Skip page header and navigation

Cwestiynau Cyffredin am y System Glirio

Ai Clirio yw’r dewis iawn i chi?

Ai Clirio yw’r dewis iawn i chi? 

Rydyn ni’n deall nad yw llwybr bywyd yn syth a gwastad bob amser, a ‘dyw’r broses o wneud cais i’r brifysgol ddim gwahanol, boed o ganlyniad i beidio â chael y canlyniadau yr oeddech yn eu disgwyl, newidiadau o ran eich dewis o gwrs, neu amgylchiadau annisgwyl sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth. Mae cymorth ar gael i’ch helpu trwy’r broses Glirio. 

Dylech ei ystyried fel cyfle i dyfu ac i lwyddo. Byddwch yn bositif ac yn feddwl-agored, ac fe fyddwch yn dod o hyn i gwrs  sy’n iawn i chi. 

  • Cymrwch anadl ddofn a pheidiwch â chynhyrfu.
  • Ystyriwch pa gyrsiau eraill a allai gyd-fynd â’ch nodau academaidd neu’ch dyheadau gyrfa.
  • Byddwch yn rhagweithiol ac yn drefnus pan fyddwch yn chwilio am gwrs addas drwy’r system Glirio.
Row of students walking and chatting

Dyddiadau Allweddol ar gyfer Clirio 2024

Dyddiadau Allweddol ar gyfer Clirio 2024

Dydd Gwener 5 Gorffennaf 2024 Clirio yn Agor
Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2024  Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu wrthod unrhyw gynigion UCAS presennol (gan gynnwys UCAS Extras)
 
Dydd Iau 6 Gorffennaf  Canlyniadau SQA yn cael eu cyhoeddi yn yr Alban
Dydd Iau 15 Awst 2024  Cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch a BTEC Cenedlaethol
Dydd Iau 22 Awst 2024  Cyhoeddi dyfarniadau BTEC Tech a Thechnegol
21 Hydref 2024  Clirio 2024 yn cau 
  • Os ydych eisoes wedi gwneud cais drwy UCAS erbyn 30 Mehefin 2024 ond ddim wedi cael eich prif ddewis na’ch dewis wrth gefn ar ôl derbyn eich canlyniadau, yna byddwch yn cael eich rhoi yn y system Glirio. 
  • Os nad oes gennych gais UCAS , gallwch ymuno â’r system Glirio yn uniongyrchol trwy wneud cais newydd. 

Cwestiynau Cyffredin am y System Glirio

Atebion i’ch Cwestiynau am y System Glirio

  • Rydych chi wedi derbyn canlyniadau eich arholiadau ac maen nhw’n well na’r disgwyl. Yn gyntaf oll, llongyfarchiadau! Rydych chi mewn sefyllfa berffaith i ddilyn eich cwrs dewis cyntaf. Ond efallai bod tro yng nghynffon y stori a’ch bod chi’n awyddus i edrych ar lwybrau a dewisiadau eraill o ran eich cwrs. 

    Byddwch yn bwyllog wrth ystyried eich dewisiadau. Os byddwch yn penderfynu eich bod am newid eich cwrs neu brifysgol, bydd angen i chi wrthod y cynnig presennol trwy UCAS cyn y cewch chi ymuno â’r broses Glirio. 

    Gallwn gynnig ystod o wahanol gyrsiau ar draws meysydd Celf, y Gwyddorau, Peirianneg, Addysg, y Dyniaethau, Rheoli ac Iechyd, a bydd pob un ohonyn nhw’n eich paratoi ar gyfer eich gyrfa ddewisol. Gallai fod yn gyfle perffaith i chi ehangu eich gorwelion, boed hynny trwy barhau â’ch llwybr gwreiddiol neu trwy dorri cwys newydd gyda ni yn PCYDDS - mae’ch dyfodol yn ddisglair. 

    Bydd ein tîm cyfeillgar ar y llinell gymorth Clirio ar gael i’ch arwain trwy’ch dewisiadau.  

