Skip page header and navigation

Introduction

Mae’r adran Ddarlunio yn llawn offer i archwilio ystod eang o ddefnyddiau a phrosesau ar gyfer gwaith traddodiadol a digidol.

Ymhlith y cyfleusterau bydd:

  • Tair Stiwdio Ddarlunio fywiog.

  • Stiwdio gwneud printiau ar gyfer Lino, Printio Sgrin, Ysgrythu a Cholagraff.

  • Stiwdio llythrenwasg gyda phedwar peiriant llythrenwasg ac offer gwneud llyfrau.

  • Argraffu Risograffiau

  • Torrwr laser

  • Ystafell ddarlunio digidol pwrpasol gydag iMacs, llechi Wacom a sgriniau Cintiq.

  • Pecynnau meddalwedd allweddol fel Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects.

  • Casgliad helaeth o adnoddau argraffedig, llyfrau a chyfnodolion.

  • Sail adnoddau electronig cynhwysfawr sy’n darparu miloedd o e-gyfnodolion ac e-lyfrau ar-lein.

Oriel

Mynediad a rennir

Trefnir mynediad i ardaloedd eraill y Gyfadran trwy weithdai, fodd bynnag, mae gan Goleg Celf Abertawe bolisi o ganiatáu mynediad a rennir i’n holl gyfleusterau.