Skip page header and navigation

Benjamin-Martyn Wheeler

Benjamin yn PCYDDS

Ben with his camera

Enw: Benjamin-Martyn Wheeler

Cwrs: BA Cynhyrchu Ffilm a Theledu 

Tref eich cartref: Caerffili 

Profiad Ben ar BA Cynhyrchu Ffilm a Theledu

The large modern window over the entrance to the Dynevor displaying the jaunty six-foot-high letters SCA.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roedd Dinefwr yng nghanol Abertawe, gan ein galluogi ni i archwilio’r gwaith o adrodd straeon trwy wahanol leoliadau a oedd o fewn pellter cerdded i’r campws. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i’r Drindod Dewi Sant oherwydd bod fy nghyfweliad wedi teimlo’n fwy personol. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau, treuliais i amser yn archwilio arfordir Gŵyr ar gyfer rhagor o leoliadau ffilmio. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ar hyn o bryd rwy’n Gyfarwyddwr Ffotograffiaeth yn y diwydiant Ffilm a Theledu, yn saethu ffilmiau byr a chynnwys masnachol yn fy amser rhydd. Fy nghwrs oedd y sbardun i’r diwydiant yng Nghymru, gan fy helpu i sefydlu fy hun ac i dyfu fy rhwydwaith o’r cychwyn cyntaf. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Roedd staff yr adran yn hynod gefnogol drwy gydol y broses.

camera

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Rwy’n credu bod y cwrs yn cynnig dull unigryw o ymdrin â’r deunydd, rhywbeth y gallai myfyrwyr mwy ymarferol ei werthfawrogi. 

Gwybodaeth Gysylltiedig