  • Gall y System Glirio fod yn ddefnyddiol os ydych wedi newid eich meddwl am yr hyn yr hoffech chi ei astudio yn y brifysgol. Mae’n cynnig cyfleoedd cyffrous i chi ystyried, a chyrsiau a allai gyd-fynd yn well â’ch dyheadau gyrfa a’ch amcanion. 

    • Gwnewch eich gwaith ymchwil mor fuan ag y gallwch chi o ran pa gyrsiau eraill a allai fod yn bodloni’ch anghenion. 
    • Gwiriwch eich bod yn bodloni gofynion mynediad eich dewis newydd o gwrs.  
    • Cysylltwch â’n llinell gymorth Clirio i gael gwybodaeth a chyngor am drosglwyddo cyrsiau. Mae ein tîm yma i wneud y broses o newid cyrsiau mor rhwydd ag sy’n bosibl. 
  • Mae llwybr bywyd yn llawn troeon annisgwyl. Does dim o’i le ar ailystyried eich penderfyniadau, gan gynnwys eich cynnig gan brifysgol. Os yw eich amgylchiadau wedi newid, efallai eich bod wedi penderfynu eich bod eisiau astudio mewn prifysgol arall neu eich bod angen bod yn nes at adre, mae’n bwysig i chi ystyried eich dewisiadau’n ofalus. Os byddwch yn  penderfynu gwrthod eich cynnig presennol, mae’r broses Glirio wedi’i chynllunio er mwyn eich helpu i ddod o hyd i gwrs arall a allai fod yn fwy addas i chi. 

    Rydyn ni’n cynnig cyrsiau hyblyg ar draws ein campysau. Cysylltwch â’n tîm i drafod pa gwrs sydd orau i chi

Cwestiynau Cyffredin am y System Glirio

Byddwch angen 3 pheth pan fyddwch yn ffonio.

01
Eich ID UCAS 10 digid (sef eich ID Personol). Mae hwn i’w weld ar eich tudalen ymgeisio.
02
Eich canlyniadau TGAU a Safon Uwch/BTEC.
03
Y pwnc yr hoffech chi ei astudio. Gall hyn fod yn eang iawn, ac fe wnawn ni eich helpu i ganfod y cwrs sy’n iawn i chi.
Students in the quad at Lampeter

Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.

Cwestiynau Cyffredin am y System Glirio

  • Ar ôl i chi gael eich canlyniadau, cymrwch anadl ddofn a pheidiwch â chynhyrfu. Cofiwch mai dim ond dechrau eich taith addysg uwch yw cael eich canlyniadau a bod llawer o lwybrau cyffrous yn dal i fod ar gael i chi. Mae prifysgolion yn deall nad yw’ch potensial yn seiliedig ar ddim ond eich canlyniadau mewn arholiadau. 

    Yn gyntaf, cysylltwch â’ch prif ddewis a’ch dewis wrth gefn i weld a oes unrhyw hyblygrwydd ar eu hochr nhw. Mae’n bosibl y gallan nhw gynnig lle i chi ar eich cwrs yr un fath, neu efallai byddan nhw’n awgrymu cwrs arall. 

    Fel arall, gallwch fynd i’r system Glirio a gweld pa gyrsiau eraill sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau. Nid dod o hyd i rywbeth sy’n gwneud y tro yw clirio, mae’n broses a allai arwain at gyfleoedd sy’n gweddu’n well i chi na’ch dewis cyntaf hyd yn oed. Er enghraifft, efallai y byddai cwrs Sylfaen yn wych er mwyn meithrin eich sgiliau a’ch profiadau ymhellach. 

    Dyma gyfle gwych i fyfyrio ar yr hyn rydych chi eisiau o’ch profiad o addysg uwch. Gall canlyniadau annisgwyl arwain at opsiynau gwych na fyddech wedi’u hystyried fel arall. Byddwch yn feddwl-agored ac yn bositif, gall eich canlyniadau annisgwyl eich arwain i’r union fan y dylech fod. 

    Drwy gydol y broses Glirio, bydd cyfoeth o gyngor a chefnogaeth ar gael i’ch helpu i wneud y penderfyniad gorau i chi. Cysylltwch â llinell gymorth Clirio PCYDDS i drafod eich opsiynau

  • Os nad ydych yn bodloni gofynion mynediad eich cynigon cadarn na’ch dewisiadau wrth gefn, peidiwch â phoeni. Bydd llwybrau eraill y gallwch chi eu dilyn ar eich taith trwy addysg uwch, a gallai fod yn gyfle i chi ystyried posibiliadau newydd. 

    Yn gyntaf, cysylltwch â’ch prif ddewis a’ch dewis wrth gefn i weld a oes unrhyw hyblygrwydd ar eu hochr nhw er mwyn eich derbyn ar eich cwrs dewisol. Os nad ydych yn llwyddiannus gyda’ch dewisiadau cyntaf, byddwch yn cael eich rhoi yn y system Glirio yn awtomatig er mwyn dod o hyd i gyrsiau eraill

    Byddwch yn hyblyg, ystyriwch opsiynau ar gyfer astudio pynciau gwahanol neu mewn gwahanol leoliadau. Gall Clirio agor llawer o ddrysau newydd a’ch helpu i ddod o hyd i lwybr cyffrous na fyddech wedi ei ystyried fel arall. 

    Mae gan PCYDDS amrywiaeth o gyrsiau ar draws ein campysau, a byddem yn eich annog i edrych ar ein cynigion cwrs gan y gallech ddod o hyd i rywbeth sy’n gweddu’n berffaith i’ch diddordebau a’ch nodau chi. 

    Cofiwch y gall llwybrau annisgwyl arwain at brofiadau cadarnhaol a gwerth chweil. 

    Chwiliwch trwy’r ystod o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig y cyfnod Clirio hwn

  • Mae llawer yn dewis gohirio eu mynediad am flwyddyn a gallai roi mwy o amser chi gynllunio a pharatoi ar gyfer y brifysgol. Os ydych eisoes wedi bodloni gofynion mynediad eich cwrs, cysylltwch â’r sefydliad er mwyn dysgu beth yw’r dewisiadau a’r prosesau ar gyfer gohirio. 

    Gallech chi ohirio er mwyn ailystyried eich cynlluniau academaidd. Os ydych chi wedi gohirio ac wedi cael eich canlyniadau, yna mae’r broses Glirio yn ddewis da os ydych eisiau ailystyried eich dewis gwreiddiol a gwneud cais i rywle arall. 

    Siaradwch â’r PCYDDS am yr amrywiaeth o gyrsiau rydyn ni’n eu cynnig ar draws ein 6 champws, a dewch o hyd i rywbeth a fydd yn bodloni eich dyheadau gyrfa ar gyfer y dyfodol. 

Dan Ley with a football
“Fe ddes i drwy'r broses Glirio ar ôl gwneud penderfyniad hwyr i ddod i'r Brifysgol. Ar ôl cael fy ngwneud yn ddi-waith, doeddwn i ddim wir yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roedd y broses yn syml ac roedd cefnogaeth PCYDDS yn gwneud cofrestru ar gyfer cwrs yn syml.”
Dan Ley
  • Mae Clirio ar agor i fyfyrwyr BTEC a Safon Uwch. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar 15 Awst 2024. Ond os ydych chi’n bwriadu mynd trwy’r broses Glirio, gallwch achub y blaen trwy baratoi’n gynnar

    Edrychwch i weld pa gyrsiau a phrifysgolion fyddai’n gweddu eich ffordd chi o ddysgu a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Myfyriwch ar eich profiad o’r cyrsiau BTEC neu Safon Uwch a meddyliwch sut y gallen nhw ddylanwadu ar eich dewisiadau astudio yn y dyfodol. 

