Skip page header and navigation

Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â gwneud cais drwy UCAS

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau i astudio ar gyfer rhaglenni gradd israddedig llawn amser neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch yn y Brifysgol yn cael eu gwneud ar-lein trwy UCAS.​  Mae UCAS yn helpu i symleiddio’r broses o wneud cais ar gyfer darpar fyfyrwyr sy’n awyddus i fynd i brifysgol.​ 

Bydd eich cais UCAS yn cynnwys y manylion allweddol y bydd eu hangen ar Brifysgol er mwyn cynnig lle i chi, gan gynnwys eich manylion personol, opsiynau cwrs, hanes addysg a chyflogaeth yn ogystal â datganiad personol yn nodi pam yr hoffech chi astudio’r cwrs penodol hwnnw gyda’r brifysgol.​ Bydd angen i chi hefyd roi geirda a thalu ar-lein am eich cais. 

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer cyrsiau Israddedig llawn amser yn cael ei gwneud yn gyfan gwbl ar-lein, lle gallwch nodi uchafswm o 5 dewis (efallai y bydd rhai cyfyngiadau’n berthnasol).​  Gall y rhain fod yn 5 prifysgol wahanol neu 5 cwrs gwahanol o fewn un brifysgol neu gyfuniad o’r ddau.​ 

Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â gwneud cais drwy UCAS

Y Camau Nesaf

Fel myfyriwr ysgol ar hyn o bryd, bydd eich ysgol neu goleg wedi cofrestru gydag UCAS a bydd yn gallu rheoli eich cais.​  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich allweddair (‘buzzword’) oddi wrth eich tiwtor neu gynghorydd gyrfaoedd, oherwydd bydd angen hwn arnoch chi pan fyddwch yn cofrestru gydag UCAS.  Bydd hyn yn cysylltu eich cais gyda’r sefydliad yr ydych yn gwneud cais ohono ac yn caniatáu i’ch canolwr atodi’ch geirda.​ 

Os nad ydych chi mewn addysg ar hyn o bryd ac yn bwriadu dychwelyd i fyd addysg uwch, chi sy’n gyfrifol am gwblhau eich cais eich hun.​ Chi fydd yn gyfrifol am dalu’r ffi ymgeisio cywir, gofyn am eich geirda academaidd a chyflwyno’r ffurflen wedi’i chwblhau. 

Dylai eich geirda fod gan gyn athro neu weithiwr proffesiynol sy’n eich adnabod yn ddigon da i ysgrifennu amdanoch chi a pha mor addas ydych chi ar gyfer addysg uwch.​ 

Gall ymgeiswyr sy’n awyddus i ddechrau eu hastudiaethau ym mis Medi wneud cais trwy UCAS am hyd at bum dewis rhaglen i’w hystyried ar yr un pryd. Rhoddir ystyriaeth gyfartal i bob cais ar gyfer cychwyn ym mis Medi 2024 sy’n cael eu derbyn erbyn dyddiad cau UCAS, sef 31 Ionawr 2024.  Bydd ceisiadau sy’n cael eu gwneud ar ôl dyddiad cau UCAS yn cael eu hystyried ar yr amod bod lleoedd ar gael. 

Gall ymgeiswyr sydd heb unrhyw gynigion, ar ôl defnyddio eu 5 dewis cais (naill ai oherwydd eu bod wedi bod yn aflwyddiannus neu oherwydd eu bod wedi tynnu’n ôl neu wedi gwrthod eu cynigion), wneud cais am ddewis arall trwy UCAS Extra rhwng 28 Chwefror a 4 Gorffennaf 2024.​ Mae modd defnyddio opsiwn Extra i wneud cais am le ar raglenni, un ar y tro, hyd nes eich bod yn cael cynnig lle.  

Gall ymgeiswyr sydd ddim yn llwyddo i sicrhau lle trwy UCAS Extra wneud cais trwy system Glirio UCAS sy’n cychwyn ar ddechrau Gorffennaf 2024 ac yn parhau trwy fis Medi.​ Er mwyn sicrhau lle drwy’r system Glirio, rhaid i ymgeiswyr gysylltu â Thîm Derbyn y Brifysgol i drafod eu haddasrwydd ar gyfer eu dewis o raglen. Os oes modd cynnig lle, bydd angen i’r ymgeisydd ychwanegu eu dewis Clirio i’w cyfrif Hwb UCAS. Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion mynediad ar gyfer eu dewis o raglen cyn ychwanegu eu dewis Clirio. Ewch i wefan UCAS am ragor o wybodaeth.

