Canllaw i’r System Glirio: Cyrsiau Mynediad
Gall Cyrsiau Mynediad fod yn lwybr gwych i fyfyrwyr sydd wedi bod allan o’r system addysg am gyfnod neu’r rhai sydd heb gymwysterau traddodiadol. Gall myfyrwyr o bob oed ymuno â Chwrs Mynediad, waeth beth fo’u cefndir.
Mae’r system Glirio’n digwydd o fis Gorffennaf i fis Hydref ac mae’n gyfle gwych i ddefnyddio’ch cymwysterau Mynediad i sicrhau lle ar gwrs prifysgol sy’n addas i chi.
Top tips for Clearing with an Access Course
Gwneud cais drwy’r system Glirio gyda Chymwysterau Mynediad: Cyngor Campus PCYDDS
Paratowch mewn da bryd ar gyfer y broses Glirio
YMae’n bosibl y byddwch yn derbyn canlyniadau eich Cwrs Mynediad cyn y bydd unrhyw ganlyniadau eraill, fel Safon Uwch, yn cael eu cyhoeddi. Os ydych chi’n dal i chwilio am gwrs prifysgol bryd hynny, gallwch ddefnyddio’r amser i wneud yn siŵr eich bod yn barod ar gyfer y broses Glirio.
- Chwiliwch am Gyrsiau: Edrychwch ar y cyrsiau a’r prifysgolion posibl. Mae gan PCYDDS ystod eang o raglenni a allai fod o ddiddordeb i chi, edrychwch ar ein cyrsiau i weld pa rai sy’n apelio i chi ac sy’n gweddu i’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
- Gwiriwch y Gofynion Mynediad: Mae gan gyrsiau prifysgol ofynion mynediad gwahanol. Mae’r rhain wedi’u rhestru ar dudalennau gwybodaeth y cwrs ar wefan PCYDDS neu maen nhw ar gael drwy UCAS. Bydd gwybod beth yw gofynion mynediad eich cwrs yn eich helpu i fod yn barod ar ddiwrnod y canlyniadau.
Mynegwch Ddiddordeb
Pan fyddwch wedi gorffen chwilio am opsiynau posibl y fewn y system glirio, cysylltwch â ni i fynegi diddordeb, dywedwch beth sydd o ddiddordeb i chi ac yna byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi er mwyn dweud wrthych am gyfleoedd o fewn y system Glirio.
- Llenwch Ffurflen Ymholiadau Clirio: Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r cwrs i chi, cofiwch fynegi eich diddordeb ar gyfer y system Glirio, os gwnewch chi hyn byddwn ni’n gallu danfon y wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cyrsiau ac am y system Glirio.
- Galwch ein Llinell Gymorth Clirio Cysylltwch â ni ar 0300 323 1828 i drafod eich opsiynau ac i roi manylion eich cymwysterau a’ch graddau BTEC.
Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor
Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.
Diwrnod y Canlyniadau: Byddwch yn Barod
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i brifysgol, mewngofnodwch i Track UCAS ar ddiwrnod y canlyniadau er mwyn gweld a yw’ch prif ddewis neu’ch prifysgol wrth gefn wedi’ch derbyn. Os nad ydyn nhw, byddwch yn cael eich cynnwys yn y broses glirio yn awtomatig. Os nad ydych chi wedi gwneud cais drwy UCAS, gallwch ddefnyddio’r system Glirio i wneud cais hwyr.
Pan fyddwch yn gwneud cais trwy’r System Glirio, byddwch angen:
- Canlyniadau eich Cwrs Mynediad (a manylion unrhyw gymwysterau perthnasol eraill sydd gennych).
- Eich Rhif UCAS (os oes gennych chi un).
- Cod y cwrs yr hoffech chi ei astudio, mae hwn ar UCAS neu ar ein tudalennau cwrs.
- Cod sefydliad y Brifysgol (ein cod ni yw T80)
- Unrhyw wybodaeth bersonol arall, fel eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, a chyfeiriad eich cartref.
- Eich Datganiad Personol, neu ddogfennau perthnasol eraill, a allai gefnogi eich cais.
Bydd cael yr holl wybodaeth allweddol yn barod yn gwneud y broses Glirio yn rhwydd.
