Skip page header and navigation

Canllaw i’r System Glirio: BTEC

Canllaw i’r System Glirio: BTEC

Gall cymwysterau BTEC fod yn sylfaen wych wrth wneud ceisiadau i’r Brifysgol, ac mae croeso mawr i fyfyrwyr sydd â’r cymwysterau hyn wneud ceisiadau trwy’r system glirio.  Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich sgiliau a’ch profiad ymarferol gan y byddan nhw’n gweddu’n dda i lawer o’n cyrsiau. Os nad ydych wedi cael lle mewn prifysgol eto, gall y system Glirio fod yn gyfle i chi ddod o hyd i’r cwrs iawn yn y brifysgol iawn. 

Beth yw Clirio?

Gwneud cais drwy’r system Glirio gyda chymwysterau BTEC: Cyngor Campus PCYDDS

test

Paratowch mewn da bryd ar gyfer eich canlyniadau BTEC 

Caiff canlyniadau BTEC Cenedlaethol eu cyhoeddi ar yr un diwrnod â chanlyniadau Safon Uwch, ond gallech fod wedi derbyn rhai canlyniadau BTEC cyn hynny. Gwnewch y canlynol er mwyn paratoi mewn da bryd ar gyfer y broses Glirio:

  • Chwiliwch am Gyrsiau: Edrychwch ar y cyrsiau a’r prifysgolion posibl. Mae gan PCYDDS ystod eang o raglenni a allai fod o ddiddordeb i chi, edrychwch ar ein cyrsiau i weld pa rai sy’n apelio i chi ac sy’n gweddu i’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 
  • Gwiriwch y Gofynion Mynediad: Pan fyddwch yn ymchwilio i gyrsiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r gofynion mynediad, mae’r wybodaeth yma i’w chael ar dudalen y cwrs. Bydd gwybod beth yw gofynion mynediad eich cwrs yn eich helpu i fod yn barod ar gyfer y diwrnod canlyniadau. 

Mynegwch Ddiddordeb

Pan fyddwch wedi gorffen chwilio am opsiynau posibl y fewn y system glirio, cysylltwch â ni i fynegi diddordeb, dywedwch beth sydd o ddiddordeb i chi ac yna byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi er mwyn dweud wrthych am gyfleoedd o fewn y system Glirio. 

Students in the quad at Lampeter

Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.

Byddwch yn drefnus

Os ydych chi’n ystyried eich opsiynau drwy’r system Glirio, mae’n bwysig eich bod yn drefnus pan fyddwch yn cael eich canlyniadau, a bod yr holl wybodaeth allweddol yn barod gennych er mwyn gwneud cais yn syth.

Pan fyddwch yn gwneud cais trwy’r system Glirio, byddwch angen:

  1. Eich Canlyniadau BTEC (ac unrhyw gymwysterau eraill, fel Safon Uwch, gan y gallwch wneud cais gyda’r rhain hefyd). 
  2. Eich Rhif UCAS (os oes gennych chi un).
  3. Cod y cwrs yr hoffech chi ei astudio, mae hwn ar UCAS neu ar ein tudalennau cwrs.
  4. Cod sefydliad y Brifysgol (ein cod ni yw T80)
  5. Unrhyw wybodaeth bersonol arall, fel eich cyfeiriad e-bosteich rhif ffôn, chyfeiriad eich cartref.

Bydd cael yr holl wybodaeth allweddol yn barod yn gwneud y broses Glirio yn rhwydd. 

Three staff members having a discussion

Byddwch yn hyblyg

Mae gofynion mynediad yn amrywio yn ôl y cwrs, ond bydd eich cymwysterau BTEC yn eich paratoi’n dda ar gyfer ystod eang o gyrsiau gradd. Ystyriwch pa elfennau o’ch astudiaethau BTEC roddodd y mwyaf o foddhad i chi, a beth yw eich dyheadau gyrfa hirdymor pan fyddwch yn chwilio am y cwrs iawn i chi yn y system Glirio. Byddwch yn hyblyg. Efallai y byddwch chi am ystyried cyrsiau gwahanol i’ch dewis cyntaf.

Cofiwch y gallwch chi gyfuno eich cymwysterau BTEC gyda’ch cymwysterau eraill, fel Safon Uwch, er mwyn bodloni gofynion mynediad cyrsiau gradd PCYDDS. Trwy fod yn hyblyg gallwch gyflwyno’r cais cryfaf posibl.

Siaradwch â’n tîm Clirio, a fydd yn eich helpu i ddeall y gwahanol opsiynau ac yn eich 

Manteisiwch ar y cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael er mwyn gwneud y penderfyniad Clirio gorau i chi

Rydyn ni’n sylweddoli y gall ymgeisio trwy’r system Glirio deimlo’n llethol, ond mae PCYDDS yma i’ch cefnogi ar bob cam o’r daith. Manteisiwch ar y cyngor sydd ar gael i chi, p’un ai trwy ffonioe-bostio neu ddod i un o’n dyddiau agored clirio, ac mae gennym dimau arbennig wrth law i’ch helpu gyda 3 pheth pwysig y dylech chi eu hystyried: 

01
Cyngor am Gyrsiau: Gall ein timau eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi, ar sail eich cymwysterau a’ch diddordebau.
02
Cyngor Ariannol: Gallwch gael cyngor ymarferol am gyllid myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd dysgu, ysgoloriaethau, a benthyciadau.
03
Cymorth Llety: Fe wnawn eich helpu i ddod o hyd i lety addas er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu byw mewn lle sy’n gyfforddus ac yn hwylus tra fyddwch chi’n astudio gyda ni.

Ar ôl i chi cael cynnig trwy’r system Glirio, dewch i un o’n Dyddiau Agored Clirio i gael blas ar fywyd myfyriwr PCYDDS ac i ofyn cwestiynau pwysig, er mwyn i chi wybod eich bod yn gwneud y penderfyniad iawn i chi ac i’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 

Ac yn olaf 

Mae’r system Glirio yn cynnig cyfle gwych i gael lle ar gwrs prifysgol sy’n gweddu i’ch dyheadau chi. Bydd y sylfaen ymarferol gref a gawsoch wrth wneud cymwysterau BTEC o fudd mawr i chi yn PCYDDS. 

Beth am ddechrau ar eich taith heddiw trwy ymchwilio’ch dewisiadau, mynegi diddordeb, a chymryd camau rhagweithiol i sicrhau eich dyfodol. Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio ar 0300 323 1828 neu edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Pob lwc, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i PCYDDS.

students outside with a backdrop of carmarthen town

Mathau o gymwysterau BTEC

Gwneud cais i’r Brifysgol gyda chymwysterau BTEC

  • Dyma’r mathau mwyaf cyffredin o gymwysterau BTEC: 

    • Diploma Estynedig BTEC, sy’n cyfateb i 3 Safon Uwch
    • Diploma BTEC, sy’n cyfateb i 2 Safon Uwch
    • Diploma Sylfaen BTEC, sy’n cyfateb i 1.5 Safon Uwch
    • Tystysgrif Estynedig BTEC, sy’n cyfateb i 1 Safon Uwch
    • Tystysgrif BTEC, sy’n cyfateb i 1 Safon Uwch
  • Pwyntiau UCAS am ddiplomâu Estynedig BTEC 

    GRADD BTEC

    PWYNTIAU UCAS

    D*

    56

    D

    48

    M

    32

    P

    16