Coleg Celf Abertawe
Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes
Nid oes addysg brifysgol arall yn debyg i addysg coleg celf. Mae’n unigryw yn y ffordd y mae’n meithrin, cyfarwyddo ac annog unigoliaeth, creadigrwydd ac arloesi.
Mae gan y DU ystod gyfoethog ac amrywiol o golegau celf sydd â threftadaeth arbennig o gynhyrchu artistiaid, dylunwyr, animeiddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a pherfformwyr a gydnabyddir ar draws y byd. Yn goleg celf hynaf a mwyaf sefydledig Cymru, mae Coleg Celf Abertawe yn rhan uchel ei pharch o’r traddodiad hwnnw.
Beth gallaf astudio?
Mae gan ein holl gyrsiau athroniaeth gyffredin; galluogi unigoliaeth, rhyddid creadigol a hyblygrwydd academaidd, ac rydym yn credu bod y rhain i gyd yn hanfodol wrth ddod o hyd i’ch llais eich hun o fewn eich dewis faes creadigol.
I Ôl-raddedigion
Mae ein Portffolio MA Deialogau Cyfoes yn creu llwyfan dysgu unigryw a ddefnyddir i annog myfyrwyr i ehangu eu profiad creadigol trwy arbrofi, cydweithio a disgwrs ryngddisgyblaethol.
Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf
Mae arddangosfa flynyddol yr haf yn uchafbwynt yng nghalendr Coleg Celf Abertawe, lle mae myfyrwyr o bob cwrs creadigol yn arddangos eu prosiectau terfynol - penllanw blynyddoedd o ddysgu a mireinio eu crefftau.
Statistics
Mwy o opsiynau
I Brentisiaid
Cydnabyddir Coleg Celf Abertawe yn y Drindod Dewi Sant yn un o ganolfannau rhagoriaeth y DU mewn gwydr lliw. Mae gan yr adran dreftadaeth gyfoethog mewn addysg gwydr lliw ac mae ganddi archif gwefreiddiol o ddyluniadau’n rhychwantu 80 mlynedd, sy’n darparu adnodd addysgu amhrisiadwy.
Dosbarthiadau Nos i Chi
Mae’r rhaglen Celf Liw Nos yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau creadigol, gan gynnwys serameg, ffotograffiaeth, a darlunio.
Ysgol Gelf Dydd Sadwrn
Gyda’r nod o ysbrydoli a datblygu artistiaid ifanc rhwng 16-18 oed, mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn darparu profiad Ysgol Gelf cyffrous, creadigol, ac yn caniatáu i chi archwilio gwahanol ddisgyblaethau Celf a Dylunio i ymestyn eich portffolio Celf.
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP)
Y Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yw cainc fasnachol yr adran enwog yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe.
Newyddion
Mae'r rhaglen BA Dylunio Crefftau yn falch o gyhoeddi sioe graddedigion ei charfan 2024. Grŵp o unigolion talentog sydd wedi rhagori mewn meistroli sgiliau creadigol 3D sy'n hanfodol ar gyfer gweithio gyda gwydr, cerameg a gemwaith.
Mae Katie Rees, myfyrwraig BA Dylunio Graffeg yn ei hail flwyddyn, wedi cael rôl gyffrous fel ffotograffydd llawrydd gyda’r Scarlets. Mae’n nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith ddysgu Katie gyda’r Brifysgol, gan arddangos ei hymroddiad, ei dawn a’i hangerdd dros y celfyddydau creadigol.
Mae Ryan L. Moule, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig Coleg Celf Abertawe PCYDDS, wedi cael ei ddewis i arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd mewn arddangosfa o’r enw ‘The Valley’s’, i amlygu straeon yr ardal.
longyfarchiadau i enillwyr Gwobrau Sioeau Haf Coleg Celf Abertawe! Bob blwyddyn, mae'r arddangosfa yn cyflwyno penllanw gwaith gradd gan fyfyrwyr sy'n graddio. Mae eu darnau terfynol yn cael eu gweld gan staff a gweithwyr proffesiynol sy'n chwilio am dalent nodedig.
Ni allwch golli doniau creadigol myfyriwr MDes SurFace Pattern and Textiles Susan Down, sy'n cael eu harddangos ar hyn o bryd yng nghanol y ddinas ac yn cael eu gweld gan filoedd o gerddwyr a modurwyr!
Mae Sioe Radd Haf Coleg Celf Abertawe sy'n arddangos penllanw gwaith gradd gan fyfyrwyr sy'n graddio ar agor yn swyddogol!
Digwyddiadau
Coleg Celf Abertawe Sioeau Graddio Haf 2024
Ymunwch â ni yn Sioeau Graddio Haf Coleg Celf Abertawe, PCYDDS 2024!
Dosbarthiadau Meistr Peintio Gwydr Hydref 2024 yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant.
Cyn Hir:
- -
Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe yn falch o gyhoeddi sesiwn yr hydref o ddosbarthiadau meistr peintio gwydr arbenigol gan Jonathan Cooke.
Dosbarth Meistr Staen Arian ac Enamel
Cyn Hir:
- -
Mae’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe yn falch o gyhoeddi sesiwn yr hydref o ddosbarthiadau meistr peintio gwydr arbenigol gan Jonathan Cooke.
Noson Agored Coleg Celf Abertawe
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored yng Ngholeg Celf Abertawe lle byddwn yn arddangos ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig sydd ar gael i’w hastudio gyda ni yn PCYDDS.
Noson Agored Coleg Celf Abertawe 4ydd Gorffennaf
Cyn Hir:
- -
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Agored yng Ngholeg Celf Abertawe lle byddwn yn arddangos ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig sydd ar gael i’w hastudio gyda ni yn PCYDDS.