Byddwch yn hyblyg
Bydd eich cymwysterau Mynediad yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyrsiau gradd. Ystyriwch pa elfennau o’ch astudiaethau Mynediad a roddodd y mwyaf o foddhad i chi, a dewiswch gwrs prifysgol sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau gyrfa hirdymor. Byddwch yn hyblyg ac yn feddwl-agored wrth ystyried y dewisiadau cwrs a allai fod ar gael trwy’r system Glirio.
Cofiwch, efallai bydd modd i chi gyfuno’ch cymwysterau Mynediad â chymwysterau eraill neu brofiad sydd gennych. Siaradwch â’n tîm Clirio, a fydd yn eich helpu i ddeall y gwahanol opsiynau cwrs ac yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs prifysgol gorau i chi.
Gofynnwch am gyngor a chefnogaeth er mwyn gwneud y penderfyniad Clirio gorau i chi
Rydyn ni’n deall y gall gwneud cais drwy’r system Clirio fod yn amser prysur, gyda llawer o bethau i’w hystyried. Gall cadw’n bositif ac yn rhagweithiol trwy gydol y broses Glirio wneud gwahaniaeth mawr
Mae sawl ffynhonnell wybodaeth ar gael i chi. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi edrych ar wefannau fel UCAS a The Student Room.
Mae’r PCYDDS hefyd yma i’ch cefnogi bob cam o’r daith. Manteisiwch ar y cyngor sydd ar gael i chi, p’un ai trwy ffonio, e-bostio neu ddod i un o’n Dyddiau Agored Clirio, ac mae gennym dimau arbennig wrth law i’ch helpu gyda 3 pheth pwysig y dylech chi eu hystyried:
Mae gennym dimau arbennig wrth law i’ch helpu gyda 3 pheth mawr y dylech eu hystyried, ar wahân i’ch dewis o gwrs:
Dod i Ddiwrnod Agored Clirio
Ar ôl i chi cael cynnig trwy’r System Glirio, treuliwch amser yn pwyso a mesur eich opsiynau er mwyn gwneud y penderfyniad iawn i chi.
Dewch i un o’n Dyddiau Agored Clirio i gael blas ar fywyd myfyriwr PCYDDS ac i ofyn cwestiynau pwysig, er mwyn i chi wybod eich bod yn gwneud y penderfyniad iawn i chi ac i’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Pan fyddwch wedi penderfynu, gallwch gadarnhau eich lle yn y brifysgol drwy ddefnyddio Track UCAS.
Ac yn olaf
Mae’r system Glirio yn cynnig cyfle gwych i gael lle ar gwrs prifysgol gan ddefnyddio eich Cymwysterau Mynediad. Yn PCYDDS rydyn ni’n gwerthfawrogi’r ystod o brofiad y gall myfyriwr Mynediad ei gynnig i’r brifysgol. Cofiwch, trwy wneud Cwrs Mynediad rydych eisoes wedi dangos eich ymroddiad a’ch gallu i lwyddo.
Y Brifysgol yw’r cam nesaf ar eich taith addysgol. Mynegwch ddiddordeb trwy lenwi ein ffurflen ymholiadau Clirio, ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio ar 0300 323 1828, neu edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Pob lwc, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i PCYDDS
Gwneud cais i'r Brifysgol gyda Chwrs Mynediad
Gwneud cais i’r Brifysgol gyda Chwrs Mynediad
-
Ar gwrs Mynediad, yn ogystal â chael dealltwriaeth academaidd o’r pwnc, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau astudio hanfodol, fel technegau ymchwilio, sgiliau ysgrifennu traethodau, rheoli amser, meddwl yn feirniadol, a sgiliau byd go iawn. Mae Cwrs Mynediad yn gosod sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn y brifysgol.
Mae elfennau ymarferol a galwedigaethol i lawer o gyrsiau Mynediad, a gallan nhw ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan roi sgiliau gwerthfawr i’r rhai sy’n awyddus i ymuno â rhaglen radd. -
Fel arfer, er mwyn cael lle mewn prifysgol gyda Diploma Mynediad i Addysg Uwch, byddwch angen cwblhau 60 credyd ar Lefel 3. Gallwch wneud hyn dros gyfnod o flwyddyn trwy astudio llawn amser, neu astudio’n rhan-amser dros gyfnod o ddwy flynedd neu fwy. Gallwch ennill hyd at 144 Pwynt UCAS trwy wneud cwrs Mynediad, sydd gyfwerth â thair Safon Uwch gradd A.