Cyfleusterau Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Introduction
Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal mewn stiwdio fywiog, olau sy’n cael digon o awyr sydd â digon o le i holl flynyddoedd y cwrs gan ei wneud yn ganolbwynt ein cymuned Patrwm Arwyneb a Thecstilau. Bydd gennych le desg personol trwy gydol eich astudiaethau. Y naill ochr a’r llall i’r stiwdio mae ein gweithdai llawn offer lle gallwch archwilio ystod eang o ddeunyddiau a phrosesau, sy’n eich galluogi i gymryd rhan mewn dulliau perthnasol o arfer dylunio.
Mae ein Gweithdai Arbenigol yn cynnwys:
- Stiwdio bwrpasol, gyda desgiau personol a byrddau mawr i weithio ar y cyd o’u cwmpas.
- Mae cymwysiadau digidol yn darparu argraffu digidol ar liain a phapur wal yn fewnol, ac argraffu UV ar arwynebau caled.
- Mae offer MAC yn darparu meddalwedd Adobe Creative Cloud ac AVA i safon diwydiant, sganwyr fformat mawr ac argraffydd portffolio.
- Mae technolegau torri’n cynnwys torri â laser, ysgythru â laser, torri â phlotydd a thorri â chwistrell ddŵr.
- Ystafell printio sgrîn a labordy llifio ar gyfer tecstilau, sy’n caniatáu cymhwyso lliwio a phatrymau ar amrywiaeth o swbstradau gan ddefnyddio dulliau lliw safonol, traddodiadol a gwyllt.
- Lle amlddisgyblaethol i wneuthurwyr gyda meinciau a mynediad i gyfleusterau torri, uno a ffurfio.
- Peiriannau gwnïo domestig a diwydiannol, peiriannau brodwaith digidol gyda meddalwedd o safon ddiwydiannol a pheiriant tyllu pwrpasol â 900 nodwydd.
- Gweithdai gwneud printiau gyda dulliau printiau lino, sgrin, mono, riso a llythrenwasg at ddefnydd Patrymau Arwyneb a Thecstilau.
Oriel
Mynediad a rennir
Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.