  • Bydd ceisiadau UCAS yn dechrau cael eu prosesu ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd mor gynnar â mis Medi. Ond peidiwch â phoeni, y dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni israddedig llawn amser yw 31 Ionawr.​ Fodd bynnag, rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais ar gyfer eich dewis o gwrs(cyrsiau) ar wefan UCAS.

  • Cyn cyflwyno’ch cais dylech sicrhau bod pob maes ar UCAS wedi’i lenwi’n gywir a gwirio eich cais am y trydydd tro. Unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno eich cais bydd UCAS yn anfon eich cais i’r brifysgol yr ydych wedi’i dewis. Yna bydd pob prifysgol yn ystyried pa mor addas ydych chi ar gyfer y cwrs ac yn penderfynu a ddylid cynnig lle i chi. Gallwch gadw llygad ar eich cais drwy ddefnyddio Hwb UCAS

  • Os byddwch chi’n methu dyddiad cau UCAS ym mis Ionawr y peth cyntaf sydd angen i chi ei wybod nad yw hi fyth yn rhy hwyr. Mae opsiynau eraill ar gael i chi o hyd fel UCAS Extra a’r broses Glirio. 

  • Gan ddefnyddio Hwb UCAS byddwch yn gallu gweld ble’r ydych arni o ran cynigion ar gyfer y cyrsiau yr ydych wedi’u dewis.  Mae gan brifysgolion sawl opsiwn gwahanol wrth ystyried ceisiadau, gallai hyn gynnwys eich gwahodd i *gyfweliad*, gwneud cynnig i chi a allai fod yn gynnig amodol neu’n gynnig diamod, neu wrthod eich cais.​ 

    Mae cynigion amodol yn gynigion sy’n cael eu gwneud gan y brifysgol i astudio cwrs penodol ar yr amod eich bod yn bodloni’r gofynion sy’n rhan o’r cynnig.​  Fel arfer bydd hyn ar ffurf pwyntiau Tariff UCAS.  System sgorio pwyntiau sy’n rhoi gwerthoedd rhifiadol i gymwysterau yw Tariff UCAS. Gellir casglu pwyntiau o wahanol gymwysterau e.e. Safon Uwch neu UG.  Edrychwch ar yr adran Gofynion Mynediad ar dudalen bob cwrs am ganllaw o ran y gofynion mynediad arferol.  

    Mae cynigion diamod yn cael ei gwneud gan y brifysgol pan fydd y brifysgol eisoes yn fodlon eich bod wedi bodloni’r gofynion er mwyn astudio’r cwrs. 

    Mae rhai cyrsiau yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fynd drwy broses gyfweld cyn y bydd cynnig am le yn cael ei wneud. Ewch draw i’n hadran paratoi ar gyfer Cyfweliad Prifysgol i gael gwybod mwy am hyn. 

    Mae gan y brifysgol hefyd yr hawl i wrthod unrhyw gais. Ond peidiwch â phoeni nid yw hyn yn golygu mai dyma ddiwedd eich breuddwyd addysg uwch, gallwch wneud cais i brifysgolion eraill trwy *UCAS Extra* a’r broses *Clirio*. 

  • Fe all fod yn anodd deall a defnyddio UCAS. Mae UCAS wedi dyfeisio’r rhestr jargon handi hon i alluogi darpar fyfyrwyr i ddeall diben UCAS yn llawn.

    Addasiad (‘Adjustment’) – mewn cais Israddedig UCAS, un o’r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Mae’r un hwn rhag ofn eich bod wedi bodloni a rhagori ar eich amodau ac fe hoffech weld a allech chi gael lle ar gwrs â gofynion mynediad uwch – a hynny gan ddal gafael ar eich lle gwreiddiol a gadarnhawyd.

    Ymgynghorydd (‘Adviser’) – rhywun sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth i chi gyda’ch cais. Gall hyn fod yn athro, tiwtor, cwnselydd, neu asiant.

    Apply – enw ein system ymgeisio ar-lein. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, mae Apply yn cael ei gyfuno gyda Track.)

    Gradd baglor (‘Bachelor’s degree’) – cwrs tair neu bedair blynedd y gallwch ei wneud mewn addysg uwch israddedig ar ôl i chi orffen addysg bellach – gelwir hefyd yn ‘radd gyntaf’ neu’n ‘radd israddedig’. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau naill ai’n Faglor yn y Celfyddydau neu’n Faglor yn y Gwyddorau.

