Skip page header and navigation

Sioe Haf: Darlunio

Darlunio

A simple, colourful graphic showing a black man and white woman sitting back-to-back while smiling and looking at mobile devices.

Bydoedd Creadigrwydd Gweledol

Croeso i’r arddangosfa Pick ‘n’ Mix sy’n dathlu diwedd tair blynedd o waith gan y myfyrwyr BA(Anrh) Darlunio.  

Mae’r sioe’n rhoi sylw i amrywiaeth eang yr arfer creadigol o fewn disgyblaeth Darlunio, o gelf gysyniadol, dylunio cymeriadau, llyfrau plant, dylunio deunyddiau pecynwaith, darlunio golygyddol, hysbysebu, a nofelau graffig.  

Dewch i weld yr amrywiaeth o gelf sy’n berthnasol yn fasnachol a grëwyd gan ddefnyddio ystod eang o gyfryngau, rhai traddodiadol a digidol, 2D, 3D a delweddau symudol, a chael cipolwg ar arfer darlunio cyfoes.  Porwch bortffolios o waith celf arbrofol a chelf sy’n canolbwyntio ar y cleient, a grëwyd gydag arloesi ac unigolyddiaeth yn barod ar gyfer byd creadigrwydd gweledol.  

Tîm y Staff 
BA(Anrh) Darlunio

Dosbarth '24

Amdanon Ni

Alice Patterson

Mae Alice Patterson yn ddarlunydd wedi’i lleoli yn Llundain sy’n ceisio gwneud gwaith sy’n gwneud i bobl deimlo’n hapus.  Mae’n defnyddio technegau digidol a thraddodiadol i greu darnau hwyliog a chwareus y mae plant ac oedolion yn gallu eu mwynhau. A hithau’n hoff iawn o gathod, mae’i gwaith yn aml yn cynnwys cathod mewn senarios lled-ddynol lle gellir eu gweld yn mwynhau cwpanaid o de neu’n dathlu mewn parti pen-blwydd. Mae’i gwaith yn ymestyn dros lawer o feysydd gwahanol o fewn darlunio megis darlunio golygyddol, dylunio cardiau cyfarch a nwyddau swyddfa.   

Alice Snow

Mae Alice yn artist o Loegr sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Dan ei ffugenw “Eleanor Quin”, mae’n creu darluniadau deinamig a lliwgar. Gan weithio gyda meddalwedd ddigidol a phapur ac ysgrifbin traddodiadol, mae’n arsylwi ac yn dal pobl go iawn ac yn creu cipluniau bywiog a deniadol o’u bywydau pob dydd. Mae’i dylanwadau’n cynnwys anime a cherddoriaeth roc indie ac o dro i dro bydd y rhain yn ysbrydoli ac yn llywio’i gwaith.  

Amy Thomas

Mae Amy Rachel yn ddarlunydd o Abertawe. Mae’n gymeriad gofalgar, hwyliog ag uchelgais mawr i greu gwaith celf prydferth ymhob cyfrwng.  

Mae’n mwynhau creu darluniadau reportage ac mae’i gallu i roi sylw i fanylion yn amlwg yn ei holl gelf, yn enwedig ei darnau pensaernïol sydd hefyd yn ymddangos yn ei gwaith llinellau unigryw. Mae’i gwaith celf wedi’i seilio’n bennaf ar ei theithiau ac amryw o leoedd mae’n mwynhau eu harchwilio ar draws y byd. Mae’n well ganddi weithio’n draddodiadol, drwy fraslunio ar y safle, a datblygu’i syniadau ymhellach yn y stiwdio.  

Anais Gauci

Mae Anais Gauci yn ddarlunydd sy’n arbenigo mewn dylunio cymeriadau a chelf gysyniadol, gan greu storïau a bydoedd i’w harchwilio. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn perthnasoedd a sut maent yn esblygu dros amser i arwain y naratif a datblygu’i chymeriadau. Mae’n gwerthfawrogi ac yn dwlu ar y syniadau, y darluniadau a’r cysyniadau gwreiddiol a ddefnyddir mewn cyfryngau gwahanol, yn enwedig gemau fideo a ffilmiau wedi’u hanimeiddio.  Mae Anais yn cael ei hysbrydoli gan ystod o genres, o Ffantasi a ffuglen wyddonol i arswyd a’r erchyll. Gan weithio’n ddigidol yn bennaf, mae hi hefyd yn defnyddio dulliau traddodiadol megis pensil a dyfrlliw.  

