Skip page header and navigation

Mae’r rhaglen BA Dylunio Crefftau yn falch o gyhoeddi sioe graddedigion ei charfan 2024.  Grŵp o unigolion talentog sydd wedi rhagori mewn meistroli sgiliau creadigol 3D sy’n hanfodol ar gyfer gweithio gyda gwydr, cerameg a gemwaith. 

Colourful tiles with abstract images.

Trwy gyfuniad o dechnegau traddodiadol o wneud â llaw a dulliau cyfoes megis torri â chwistrelliad dŵr laser ac argraffu 3D, mae’r myfyrwyr hyn wedi mireinio eu crefft a darganfod eu lleisiau artistig unigryw. Mae’r myfyrwyr yn arddangos yn New Designers Llundain 2024 – Arddangosfa Dylunio Graddedigion Fwyaf Sefydledig Llundain, yn y Ganolfan Dylunio Busnes rhwng Mehefin 26 a 29 ar stondin JC62.

Meddai Anna Lewis, Rheolwr Rhaglen BA Crefftau Dylunio: “Rydym yn gyffrous i fod yn arddangos eto yn arddangosfa anhygoel y graddedigion eleni New Designers yn Llundain.  Mae graddedigion eleni wedi ymchwilio i sbectrwm eang o arferion deunydd a phrosesau, gan arbenigo mewn meysydd megis cerameg, gwydr lliw, gwydr cast, gemwaith, cyfryngau cymysg, a realiti estynedig gwisgadwy. Mae eu gwaith yn dyst i bwyslais y rhaglen ar sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.”

Mae New Designers yn arddangosfa i egin dalent dylunio fwyaf arloesol y DU. Ers ei sefydlu 39 mlynedd yn ôl, mae New Designers wedi darparu llwyfan i dros 3,000 o raddedigion bob blwyddyn i gyflwyno eu syniadau gweledigaethol i weithwyr proffesiynol y diwydiant a’r cyhoedd. Cynhelir y digwyddiad dros bythefnos, a gwahanol ddisgyblaethau yn cael eu hamlygu yn wythnos un ac wythnos dau, sy’n cynnwys ffasiwn, tecstilau, dodrefn, dylunio cynnyrch, darlunio a rhagor.

Gwneuthurwyr y dyfodol o Goleg Celf Abertawe PCYDDS i edrych amdanynt yw: 

Mae Charis Constantinou, y mae ei chasgliad gwydr lliw sydd wedi’i ysbrydoli gan y mudiad Celf a Chrefft Fictorianaidd, yn myfyrio ar drawsnewidiad diwylliannol Prydain. 

“Mae fy ngwaith i’n glytwaith o’r diwylliannau amrywiol sy’n rhan o Brydain fodern,” meddai Charis. “Mae’n ymwneud â sut mae’r hunaniaethau hyn yn plethu gyda’i gilydd i ffurfio ein cenedl.” Mae Charis yn bwriadu lansio ei hymarfer gwydr lliw ei hun, gan ganolbwyntio ar ddyluniadau beiddgar, modern.                                                         Instagram: @charis_c_stainedglass

Mae Dabrowka Kornas yn archwilio hunaniaeth ddiwylliannol trwy ei phrosiect, ‘Biblically Accurate Tea Set.’ “Mae’r set de hon yn adlewyrchiad o’m treftadaeth Bwylaidd a chymhlethdod hunaniaeth bersonol,” esboniodd. Bydd Dabrowka yn parhau i greu darnau cerameg swreal sy’n ysgogi’r meddwl ac sy’n cyfuno traddodiad â mynegiant cyfoes.  Instagram: @high_tide_studio

Diane Wilson yn cael ysbrydoliaeth yn nhirwedd Cymru a lles ysbrydol. Mae ei gwaith yn cyfuno technegau traddodiadol â thechnoleg fodern mewn amrywiaeth o gyfryngau i archwilio ein cysylltiad â’r môr a chynaliadwyedd amgylcheddol. Meddai Diane: “Fy nod yw tynnu sylw at harddwch a breuder ein hamgylchedd trwy fy nghrefft.”                       Instagram: @attheedgeofthesea.cymru

Mae Elwyn Barnes yn defnyddio cerfluniau cerameg ar thema cŵn i fynd i’r afael â stereoteipiau ac emosiynau dynol. “Mae fy ngwaith i’n ymwneud â sbarduno dealltwriaeth a derbyniad drwy gelf,” meddai Elwyn. Dylanwadir ar ei ddarnau gan ei brofiadau yn ddyn trawsryweddol a’i agwedd unigryw yn unigolyn awtistig a’i gariad at fyd yr anifeiliaid. Instagram: @wynpip

Mae Nancy Farrington yn trawsnewid technegau tecstilau yn gelf wydr, gan archwilio themâu ffeministiaeth a ffasiwn hanesyddol. “Rwy wrth fy modd â’r rhyngweithio rhwng ffabrigau meddal a gwydr caled,” mae’n rhannu. Mae dull arloesol Nancy’n arwain at ffurfiau cerfluniol sy’n chwarae cain a chadarn gydag ymatebion synhwyraidd i oleuni lliw a gwead. Instagram: @nancyfarringtonglass

Mae Oliwia Kaczmarek yn gwthio ffiniau dylunio gemwaith gan ddefnyddio realiti estynedig yn ei darnau ‘gwisgadwy’. “Rwy’n rhyfeddu at sut y gall technoleg ehangu posibiliadau gemwaith,” meddai Oliwia. Mae ei gwaith yn cwestiynu dyfodol gemwaith traddodiadol mewn byd sy’n cael ei yrru gan dechnoleg.  Instagram: @oliwiakaczmarekart

Mae Tazmin Baldwin yn archwilio golau, lliw a seicoleg trwy wydr. “Mae gwydr yn gyfrwng deinamig sy’n caniatáu mynegiant artistig diddiwedd,” meddai. Mae gwaith Tazmins yn swyno gwylwyr gyda’i ryngweithio bywiog o ddyluniadau ysgafn a chywrain yn seiliedig ar gof a naratif personol. Instagram: @tazminb.glass
 

Mae Dorothy Chan yn ymarfer y gallu i addasu ac yn archwilio bywiogrwydd anweledig materoldeb cyffyrddol, gan ddefnyddio deunyddiau megis cwyr, pren a gwydr. “Mae fy ngwaith i’n delweddu’r duedd sy’n newid yn barhaus rhwng darnau dinistriol ac uniondeb adluniol,” meddai Dorothy. Mae ei gwrthrychau unlliw yn dal cyfarfyddiadau bob dydd trwy ailadroddiadau manwl a ffurfiau aml-ddimensiwn. 

Instagram: @doryeek


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon