Skip page header and navigation

Sioe Haf: Pensaernïaeth

Pensaernïaeth

A light beige background broken up by eight columns containing photos of buildings and the word Retold.

"Retold" yn y Gymuned

Mae sioe Graddedigion 2024 y BSc Pensaernïaeth yn arddangos y gwaith penigamp a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr, gan archwilio cynigion deinamig ar gyfer ystod o brosiectau cymunedol yn gweithio yn nhref hanesyddol Merthyr Tudful yn unig. 

Cynhyrchodd y myfyrwyr gyfres o strategaethau dylunio trefol ac ailddatblygu canol tref i alluogi ymchwiliad pellach er mwyn datblygu briff dylunio addas i gefnogi anghenion y gymuned draddodiadol, ôl-ddiwydiannol hon yn y cymoedd. 

Eleni, mae’r prosiectau’n cwmpasu ystod eang o gynigion, gan gynnwys fferm gymunedol fertigol, canolfan iechyd a llesiant trwy weithgarwch chwaraeon a theatr. Datblygwyd y briffiau ar gyfer y rhain yn annibynnol gan y myfyrwyr. 

Mae’r gwaith sy’n cael ei arddangos hefyd yn cynnwys dealltwriaeth ddatblygedig o ddulliau adeiladu, gwerthuso technegol a chymhwyso ymarferol i gefnogi dilyniant myfyrwyr i fyd gwaith a’u sefydlu ar gyfer gyrfa mewn pensaernïaeth.

Rydym ni yn Ysgol Bensaernïaeth Abertawe yn dymuno’r gorau iddynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

Tîm y Staff
BSc(Anrh) Pensaernïaeth

Dosbarth '24

Ein Gwaith

Ben Harris

Gan weithredu fel lleoliad parhaol ar gyfer Ysgol Theatr Stagecoach ym Merthyr Tudful, sydd ar hyn o bryd yn defnyddio ysgolion lleol gyda’r nos ac ar benwythnosau, bydd y theatr hon yn rhoi lle i blant lleol ddysgu a phrofi’r hyn y gall y celfyddydau perfformio ei gyflawni. Gyda chymysgedd o leoedd ar gyfer dawns ac actio, gall myfyrwyr berfformio ac arddangos yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn theatr yr adeilad. Bydd hyn hefyd yn cael ei ddefnyddio gan berfformwyr lleol fel bandiau bach, grwpiau drama neu hyd yn oed ddigrifwyr.

Fel rhan o uwchgynllun ehangach sy’n cynnwys bwytai, bariau a mannau perfformio awyr agored, mae’r ysgol theatr yn gweithredu fel rhan o ardal newydd ym Merthyr Tudful gyda’r nod o ychwanegu at a chyfoethogi’r dref hanesyddol.

Mae’r defnydd o lechi lleol ar y lloriau gwaelod yn gweithredu fel sylfaen ar gyfer y lloriau uwch cyferbyniol sydd yn wyn. Mae llawer iawn o dirlunio hefyd wedi’i gyflwyno i hyrwyddo bywyd gwyllt a chreu lle deniadol i ymwelwyr.

Ben Steward 

Canolfan Cerbydau a Thechnoleg yn seiliedig ar y cysyniad o sut y gallai nawdd o fusnesau ceir neu feiciau trydan ym Merthyr helpu i greu swyddi, cymunedau, addysg, hamdden ac atebion cynaliadwy. 

Mae’r dyluniad yn seiliedig ar gysyniad Syr Clive Sinclair, dyfeisiwr y Sinclair C5, busnes teuluol cyfredol sy’n noddi datblygiad ym Merthyr. Mae’r C5 wedi cael ei ailddatblygu’n ddiweddar gan ei nai i gystadlu yn erbyn e-feiciau heddiw, gan greu’r IRIS eTrike.

Bwriedir i ddyluniad yr Armitage fod yn rhan o ddinaswedd gyfeillgar i gerddwyr a beicwyr, fel y gall e-feiciau fod yn ddewis diogel yn y dyfodol agos a lleihau allyriadau carbon.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys neuadd arddangos fawr, gweithdai ar gyfer gweithgynhyrchu cerbydau, lifft ceir, labordai, caffi, cyfleusterau cyfeillgar i’r anabl a phlant a Neuadd Gylched ar gyfer addysgu electroneg i bob oedran.

