Rhwydwaith Diwifr Eduroam
Eduroam yw’r rhwydwaith diwifr at ddefnydd staff a myfyrwyr ar draws pob campws. Bydd eduroam hefyd yn rhoi mynediad i rwydweithiau diwifr unrhyw sefydliad arall ar draws y byd sy’n defnyddio eduroam.
Gwelwch ble arall y cewch fynediad i eduroam ar wefan eduroam.
Cysylltu’ch Dyfais Windows
Windows 10, 8/8.1, 7
- Lawrlwythwch y gosodydd ar gyfer eich system weithredu:
- Rhedeg y gosodydd
- Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
- Enghraifft myfyrwyr:
- Enghraifft staff:
Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am y rhwydweithiau diwifr ar eich dyfais, cliciwch ar eduroam a chlicio ar y botwm i gysylltu.
Cysylltu’ch Dyfais Apple
Apple iMac, MacBook, iPad, iPhone ac iPod
- Lawrlwythwch y gosodydd ar eich system gweithredu:
- Apple macOS
- Gosodydd eduroam Apple iPad, iPhone ac iPod
- Rhedwch y gosodydd
- Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
- Enghraifft myfyrwyr:
- Enghraifft staff:
Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.
Cysylltu’ch Dyfais Android
- Lawrlwythwch a gosod rhaglen eduroamCAT o Google Play Store
- Lawrlwythwch y gosodydd ar eich system weithredu;
- Rhedwch y gosodydd
- Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
- Enghraifft myfyrwyr:
- Enghraifft staff:
Os byddwch yn newid eich cyfrinair PCYDDS rywbryd, bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn rhoi eich cyfrinair newydd ar gysylltiad diwifr Eduroam eich dyfais. Agorwch ‘cysylltiadau di-wifr’, dewiswch Eduroam, a golygwch eich cyfrinair.
Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.
Cysylltu’ch Dyfais Chromebook
- Lawrlwythwch osodydd Eduroam Chrome OS (Chromebook)
- Rhedwch y gosodydd
- Agorwch Borwr Chrome a phori i chrome://net-internals/#chromeos
- Defnyddiwch y botwm ‘Import ONC file’ (mae’r mewnforio’n dawel, felly ni welwch unrhyw beth yn digwydd)
- Pan ofynnir i chi, rhowch eich cyfeiriad a’ch cyfrinair llawn yn Y Drindod Dewi Sant
- Enghraifft myfyrwyr:
- Enghraifft staff:
Pan fyddwch ar y campws, chwiliwch am rwydweithiau diwifr ar eich dyfais, dewiswch eduroam a chlicio i gysylltu.
Dyfeisiadau Eraill
Os nad yw eich dyfais wedi ei rhestru neu fod angen i chi osod eich dyfais â llaw;
- Cysylltu â’r rhwydwaith diwifr (SSID): Eduroam
- Yn y parth ar gyfer yr enw defnyddiwr, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn Y Drindod Dewi Sant yn llawn
- Enghraifft myfyrwyr:
- Enghraifft staff:
- Yn y parth ar gyfer y cyfrinair, rhowch eich cyfrinair yn Y Drindod Dewi Sant
Gwasanaeth Di-wifr i Westeion
Rhwydwaith diwifr Gwesteion Y Drindod Dewi Sant yw’r prif rwydwaith diwifr ar gyfer Gwesteion Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?
Gwesteion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ymwelwyr.
Sut y gallaf gysylltu â chyswllt Gwesteion Y Drindod Dewi Sant?
Nid oes angen gwybodaeth flaenorol gan TaSG er mwyn manteisio ar y gwasanaeth hwn, mae’n darparu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer cyfnod o 24 awr.
I gysylltu, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
- Ar eich dyfais o dan rwydwaith diwifr, dewiswch “UWTSD Guest” (nid oes angen unrhyw allwedd diogelwch).
- Ar ôl ei gysylltu, cliciwch “Get Online”.
Gosodiad Eduroam i Ymwelwyr
Mae modd i ymwelwyr ddefnyddio eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Fodd bynnag, bydd angen i chi gysylltu â gwasanaeth cymorth TG eich sefydliad i gael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Sylwer: tra byddwch yn cysylltu ag eduroam ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fod Polisi Defnydd Derbyniol yn berthnasol i bob defnyddiwr westai.