Skip page header and navigation

Digwyddiadau ac Aduniadau

Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym wedi’u cynllunio, yn cynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae croeso cynnes yn eich disgwyl chi bob amser ar y campws lle roeddech chi’n astudio.

Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr

Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr

Dewch i gwrdd â’ch cyd-fyfyrwyr yn ein haduniadau a chael budd o ymuno â’n digwyddiadau amrywiol.

Methu gweld digwyddiad i chi? Mae cyfleoedd newydd ar y gorwel -  efallai bydd digwyddiad y byddech chi wrth eich bodd yn dod iddo neu gymryd rhan ynddo.

Peidiwch â cholli cyfle. Cysylltwch er mwyn i ni allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Torf y seremoni raddio y tu allan i adeilad PCYDDS

Am gynllunio aduniad?

Aduniad yw’r ffordd berffaith o ailgysylltu a hel atgofion â chyn-fyfyrwyr eich dosbarth gynt, a hyd yn oed wneud cysylltiadau newydd.   

Yn ogystal â chynnal aduniadau ar gampysau, rydym ni hefyd yn falch o’ch cefnogi os byddwch chi eisiau trefnu eich aduniad eich hun. Gall y Brifysgol ddarparu cymorth gan estyn allan at gyn-fyfyrwyr eich cyfnod drwy e-byst a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, ac efallai gallem ni gynnig ffotograffiaeth broffesiynol ar gyfer y digwyddiad.  

Mae gennym ni becynnau aduniad gwych ar gampysau Caerfyrddin a Llambed sy’n cynnwys lleoliad, bwyd a llety.  

Os hoffech chi gael cymorth i drefnu eich digwyddiad ac os ydych chi eisiau derbyn pecyn aduniad, cysylltwch ag alumni@uwtsd.ac.uk.