Skip page header and navigation

Canllaw i’r System Glirio: Safon Uwch

Canllaw i’r System Glirio: Safon Uwch

Clearing - tips for those with A Levels

Gwneud cais drwy’r system Glirio gyda chymwysterau Safon Uwch: Cyngor Campus PCYDDS

Students collaborating at a desk

Paratowch mewn da bryd ar gyfer eich canlyniadau Safon Uwch

Mae canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi ar 15 Awst 2024 yng Nghymru a Lloegr (mae canlyniadau SQA yn cael eu cyhoeddi ar 6 Awst 2024 yn yr Alban). Ond mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud cyn hyn os ydych chi’n ystyried defnyddio’r system Glirio. 

Dewch i ddeall y broses Glirio:  Ymgyfarwyddwch â sut mae’r system Glirio yn gweithio, yr amserlen, a pha gamau sydd angen eu cymryd. 

Peidiwch â chynhyrfu ar Ddiwrnod y Canlyniadau

Pan fyddwch yn cael eich canlyniadau, cofiwch fod angen i chi ddathlu eich cyflawniadau a’ch gwaith caled. 

Gallwch fewngofnodi i Track UCAS er mwyn dod o hyd i’ch canlyniadau a gweld a yw’ch prif ddewis neu’ch prifysgol wrth gefn wedi’ch derbyn. Os nad ydyn nhw, peidiwch â chynhyrfu, ewch ati’n bwyllog i gynllunio eich camau nesaf.

  • Casglwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen: Mae hyn yn cynnwys eich canlyniadau Safon Uwch, eich ID UCAS, eich datganiad personol ac unrhyw ohebiaeth arall gyda phrifysgolion. 
  • Llenwch Ffurflen Ymholiad Clirio: Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r cwrs i chi, cofiwch gofrestru eich diddordeb yn y system Glirio. Fel hyn byddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
  • Galwch ein Llinell Gymorth Clirio Cysylltwch â ni ar 0300 323 1828 i drafod eich opsiynau ac i roi manylion eich cymwysterau a’ch graddau Safon Uwch.
Students in the quad at Lampeter

Mae Ein Llinell Gymorth Clirio Ar Agor

Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio heddiw i gael cyngor am y System Glirio, Diwrnod Canlyniadau, ac am Gyrsiau.

Gwneud cais trwy’r system Glirio

Byddwch angen: 

  1. Eich Canlyniadau Safon Uwch (ac unrhyw gymwysterau eraill, fel BTEC, gallwch wneud cais gyda’r rhain hefyd). 
  2. Eich Rhif UCAS (os oes gennych chi un).
  3. Cod y cwrs yr hoffech chi ei astudio, mae hwn ar UCAS neu ar ein tudalennau cwrs.
  4. Cod sefydliad y Brifysgol (ein cod ni yw T80)
  5. Unrhyw wybodaeth bersonol arall, fel eich cyfeiriad e-bosteich rhif ffôn, a chyfeiriad eich cartref.

Bydd cael yr holl wybodaeth allweddol yn barod yn gwneud y broses Glirio yn rhwydd. 

A young man using a laptop in a café.

Byddwch yn hyblyg

Ystyriwch pa elfennau o’ch astudiaethau Safon Uwch a roddodd y mwyaf o foddhad i chi, ac ystyriwch eich dyheadau gyrfa hirdymor pan fyddwch yn chwilio am y cwrs gorau i chi yn y system Glirio. Byddwch yn feddwl-agored o ran cyrsiau na fyddech wedi’u hystyried gynt, ac edrychwch ar fformatau gwahanol, fel cydanrhydedd neu gyrsiau lefel sylfaen. 

Gall UCAS Clearing Plus awgrymu cyrsiau yn seiliedig ar eich proffil a’ch ceisiadau, a gall ddangos opsiynau na fyddech wedi’u hystyried fel arall. 

Siaradwch â’n tîm Clirio, a fydd yn eich helpu i ddeall y gwahanol opsiynau ac yn eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs gorau i chi. 

Cofiwch y gallwch chi gyfuno eich cymwysterau Safon Uwch gyda’ch cymwysterau eraill, fel BTEC, er mwyn bodloni gofynion mynediad cyrsiau gradd PCYDDS. Trwy fod yn hyblyg gallwch gyflwyno’r cais cryfaf posibl.

Gofynnwch am gyngor a chefnogaeth er mwyn gwneud y penderfyniad Clirio gorau i chi

Rydyn ni’n sylweddoli y gall ymgeisio trwy’r system Glirio deimlo’n llethol, ond mae PCYDDS yma i’ch cefnogi bob cam o’r daith. Manteisiwch ar y cyngor sydd ar gael i chi, p’un ai trwy ffonioe-bostio neu ddod i un o’n dyddiau agored clirio, ac mae gennym dimau arbennig wrth law i’ch helpu gyda 3 pheth pwysig y dylech chi eu hystyried: 

01
Cyngor am Gyrsiau: Gall ein timau eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi, ar sail eich cymwysterau a’ch diddordebau.
02
Cyngor Ariannol: Gallwch gael cyngor ymarferol am gyllid myfyrwyr, gan gynnwys ffioedd dysgu, ysgoloriaethau, a benthyciadau.
03
Cymorth Llety: Fe wnawn eich helpu i ddod o hyd i lety addas er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu byw mewn lle sy’n gyfforddus ac yn hwylus tra fyddwch chi’n astudio gyda ni.

Dod i Ddiwrnod Agored Clirio 

Ar ôl i chi dderbyn cynnig trwy’r system Glirio, dewch i un o’n Dyddiau Agored Clirio i gael blas ar fywyd myfyriwr PCYDDS. Gallwch weld y cyfleusterau a’r lleoliadau dysgu a chael cyfle i siarad â staff a myfyrwyr, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud y dewis iawn i chi. 

Ac yn olaf 

Does dim rhaid i’r broses o wneud cais Clirio â Safon Uwch fod yn anodd. 
Bydd eich cymwysterau Safon Uwch yn addas iawn ar gyfer llawer o wahanol gyrsiau gradd PCYDDS. 

Cychwynnwch ar eich taith heddiw trwy ymchwilio’ch dewisiadau, mynegi diddordeb, a thrwy gymryd camau rhagweithiol i sicrhau eich dyfodol. Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio  0300 323 1828 neu edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Pob lwc, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu i PCYDDS.

Students in Carmarthen Town Centre

A Level qualifications

Gwneud cais i’r Brifysgol gyda Safon Uwch

  • Trosi graddau Safon Uwch yn bwyntiau UCAS

    GRADD SAFON UWCH

    PWYNTIAU UCAS

    A*

    56

    A

    48

    B

    40

    C

    32

    D

    24

    E

    16