    Pan fyddwch yn barod i ymuno â’r system Glirio, mae ffurflen ymholiadau Clirio PCYDDS yn fan gwych i ddechrau. Cyn gynted ag y byddwch yn cael eich canlyniadau, bydd ein tîm ymroddedig yno i’ch cefnogi i ddod o hyd i gwrs sy’n gweddu i’ch uchelgeisiau chi. 

    Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o bynciau, ac mae llawer ohonyn nhw’n cynnwys elfennau galwedigaethol ac ymarferol a fydd yn gyfarwydd i chi o’ch astudiaethau BTEC neu Safon Uwch. 

    Bydd eich cymwysterau BTEC a Safon Uwch yn cael eu gwerthfawrogi gan brifysgolion sydd â lleoedd ar gael ar gyfer mis Medi. 

  • Os ydych chi’n fyfyriwr Mynediad sy’n ystyried mynd i’r brifysgol, mae’r system Glirio yn rhoi cyfle i chi ddod o hyd i raglen brifysgol sy’n cyd-fynd â’ch dyheadau a’ch diddordebau academaidd chi. Mae’r system wedi’i chynllunio er mwyn eich helpu i wneud penderfyniadau yn hyderus ac yn effeithiol, gan sicrhau eich bod yn dod o hyd i gwrs lle byddwch chi’n ffynnu. 

    Gyda’ch cymwysterau Mynediad, rydych chi eisoes wedi dangos bod gennych ddigon o ymroddiad a gallu i fynd ymlaen i addysg uwch. Mae prifysgolion yn gwerthfawrogi’r safbwyntiau amrywiol a’r sgiliau cadarn sydd gan fyfyrwyr Mynediad. 

    Bydd ein tîm cymwynasgar yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau yn y system Glirio, gan gynnwys mynediad hyblyg, cyrsiau rhan-amser ac opsiynau dysgu o bell.

  • Os ydych chi’n awyddus i ddechrau yn y brifysgol ym mis Medi, ond ddim wedi cyflwyno cais UCAS, mae ‘na newyddion da i chi. Ar ôl i chi gael eich canlyniadau, gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy’r system Glirio. Mae hwn yn gyfle gwych i chi ganfod cwrs a phrifysgol sy’n eich siwtio chi. 

    • Y cam cyntaf yw ymchwilio’r pwnc neu’r lleoliad sy’n apelio atoch er mwyn gweld a yw’n gweddu i chi. 
    • Yna bydd angen i chi gwblhau cais UCAS newydd, gan gynnwys ysgrifennu datganiad personol a darparu geirda. Bydd rhain yn helpu eich prifysgol ddewisedig i ddeall beth yw eich dyheadau a’ch diddordebau. 

    Os byddwch angen cyngor neu arweiniad yn ystod y broses hon, mae ein llinell gymorth Clirio yma i’ch cefnogi. 

    Pan fyddwch wedi sicrhau lle ar gwrs prifysgol, gallwch ddechrau edrych ymlaen at y cyfleoedd addysg cyffrous sydd o’ch blaen. 

  • Os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed, sydd o bosibl heb gymwysterau ffurfiol diweddar, dylech sgwrsio â’n tîm cyfeillgar i drafod eich opsiynau. Gallwn drafod unrhyw gymwysterau neu brofiad gwaith sydd gennych 

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Llety

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Llety

  • Gall ein tîm ymroddgar eich helpu i ddod o hyd i opsiynau llety sy’n addas i’ch anghenion. E-bost accommodation@uwtsd.ac.uk

  • Mae pawb sy’n y flwyddyn gyntaf ar gampysau Llambed neu Gaerfyrddin yn cael gwarant o lety yn y neuaddau preswyl. 

    Ar ôl i chi sicrhau eich lle yn PCYDDS, gwnewch gais am lety drwy Hallpad (uwtsd.ac.uk) 


     

  • Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â darparwyr llety preifat ar draws ein campysau yn Abertawe. Mae amrywiaeth eang o opsiynau llety myfyrwyr pwrpasol ar gael i chi. 
    Am help a chyngor, cysylltwch â accommodation@uwtsd.ac.uk