    Gair arbennig (‘Buzzword’) – ar gyfer ceisiadau Israddedig UCAS, bydd eich ysgol, coleg, neu ganolfan yn rhoi gair arbennig i chi fel y gallwch gysylltu eich cais iddyn nhw. Mae’n air y gallwch ei ychwanegu i’ch cais pan fyddwch yn cofrestru i wneud cais UCAS Israddedig (oni bai eich bod yn gwneud cais yn annibynnol).

    Canolfan (‘Centre’) – ysgol, coleg, neu sefydliad sy’n gallu helpu myfyrwyr i wneud cais i addysg uwch.

    Newid cynnig cwrs (‘Changed course offer’) – yn eich cais, efallai y cewch chi un o’r rhain os nad ydych chi wedi bodloni eich amodau, neu os yw’r brifysgol neu goleg wedi gwneud newidiadau i’r cyrsiau maent yn eu cynnig. Fe all olygu dyddiad dechrau neu fan mynediad gwahanol, neu gwrs gwahanol yn gyfan gwbl.

    Dewis (‘Choice’) – dewis yw cwrs rydych yn gwneud cais amdano ar eich cais – mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud nifer o ddewisiadau i wella eu cyfle i gael lle.

    Clirio (‘Clearing’) – mewn cais UCAS Israddedig, mae Clirio yn wasanaeth arall y gallwch ei ddefnyddio i chwilio am gyrsiau amgen. Os na chawsoch le ar gwrs – p’un ai na chawsoch gynigion, gwnaethoch wrthod eich cynigion, neu na chawsoch y graddau roedd arnoch eu hangen – mae Clirio yn caniatáu i chi wneud cais am gyrsiau sy’n dal i fod â lleoedd gwag.

    Coleg – darparwr addysg bellach ac uwch. Os byddwn yn defnyddio’r term ‘prifysgol’, mae hwn yn aml yn gyfeiriad generig sy’n cynnwys colegau hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn yn dweud ‘gwneud cais i brifysgol’, golygwn ‘gwneud cais i brifysgol neu goleg’, ond mewn ffordd fwy cryno.

    Cynnig amodol (‘Conditional offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs yn amodol ar amodau. Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni’r gofynion – sydd fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hyn yn fath cyffredin o gynnig i fyfyrwyr sy’n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach.

    Cadarnhad (‘Confirmation’) – yn eich cais, canlyniad cynnig amodol rydych wedi’i dderbyn. Os ydych yn bodloni’r amodau, bydd eich lle yn cael ei wneud yn ddiamod (sy’n golygu bod gennych le ar y cwrs) – os na, bydd y cynnig yn cael ei wrthod.

    Conservatoire – darparwr cyrsiau cerdd, dawns, sgrîn, a drama seiliedig ar berfformio.

    Cwrs – mae llawer o gyrsiau gwahanol ar draws gwahanol lefelau, pynciau, a lleoliadau – o raddau sylfaen i PhD.

    Darparwyr cyrsiau a hyfforddiant (‘Course and training providers’) – prifysgol, coleg, conservatoire, ysgol ‘School Direct’, neu ddarparwr arall sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch.

    Gohirio (‘Deferral’) – yn eich cais, dyma beth rydych yn ei wneud os hoffech gario cynnig drosodd i’w ddechrau yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

    Gofynion mynediad (‘Entry requirements’) – dyma mae’r darparwr cwrs yn argymell sy’n rhaid i chi ei wneud/gael i gael lle ar y cwrs – o gymwysterau a phynciau neu raddau penodol, i gyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Does dim gwarantu y cewch gynnig os ydych eisoes yn bodloni neu’n meddu ar y rhain.

    Extra – mewn cais UCAS Israddedig, mae Extra yn wasanaeth y gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am leoedd amgen os nad oes gennych gynnig gan eich dewisiadau cyntaf.

    Y Glas (‘Fresher’) – term ‘slang’ am fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

    Dewis cadarn (‘Firm Choice’) – yn eich cais, cynnig rydych yn ei dderbyn yn ddewis cyntaf.

    Myfyriwr graddedig – myfyriwr sydd wedi cwblhau a graddio o gwrs israddedig – gallant nawr wneud cais am gyrsiau ôl-raddedig os hoffent wneud hynny.

    Addysg uwch (AU) – lefel yr addysg y gallwn eich helpu i wneud cais amdani – o gyrsiau israddedig pan fyddwch wedi gorffen addysg bellach, i gyrsiau ôl-raddedig y gallwch symud ymlaen iddynt ar ôl graddio o radd israddedig.