Blaine Henderson

Mae Blaine, a elwir hefyd yn Very_Blank_Canvas, yn ddarlunydd sy’n creu cymeriadau a darluniadau cyfrwng cymysg. Mae’i gariad at arbrofi’n caniatáu iddo archwilio ffurfiau traddodiadol a digidol ar gelf, gan fynegi ei frwdfrydedd dros wneud marciau gan ddefnyddio amrywiaeth fawr o gyfryngau. Mae’i ysbrydoliaeth yn deillio o amryw o ffynonellau’n cynnwys diwylliannau Dwyreiniol a Gorllewinol, gan amrywio o manga i’r haniaethol ac argraffiadaeth. Drwy’i ymchwil i semioteg, mae Blaine yn ceisio cyfleu ystyr a naratif/thema gynnil yn ei ddarluniadau a’i gysyniadau o gymeriadau.  

Chelsea Morgan

Mae Chelsea yn ddarlunydd sy’n defnyddio dyfrlliw ac inc i greu darluniadau bywiog a hwyliog. Mae’i gwaith yn amrywio o lyfrau darluniau a thrwyddedu i reportage. Mae ganddi gariad at ddweud stori, sy’n amlwg hyd yn oed yn ei darluniadau ar gyfer priodasau am ei bod yn creu naratif o’r dechrau i’r diwedd i roi rhodd fach unigryw i’r gwesteion i gofio eu diwrnod arbennig gyda’u hanwyliaid. Mae’i phortreadau o westeion priodas yn wir yn cipio eu personoliaethau, yn yr un modd â’i chymeriadau i lyfrau darluniau.  

Chloe Booton

A hithau’n dwlu ar ddyfrlliw, mae Chloe Kathleen Booton yn peintio’r swreal gydag elfennau o’r cyfnod Art Nouveau. Cafodd ei magu yng Nghwm Rhymni, ac mae’n archwilio’r defnydd o linellau organig sy’n llifo ac elfennau naturiol gyda’i ffigurau, gan greu delweddau addurnol sy’n dod â phrydferthwch, symbolaeth ac emosiwn at ei gilydd.    

Ellie Rehmatulla

Mae Tired.Ellie yn ddarlunydd wedi’i lleoli yn Abertawe, sy’n gweithio’n bennaf gyda phinnau paent acrylig a phenseli llinellu main. Mae diddordeb brwd mewn symbolaeth yn ychwanegu dyfnder i’w delweddau, p’un a ydynt yn ddarluniadau golygyddol neu naratif.  Mae’i gwaith yn ddychmygus ond mae ganddo ddilysrwydd sy’n tynnu ysbrydoliaeth o lenyddiaeth dywyll, profiad personol ar arsylwi ar bobl a lleoedd.  

Evan Elias

Mae Evan Elias yn ddarlunydd sydd wedi’i leoli yn Abertawe. Mae’i ddyluniadau beiddgar a lliwgar wedi’u diffinio gan eu harddull graffig, geometrig, gan greu byd fflat â dau ddimensiwn. Mae arfer Evan wedi’i seilio ar ddefnyddio dull minimalaidd, gan roi blaenoriaeth i siâp a chyfansoddiad mewn ymdrech i symleiddio’i ddyluniadau. Mae’i gymeriadau’n byw’n lletchwith yn eu byd clogyrnaidd ac maent i’w gweld dan fwrn diffyg penderfyniad. Neu’n eistedd mewn cadeiriau sy’n rhy fach iddynt.  

Kaitlin Richards-Tang

Mae Kaitlin yn ddarlunydd sy’n dwlu ar chwarae gydag emosiwn ac awyrgylch yn ei gwaith, i greu delweddaeth a fydd yn taro tant gyda’r rheini sy’n ei gweld. Mae ganddi gariad arbennig at natur ac anifeiliaid (yn enwedig cathod) ac mae’i darluniadau, o ddarnau naratif i olygyddol, yn cofleidio hyn. Mae’n gweithio’n ddigidol yn bennaf, yn aml gan ddefnyddio goleuo amgylchol a siapiau llifol cywrain i arwain y llygad drwy bob darn.

Kaleb Slade

Mae Kaleb yn artist sy’n gweithio’n ddigidol yn genre comics a nofelau graffig, gan lenwi’r byd â phob math o gymeriadau ciwt a lliwgar. Gan gymryd ysbrydoliaeth gan Shounen Manga o’r 80au a chryptidau, eu nod yw creu gweithiau’n llawn ysmaldod allfydol sydd hefyd yn helpu i feithrin cydymdeimlad a dealltwriaeth drwy’u naratifau, yn y gobaith o wneud y byd yn lle mwy hapus.   

Kate Joseph

Mae Kate Joseph yn artist o Abertawe, de Cymru. Mae’n defnyddio brasluniau traddodiadol gyda brwshys Risograph digidol i greu darluniadau trawiadol, lliwgar a beiddgar ar arddull toriadau papur. Wedi’i ysbrydoli gan ei chariad at anifeiliaid a lliwiau llachar, mae gwaith Kate yn addurnol iawn a gellir gweld ei chymeriadau’n aml yn torri drwy forderi ei chelf. Mae’n mwynhau archwilio cymhlethdod emosiynau dynol mewn ffordd hwyliog a pherthnasol.