Dyfyniad Ben Steward

Drwy gydol fy amser yn y Drindod Dewi Sant rwyf wedi mwynhau’r profiad cyfan yn fawr. Mae’r cwrs yn cefnogi datblygu sgiliau cyflogadwyedd, yn magu hyder ac yn eich paratoi ar gyfer yr amgylchedd gwaith.

–Ben Steward

Ein Gwaith 2

Bethan Davies

Caiff tŷ ffasiwn newydd ei gyflwyno yng nghanol Merthyr. Bydd yn arddangos rhai o weithiau Julien McDonald (bachgen o Ferthyr); er enghraifft gweithiau sgleiniog, crand a mwy newydd y mae wedi’u creu yn ystod ei yrfa. Bydd y tu mewn i’r adeilad yn cynnwys blaenau siopau symudol, a all newid i arddangos unrhyw frand ffasiwn ym Merthyr. Bydd hyn yn rhoi syniad i chi o’r hyn a ddarperir yn yr adeilad. 

Mae’r Theatr Ffasiwn yn fan lle mae’r gymuned yn dod at ei gilydd i groesawu pawb. Bydd yr adeilad yn cynnwys lleoedd ar gyfer y genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn i astudio ffasiwn, cymdeithasu ac archwilio llwyfan modelau llawn arddangosfeydd ffasiwn. Bydd lle ar gyfer bwyty er mwyn gallu gweld y golygfeydd syfrdanol.

Callum Arnold

Wedi’i lleoli ger Afon Afan, Port Talbot, nod y prosiect hwn oedd creu canolfan celfyddydau creadigol hygyrch i bawb; gan ysgogi bywyd newydd yng nghanol y dref. Gyda diwylliant celf Port Talbot yn ffynnu, nod y prosiect oedd dod yn lle i gynnal a rhannu creadigrwydd y dref. Daeth y bont liwgar, sy’n arwain at ofod swyddfa a gofod addysg, yn brif nodwedd y prosiect, gan ganiatáu i’r lliwiau newid yn sgil yr haenau gwydr, yn dibynnu ar bersbectif y defnyddiwr.

Mae’r adeilad yn darparu dyluniad cynhenid a diwylliannol sensitif, gan ganolbwyntio ar y gwaith dur yn y deunyddiau a ddefnyddir.

Drew Dennehy

Mae’r dyluniad hwn yn ailfformatio natur lorweddol ffermio traddodiadol ac yn ei gymhwyso i adeilad fertigol i gynhyrchu planau llawr allwthiol cryf wedi’u hamgáu â system llenfur. Mae’r syniad hwn o dryloywder yn cyd-fynd â’r cysyniad o ddatgelu’r prosesau ffermio acwaponig i’r cyhoedd, gan ganiatáu iddyn nhw weld yr adeilad a darparu cyfleoedd ar gyfer addysg.

Mae’r adeilad wedi’i ddylunio yn seiliedig ar daith lle mae’r gwasanaethau dŵr yn cael eu defnyddio yn ganllaw, gan godi’r cyhoedd drwy galon yr adeilad a phob llawr yn cynrychioli cam gwahanol yn y broses: pysgodfa, eginblanhigion, cnydau aeddfed a bwyty. 

Drew Dennehy

Mae’r cwrs wedi bod yn hynod ddiddorol, gan annog datblygiad personol cryf a dod yn rhywbeth yr oeddwn yn ei fwynhau’n fawr drwy gydol fy amser yn Y Drindod Dewi Sant.

–Drew Dennehy

Ein Gwaith 3

Jacob Davies Hannen

Mae theatr newydd yng nghanol tref Merthyr yn creu cartref newydd i gerddorion, corau, a chelfyddydau perfformio Merthyr, sy’n cynnig stiwdios ar gyfer ymarferion, bwyty, a chaffi. Yr egwyddor oedd gwneud yr adeilad yn hygyrch ac yn agored i’r cyhoedd. 