    Dewis yswiriant (‘Insurance Choice’)  yn eich cais, cynnig rydych yn ei ddewis yn ail ddewis – rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau eich cynnig cadarn.

    Rhif adnabod personol (‘Personal ID’) – y rhif deg digid a gewch chi wrth gofrestru i ‘Apply’ – caiff ei ddangos yn y fformat 123-456-7890 ar bob e-bost a anfonwn atoch. Bydd gofyn i chi ddarparu hwn os byddwch yn cysylltu â’n Canolfan Profiad Cwsmeriaid.

    Datganiad personol – darn ysgrifenedig y bydd ymgeiswyr yn ei ysgrifennu i ddangos pam eu bod yn gwneud cais a pham y byddent yn fyfyriwr gwych i ddarparwr cwrs ei dderbyn.

    Graddau rhagfynegol (‘Predicted Grades’) – y graddau y mae athro, tiwtor neu ymgynghorydd arall sy’n gymwys i roi sylwadau ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y byddant yn eu cyflawni wrth gwblhau eu cymwysterau uwchradd.

    Canolwr (‘Referee’) – yn eich cais, rhywun sy’n darparu geirda ar eich cyfer.

    Cwrs rhyngosod (‘Sandwich Course’) – cwrs gyda blwyddyn ychwanegol lle byddwch yn gweithio yn y proffesiwn rydych yn astudio ar ei gyfer.

    Tariff – Tariff UCAS yw’r system ar gyfer dyrannu pwyntiau i’r gwahanol gymwysterau y gallwch eu defnyddio i gael i mewn i addysg uwch israddedig. Ni fydd pob cymhwyster yn cael ei gynnwys yn y Tariff. Dim ond er mwyn derbyn myfyrwyr y caiff ei ddefnyddio ac nid yw’n drosglwyddadwy i’r farchnad waith.

    Track – enw ein system tracio ar-lein lle gallwch weld sut mae eich cais yn symud ymlaen. Yma, gallwch ymateb i gynigion a gwneud diwygiadau, fel newid eich cyfeiriad e-bost ayb. (Ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig, caiff Apply ei gyfuno gyda Track.)

    UCAS – Y Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau yn y DU. Mae hyn yn cynnwys ein prif wasanaeth ymgeisio UCAS Israddedig, yn ogystal â’r gwasanaethau eraill a redwn, h.y. UCAS Conservatoires, UCAS Hyfforddiant Athrawon (‘UCAS Teacher Training’), ac UCAS Ôl-raddedig (‘UCAS Postgraduate’). Hefyd, rydym yn helpu myfyrwyr o 13 oed ymlaen gyda UCAS Cynnydd ‘(UCAS Progress’).

    Cynnig Diamod (‘Unconditional Offer’) – yn eich cais, cynnig o le ar gwrs heb amodau – eich lle chi yw e os ydych chi ei eisiau.

    Israddedig – lefel gyntaf astudiaethau addysg uwch. Os byddwch yn graddio o radd israddedig, gallwch symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.

    Prifysgol – darparwr addysg uwch.

    Aflwyddiannus (‘Unsuccessful’) – yn eich cais, naill ai nid oes cynnig wedi’i wneud i chi neu nid ydych wedi bodloni amodau cynnig amodol.

    Tynnu’n ôl (‘Withdrawal’) – yn eich cais, cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i gynnig lle i chi ai beidio, gallwch chi neu’r brifysgol neu goleg dynnu dewis yn ôl.

Y Camau Nesaf

Datganiad personol yw eich cyfle unigryw chi i ymchwilio i'r dyheadau, y profiadau a’r rhinweddau sydd, yn eich barn chi, yn eich gwneud chi'n berffaith ar gyfer y cwrs a'r brifysgol rydych chi wedi’u dewis. ​ Dylai fod yn adlewyrchiad cywir o bwy ydych chi y tu hwnt i'ch cyflawniadau academaidd, gan roi cipolwg ar eich diddordebau, eich cymhellion a'r daith sydd wedi eich arwain at y foment hon.​

Student writing on a notepad

Sgwrsiwch gyda'n Myfyrwyr

Staff member assisting a student

Rydych chi wedi cyflwyno'ch cais i'r Brifysgol, ac efallai eich bod yn holi beth sy'n digwydd nesaf? Yn dibynnu ar y cwrs efallai y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Dyma eich cyfle i ddod â’ch cais yn fyw a dangos eich brwdfrydedd, eich personoliaeth a’ch potensial wyneb yn wyneb.

Aerial shot of 4 students sitting in a booth