Skip page header and navigation

Bywyd Campws Birmingham

Students crossing bridge in Birmingham city centre

Y Ganolfan Ddiwylliant

Ymgollwch mewn Diwylliant

Ymgollwch ym mwrlwm Birmingham, dinas sy’n enwog am ei phobl, ei bwyd a’i gwyliau diwylliannol - bydd rhywbeth i’ch difyrru trwy’r adeg.  Mae PCYDDS Birmingham yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau arloesol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich paratoi ar gyfer byd gwaith. A’r cyfan mewn dinas sy’n llawn cyfleoedd.

Birmingham, metropolis brysur sy’n llawn o hanes a diwylliant. Gyda’i hadeiladau eiconig, fel y Bullring ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, ei rhwydweithiau o gamlesi prysur a’i pharciau gwyrdd, dyma ddinas sy’n ymfalchïo yn ei chymysgedd fyrlymus o’r modern a’r traddodiadol.

Pam Birmingham

Cychod camlas gyda'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn y cefndir

Profiad Newydd

Gyda dau gampws, un ar Stratford Road yn ardal fywiog Sparkhill a’r llall ar un o gamlesi prysur canol y ddinas, mae PCYDDS Birmingham yn cynnig cyfle i bobl gael addysg uwch, waeth beth fo’u cefndir.

Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.

Mae ein dau gampws yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg, sy’n golygu y gallwch chi addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.

Canolbarth Lloegr

Person yn eistedd i lawr ar silff goncrit gyda ffynhonnau​ o’i gwmpas

Canolbarth Lloegr

Mae’r dyfodol yn ddisglair yma, gyda chysylltiadau gwych â  Llundain, Bryste, Caerdydd, Sheffield, Manceinion a Lerpwl – a’r cyfan o fewn dwy awr o daith ar y trên.


Rydym hefyd yn canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau at addysg a sicrhau cyfle cyfartal i bawb, sy’n golygu y gallwch chi fod yn sicr o raglenni hyblyg a gofynion mynediad sy’n ystyried eich amgylchiadau unigol.

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Aelod o staff yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr

Beth Fyddwch chi'n ei Astudio

Gyda chyrsiau sy’n canolbwyntio ar fusnes, cyfrifiadura, iechyd a gofal cymdeithasol, bydd campysau PCYDDS Birmingham yn eich paratoi ar gyfer y gweithle.

Mae ein dau gampws yn cynnig amrywiaeth o opsiynau hyblyg, sy’n golygu y gallwch chi addasu eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith neu gyfrifoldebau teuluol.

Birmingham Open Day

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham

Cerflun tarw y tu allan i ganolfan siopa'r Bullring

Sut i gyrraedd ein campws yn Birmingham

Mae ein Campws yn Birmingham mewn dau leoliad. Mae Quay Place mewn ardal fywiog ger y gamlas yng nghanol y ddinas, a’r ail leoliad ar Stratford Road yn ardal llawn egni Sparkhill.