Llety ar Gampws Caerfyrddin
Llety ar Gampws Caerfyrddin
O ran llety yng Nghaerfyrddin, mae gennym nifer o opsiynau ar gael. Mae ein llety cyfforddus wedi’i leoli ar y prif gampws, o fewn neuadd breswyl sy’n eiddo i’r brifysgol. Drwy ddewis aros gyda ni, byddwch ond tafliad carreg o’ch ardaloedd astudio a phopeth sydd gan ein campws bywiog yng Nghaerfyrddin ei gynnig.
Watch our Carmarthen Student Living video
Main body
Gwarant o Lety ar gyfer Myfyrwyr y Flwyddyn 1af
Nodwch PCYDDS fel eich dewis cadarn, ac fe wnawn ni warantu llety i chi ar gyfer eich blwyddyn gyntaf. Mae preswylfeydd ein Prifysgol yn cynnig ymdeimlad o gymuned i chi sy’n creu’r cartref oddi cartref perffaith. Mae Campws Llambed yn cynnwys 156 o ystafelloedd en-suite hunanarlwyo sengl ac 84 o ystafelloedd sengl sydd â chyfleusterau a rennir.
Beth sydd gan y Llety yng Nghaerfyrddin i’w gynnig
Accordions
-
Math Newydd, En-suite – 64 Ystafell
En-suite, Sengl – 216 Ystafell
Contract llawn 37 wythnos (21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025)
Ffioedd
- £5,146.40 y flwyddyn
- £139.10 yr wythnos
Ffioedd Fesul Tymor
- Tymor 1: £2,086.50
- Tymor 2: £2,225.60
- Tymor 3: £834.60
Taliad blynyddol llawn wedi’i wneud erbyn 30 Hydref 2024 - £5,050.50
Contract llawn 37 wythnos (21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025)
Ffioedd
- £3,959.00 y flwyddyn
- £107 yr wythnos
Ffioedd Fesul Tymor
- Tymor 1: £1,605
- Tymor 2: £1,712
- Tymor 3: £642
Taliad blynyddol llawn wedi’i wneud erbyn 30 Hydref 2024 - £3,885.00
-
Bydd ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn agor ym mis Mawrth. Rydym yn parhau i ddarparu contractau hyblyg, os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm llety.
Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf byddwch yn cael cynnig lle yn y llety hunanarlwyo yn neuadd Archesgob Noakes. Mae pob fflat yn cynnwys 8 ystafell sengl ynghyd â chegin a lolfa sy’n cael eu rhannu.- 37 wythnos yw cyfnod y drwydded ac mae’n rhedeg o 21 Medi 2024 i 7 Mehefin 2025
- Ni fydd angen i chi adael yr ystafelloedd yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r Pasg.
Dewis o ystafelloedd:
- Bydd dewis o ystafelloedd, sef ein hystafelloedd presennol gyda gwelyau maint sengl neu’r ystafelloedd sengl en-suite steil newydd gyda gwelyau pedair troedfedd.
- Gall myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ofyn am gael eu lleoli mewn fflat gyda siaradwyr Cymraeg eraill.
Gallwch wneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig ‘Amodol’ neu ‘Ddiamod’ gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, ni ddylid gwneud cais tan ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst.
-
Unwaith y byddwch wedi cael ystafell mewn neuadd, efallai y bydd arnoch eisiau dechrau meddwl am beth i’w ddod gyda chi i’r campws.
Siop ar-lein yw UniKitOut sy’n cynnig arbedion ENFAWR ar lawer o’r eitemau a ganlyn:
- Pecynnau Dillad Gwely
- Pecynnau Cegin
- Pecynnau Ystafell Ymolchi a Thyweli
- Pecynnau Cyfun Myfyrwyr
- Offer Trydanol
- Ategolion a llawer iawn mwy!
Unwaith y byddwch yn prynu eitemau, gallwch ofyn iddynt gael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch ystafell fel eu bod yn aros yno amdanoch chi pan fyddwch yn cyrraedd.
