Cymorth Dysgu
Cymorth Dysgu sydd ar gael
Rydym wedi ymrwymo i’ch llwyddiant academaidd ac yn credu bod taith addysgu pob myfyriwr yn unigryw. Mae ein Tîm Cymorth Dysgu wedi’i gynllunio i’ch grymuso â’r offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i ragori yn eich astudiaethau.
P’un ai a ydych yn chwilio am help gyda strategaethau astudio, rheoli amser, neu bwnc penodol, mae ein tîm o addysgwyr profiadol a thiwtoriaid cymheiriaid yma i’ch helpu. Gall pob myfyriwr gael mynediad i’n sesiynau Sgiliau Astudio a threfnu amser i weithio un-i-un gyda’n tîm sgiliau astudio.
Cymorth a Chyngor ar
Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL)
Cynllun dysgu gyda chymorth cymheiriaid yw Dysgu gyda Chymorth Cymheiriaid (PAL) sydd wedi’i greu i’ch helpu i ymgyfarwyddo â bywyd yn y brifysgol. Mae dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn gyfnod anodd i unrhyw un, a gall siarad â myfyrwyr sydd wedi bod trwy brofiad tebyg helpu.
- Ydych chi’n fyfyriwr sydd wedi dechrau gyda ni yma yn PCYDDS am y tro cyntaf erioed?
- Oes gennych chi gwestiynau sydd angen eu hateb?
- Ydych chi’n poeni am eich aseiniadau?
- Oes angen help arnoch i wybod â phwy ddylech chi siarad er mwyn cael cymorth?
- Hoffech chi siarad â myfyriwr presennol sy’n gwybod sut brofiad yw hi i fod yn fyfyriwr newydd?
Os ydych chi wedi ateb YDW/OES i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, efallai y gallech elwa ar gael sgwrs gyda’n tîm o fentoriaid myfyrwyr PAL. Bydd un o fentoriaid PAL yn cysylltu â chi gyda mwy o fanylion os ydy PAL ar gael yn eich maes pwnc.
-
P’un ai a ydych yn fyfyriwr a hoffai ddod i PAL, neu sydd â diddordeb mewn bod yn fentor, neu’n aelod o staff academaidd sydd â diddordeb i sefydlu gweithgarwch PAL yn eich maes pwnc eich hun, cysylltwch â goruchwyliwr PAL eich athrofa:
IICL (Yr Athrofa Dysgu Canol Dinas)
Margaret Gordon
m.gordon@uwtsd.ac.ukIMH (Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd) – Yn cwmpasu holl gampysau Cymru PCYDDS
Jo Kelleher
j.kelleher@uwtsd.ac.uk
Testimonial
Cymorth Sgiliau Astudio
Mae cymorth Sgiliau Astudio ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant sydd angen cymorth â’u hastudiaethau.
Dydd Llun |
|
Dydd Mawrth |
|
Dydd Mercher |
|
Dydd Iau |
|
Dydd Gwener |
|
Mae’r holl sesiynau’n cael eu gwneud yn bell ar hyn o bryd.
Dewch i loywi’ch sgiliau astudio er mwyn cyflawni’ch potensial o’r lefel Sylfaen i’r lefel Ôl-raddedig. Cynlluniwyd y gefnogaeth hon i ychwanegu at, ac ni cymryd lle, addysgu a chyngor pwnc-benodol a ddarperir gan eich tiwtoriaid academaidd.
-
- cyfeirnodi
- cynllunio a threfnu
- meddwl critigol
- osgoi llên-ladrad
- pharatoi ar gyfer arholiadau
- sgiliau cyflwyno
- ymchwil
- ysgrifennu academaidd
Nid sesiynau prawf-darllen yw sesiynau Sgiliau Astudio!