Llyfrgell Llambed
Mae’r Brif Lyfrgell a Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen wedi’u lleoli yng nghwadrant de-orllewinol y campws. Mae’r fynedfa gyferbyn ag Adeilad Caergaint. Mae’r Ddesg Gwasanaeth TG a Chanolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy hefyd wedi’u lleoli yn yr adeilad.
Cyfleusterau Llyfrgell Llambed
Mae Llyfrgell Llambed yn rhoi mynediad i ystod o fannau dysgu hyblyg i gefnogi ein holl fyfyrwyr. Mae enghreifftiau o’r mathau o ofod astudio sydd ar gael yn Llyfrgell Llambed a ble y gellir dod o hyd iddynt isod.
-
P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).
Mae Stackmaps ar gyfer Llyfrgell Llambed isod
Ystafelloedd Astudio y Llawr Uchaf
Ystafelloedd Astudio y Llawr Isaf
-
- Mynedfa hygyrch yn nhu blaen adeilad y llyfrgell.
- Mynediad mewn lifft i bob llawr.
- Toiledau hygyrch ar gael ar y llawr mesanîn.
- Ffynnon ddŵr ar gael.
-
- Mae casgliadau llyfrau ar y llawr uchaf a’r llawr isaf
- Mae pamffledi, cyfnodolion, llyfrau ychwanegol, ac archifau a chasgliadau arbennig hefyd ar y llawr isaf
- Mae loceri wedi’u lleoli ar y llawr mesanîn, mae chwech ohonyn nhw ar gael i’w benthyg am dair wythnos, tra bod dau ohonyn nhw ar gael i’w benthyg am ddiwrnod
- Mae desg y Llyfrgell, a’r peiriannau hunanwasanaeth a hunanddychwelyd wedi’u lleoli ar y llawr mesanîn
- Mae peiriant gwerthu sy’n cael ei reoli gan staff y gwasanaethau arlwyo ar gael ar y llawr mesanîn
- Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau y tu allan i brif fynedfa’r llyfrgell.
- Mae’r llawr mesanîn yn cynnwys lle ar gyfer byrddau arddangos ac arddangosfeydd
-
Mae teithiau o gwmpas ein llyfrgell yn Llambed ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.
- Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
- Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
- Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
- Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.