Tri beic modur, yn cynnwys dau mewn lliwiau rasio, yn sefyll mewn gweithdy sydd â ffenestri mawr.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Y peth gorau oedd y gweithdai beiciau modur lle roeddem yn gallu rhoi theori ar waith.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Symudais i Abertawe am fy mod wedi gweld y gallai’r cwrs fy helpu i ddod o hyd i swydd ym maes rasio beiciau modur ac roedd yn gydbwysedd da o theori ac arfer. Hefyd, roedd arna’i eisiau profiad o fyw mewn gwlad dramor. Rwyf wedi anfon neges at foi arall o’r Eidal oedd yn mynychu fy nghwrs, a chadarnhaodd fy nisgwyliadau. Roeddwn yn gweithio fel dylunydd CAD yn Yr Eidal ar y pryd, yna gwnes gais i fynychu ysgol Saesneg i wella fy iaith gyda’r nos ar ôl gwaith.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Fe wnes i fwynhau bod yn aelod o Tîm MCR (Tîm MSport Eng bellach). Ces i wella fy sgiliau ymarferol a chael profiad uniongyrchol o weithio fel aelod o dîm rasio, gan gystadlu mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Fi oedd cynrychiolydd y myfyrwyr ar fy nghwrs, ac ymwelais i â sawl ysgol leol ar ran y brifysgol.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n beiriannydd dylunio i Triumph Racing ar gyfer timau World MX2 a Supercross. Rwy’n gyfrifol am ddylunio’r cydrannau gorau i weddu arddull reidio’r gyrrwr a bodloni perfformiadau gofynnol, cyfathrebu i’r timau rasio a chael eu hadborth ar brofion a rasys.

Ar ôl gorffen yn y brifysgol, gweithiais mewn nifer o leoedd: gweithiais i gwmni beiciau modur bach yn Yr Eidal fel mecaneg/peiriannydd yn gyntaf, yna gweithiais fel peiriannydd data yn y MOTO 3 ym mhencampwriaeth Yr Eidal, yna gweithiais yn World SuperSport fel peiriannydd data, yna cefais alwad gan Triumph a derbyniais y cynnig.

Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?

Roddwn yn dwlu ar yr agweddau ymarferol a’r ffaith fod yr athrawon yn dod o’r Diwydiant Beiciau Modur felly maent yn angerddol am eu pynciau.

David Migliorati N’Doua sprinting on a running track.

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Rwy’n ei argymell 100% i rywun sydd eisiau swydd ym maes a diwydiant rasio beiciau modur, a byw mewn dinas fywiog fel Abertawe.

Gwybodaeth Gysylltiedig