Skip page header and navigation

Rhyngwladol

Students in the quad at Lampeter

Rhyngwladol

Rydym yn credu yng ngrym addysg i drawsnewid, gan uno myfyrwyr o bob cwr o’r byd i gychwyn ar daith o archwilio deallusol a throchi diwylliannol. P’un ai a ydych yn ceisio ehangu eich gorwelion, rhyddhau eich potensial, neu feithrin cysylltiadau a fydd yn para am oes, mae ein cymuned amrywiol a chynhwysol yma i’ch arwain at lwyddiant. Darganfyddwch addysg heb ffiniau, lle mae gwybodaeth y byd ar flaenau eich bysedd, a phosibiliadau diddiwedd yn aros amdanoch.  

Ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n bwriadu astudio mewn gwlad wahanol? Beth am fwrw golwg ar ein hadran Bywyd Myfyrwyr Rhyngwladol lle cewch weld popeth sydd gennym i’w gynnig? Neu a ydych chi’n fyfyriwr o’r DU sydd am deithio’r byd ac astudio’n rhyngwladol? Edrychwch ar ein cyfleoedd Astudio Dramor a Chyfnewid.

Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n bwriadu astudio yn PCYDDS

Cyfleoedd i Fyfyrwyr PCYDDS Astudio Dramor

Myfyrwyr yn cerdded ar fynydd gydag eira arno

Cyfleoedd Byd-eang

Gallwch deithio, ymgolli mewn diwylliant newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a blasu bwydydd newydd, a hynny i gyd wrth weithio tuag at eich gradd.