Bydd gan yr adeilad ffrynt gwydr mawr o dan orchudd sy’n amddiffyn y fynedfa. Mae ei geometreg sylfaenol wedi’i chynllunio fel pont, roedd hyn yn caniatáu mynediad o amgylch yr adeilad a thrwyddi, wrth gadw ymarferoldeb dau floc wedi’u cysylltu â mezzanines. Mae’r gragen ddur wedi’i rhwdu yn uno màs yr adeilad sy’n dal y sgwâr cyhoeddus mawr newydd a’i nod yw ailgysylltu’r cymunedau celf gwasgaredig a ffurfio canolbwynt cymdeithasol newydd ar gyfer Merthyr Tudful.

Olivia Rowland

Cyfleuster oriel gelf newydd, yng nghanol tref Merthyr Tudful. Pwrpas y datblygiad fydd arddangos hanes Merthyr drwy ddarnau celf hanesyddol a darnau celf newydd gan artist lleol na ellir eu harddangos yn yr oriel gelf leol/amgueddfa Parc a Chastell Cyfarthfa.

 Gyda’r uchelgais i ddod â rhagor o fyfyrwyr i mewn o’r trefi cyfagos. Mae’r oriel gelf yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr/aelodau o’r cyhoedd lleol allu gweithio’n agos gydag artistiaid/gweithwyr proffesiynol lleol, naill ai drwy gynnal gweithdai neu ddosbarthiadau mewn mannau stiwdio mawr. Y tu mewn i’r oriel mae ganddi oriel dreiddio ac arddangosfa dros dro sy’n cael ei newid yn rheolaidd

Mae’r oriel gelf wedi’i chynllunio i ddangos tri ffasâd gwahanol achos gyda phob deunydd yn cael ei ddewis ar gyfer ei chynaliadwyedd a’i apêl weledol yn darparu dyluniad syml ond unigryw. Mae prif oriel gelf yr adeilad ar yr ail lawr ar gantilefer sy’n ymestyn allan 7m. I gefnogi’r cantilefer mae trawstiau dellt mawr wedi’u cuddio yn wal y parapet ar y balconi. 

Mae’r ail lawr yn cael ei gamu’n ôl gan ganiatáu lle balconi mawr ac mae ganddo do cae sy’n wynebu’r gogledd gyda golau awyr i ganiatáu i oleuni’r gogledd gael mynediad i’r gofod stiwdio bob amser o’r dydd.

Dyfyniad Bethan Davies

Rwy wedi datblygu ystod eang o sgiliau gwybodaeth, meddalwedd a lluniadu ac rwy’n falch o fod yn rhan o’r Drindod Dewi Sant.

–Bethan Davies

Ein Gwaith 4

Victoria Weeks

Yn cyflwyno’r Arena Matchstick, canolfan chwaraeon a lles o’r radd flaenaf ym Merthyr Tudful, a gynlluniwyd i anrhydeddu gwaddol y bocsiwr lleol enwog, Johnny Owen. Yn rhychwantu pedwar llawr, mae’r cyfleuster arloesol hwn yn cyfuno ymarferoldeb cadarn â harddwch a natur. Mae’r Arena yn cynnwys ystod ddeinamig o lecynnau ffitrwydd a therapiwtig, gan gynnwys campfa ag offer llawn, ystafelloedd therapi arbenigol, a phafiliynau ymwybyddiaeth ofalgar tawel ar yr ardd do. 

Gan bwysleisio cynaliadwyedd, mae’r adeilad yn ymgorffori technolegau effeithlon o ran ynni, toeau gwyrdd, ac elfennau dylunio bioffilig sy’n meithrin cysylltiad dwfn â natur. Mae coed yn cwmpasu’r strwythur, gan wella ei effeithlonrwydd ynni wrth gynnig esthetig naturiol sy’n hyrwyddo iechyd a lles. Wedi’i gynllunio i wasanaethu’n ganolbwynt cymunedol, nid campfa yn unig yw’r Arena Matchstick, ond conglfaen ar gyfer adfywio, gyda’r nod o hybu iechyd, lles a ffyniant economaidd lleol. 

Mae’n dyst i bensaernïaeth gynaliadwy, gan yrru etifeddiaeth o les ac ymgysylltiad cymunedol yn ei blaen.