-
Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety, gyda cheisiadau’n agor ym mis Mawrth. Cysylltwch â’r tîm llety am ragor o wybodaeth.
-
Gallwn ddarparu llety en-suite i fyfyrwyr ôl-raddedig ar y campws. Cysylltwch â’r adran llety i drafod eich gofynion.
-
P’un ai eich bod yn byw yn agos at y Brifysgol neu’n dod o ymhellach i ffwrdd, mae neuaddau preswyl y Brifysgol yn opsiwn i chi.
Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n chwilio am lety am flwyddyn academaidd lawn.
Bydd cyflyrau meddygol sy’n cael eu datgelu i’r Adran Llety yn cael eu hystyried. Bydd unrhyw ofynion eraill yn cael eu hystyried ar ôl i’r broses ddyrannu gychwynnol gael ei chwblhau.
Byddwch yn gallu gwneud cais am lety ar yr amod bod gennych gynnig Amodol neu Ddiamod gan y Brifysgol. Os mai PCYDDS yw eich ail ddewis, arhoswch tan ar ôl canlyniadau’r arholiadau ym mis Awst cyn gwneud cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r uchod, cysylltwch â’r tîm llety.
-
Rhaid i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig o lety yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol gadw at y telerau a’r amodau.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y Rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr mewn Neuaddau Preswyl at y Rheolwr Llety.
Cwynion
- Os yw’r Preswylydd yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan y Brifysgol neu â’r camau a gymerwyd gan y Brifysgol mewn perthynas â’r Cytundeb a/neu os yw’r Preswylydd o’r farn bod y Brifysgol wedi torri ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn, dylai unrhyw gŵyn gael ei chyfeirio, yn y lle cyntaf, at yr Adran Llety i ymchwilio iddi.
- Os na fydd eich cwyn wedi ei datrys o hyd, mae’n bosibl rhoi gwybod am hyn trwy’r Gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd, Cwynion ac Achosion Eraill Myfyrwyr a geir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, lle bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen GA5 ar gyfer Cwyn Ffurfiol.
- Rhaid derbyn cwynion ffurfiol ddim mwy na mis ar ôl i’r weithdrefn anffurfiol ddod i ben (lle bo’n briodol) a dim mwy na 6 mis ar ôl i’r prif fater sy’n sail i’r gwyn ddigwydd. Ystyrir bod cwynion ffurfiol sy’n dod i law ar ôl y terfynau amser hyn yn rhy hwyr. Efallai na fyddant yn cael eu hystyried oni bai bod tystiolaeth annibynnol i ddangos rhesymau cryf dros pam na chodwyd y gŵyn ffurfiol yn brydlon.
-
Gellir gwneud trefniadau lle bo modd i ddarparu ar gyfer Myfyrwyr Anabl. Os oes gennych chi ofynion arbennig, trafodwch y rhain gydag un o Gynghorwyr Anabledd y Brifysgol. Byddan nhw’n gallu trafod unrhyw ofynion sydd gennych o ran cymorth, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Cymorth Dysgu.
Cysylltu â'r Tîm Llety
Mae ein tîm llety yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir er mwyn helpu i greu’r profiad prifysgol rydych chi’n ei ddymuno. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety boed yn ymwneud â hygyrchedd, opsiynau llety neu gwestiynau penodol am eich sefyllfa mae ein tîm llety wrth law i helpu.
Universities UK - Cod Ymarfer
Lluniwyd y Cod Ymarfer Llety fel datganiad o arfer da sy’n gallu newid a chael ei fireinio yn sgil profiad ac sy’n annog rheoli llety’n well. Mae’r cod yn sicrhau bod preswylwyr yn elwa ar bolisïau a gweithdrefnau clir sy’n ymwneud â’r canlynol:
- Iechyd a Diogelwch
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
- Lles Myfyrwyr
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion disgyblu
- Ansawdd amgylcheddol