Link Fisher

Mae BlueSquid.png, a elwir hefyd yn Blue, yn ddarlunydd cymeriadau sy’n canolbwyntio ar greu cymeriadau sy’n cael eu sbarduno gan naratif. I Blue mae’n bwysig bod dyluniad cymeriad yn adlewyrchu’i stori a chyd-destun personol. Gyda bydoedd yn amrywio o archfarchnad hud a lledrith i ddinas lom, ddystopaidd â dirywiad cymdeithasol, mae Blue yn awyddus i archwilio ystod eang o themâu o fewn eu gwaith. Maent yn cael eu hysbrydoli gan gyfresi gemau fideo a’r gelf gysyniadol gysylltiedig. Mae Blue yn ddarlunydd digidol sy’n defnyddio gwead tebyg i bensel yn eu gwaith.

Louis Burrows

Mae Louis Burrows yn ddarlunydd o Gymru sy’n cymryd ei ysbrydoliaeth o’i gariad at hen gemau fideo ysgol, llyfrau a ffilmiau. Mae hyn i’w weld yn ei ddyluniadau o gymeriadau, cefndiroedd, a dyluniadau o greaduriaid. Mae Louis yn ddarlunydd digidol yn bennaf ac, fel artist cysyniadol, mae ganddo ddiddordeb brwd mewn dylunio cymeriadau. Y peth y mae’n dymuno ei gael yn fwy na dim o’i waith yw iddo roi gwên ar wynebau pobl.   

Neve Morgan

Mae Neve yn ddarlunydd sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. A hithau wedi’i hysbrydoli’n fawr gan gelf gysyniadol ac adeiladu bydoedd, prif ffocws ei gwaith yw dylunio cymeriadau a darlunio naratifau.  Er ei bod yn gweithio’n ddigidol fel arfer, mae’n hoffi gweithio’n draddodiadol hefyd ac mae’n arbrofi gyda phrintio leino.  Mae’i defnydd o frwshys gweadog a throshaenau’n nodwedd gref yn ei gwaith.   

Nia Hopkins

Mae Nia Hopkins yn ddarlunydd wedi’i lleoli yn Abertawe â brwdfrydedd am ddylunio cymeriadau. Gydag ystod eang o ysbrydoliaeth, o fyd anifeiliaid a ffobiâu i fytholeg a gemau fideo, mae’n gweithio’n ddigidol gan ddefnyddio Procreate i wireddu’i gweledigaeth yn effeithiol. Mae Nia yn cael ei chymell gan gymeriadau ac mae’n dwlu ar ddweud storïau gyda’i chymeriadau a thrwyddynt.  

Nico Wayles

Mae Nico Wayles (a elwir hefyd yn Kalahuso) yn ddarlunydd wedi’i lleoli yn Nottingham, sy’n gweithio’n ddigidol yn bennaf. Mae’i hoffter o ddefnyddio delweddaeth hwyliog a llachar yn denu pobl o bob oed. Daw ysbrydoliaeth Nico yn uniongyrchol o’r byd ffantasi y mae hi’n treulio’i hamser sbâr yn ei archwilio, boed hynny drwy ffilmiau neu’n eistedd i lawr am sesiwn o Dungeons and Dragons. 

Rosie Banks

Mae Rosie Banks yn ddarlunydd sy’n archwilio byd llyfrau darluniau a dweud stori’n weledol. A hithau wedi’i dylanwadu’n drwm gan y llyfrau a ddarllenodd yn blentyn, mae’n mwynhau’r cysyniad o addysgu pobl ifanc ac annog meddwl yn greadigol.  Mae’i harddull traddodiadol yn adlewyrchu’i chariad at lyfrau plant a’r effaith a gawsant yn ei phlentyndod ei hun. Gan ddefnyddio cyfryngau digidol a thraddodiadol, mae’n hoffi dylunio bydoedd hyfryd gyda chymeriadau hwyliog.  Yn ogystal ag ysgrifennu a darlunio’i storïau ei hun, mae’n canolbwyntio ar bynciau sy’n grymuso ac yn goleuo pobl ifanc.   

Sammy Turner

Mae Sammy Turner yn ddarlunydd traws anneuaidd wedi’u lleoli yn Abertawe sy’n canolbwyntio ar ddylunio cymeriadau, darlunio naratifau ac animeiddio. Mae’u creadigaethau’n arddangos yn bennaf ddarluniau digidol o anifeiliaid naturiol ac anthropomorffig sy’n cymryd rhan mewn anturiaethau gwallgof. Yn cyd-fynd â’r rhain mae cyfuniad o gefndiroedd difrifol yn seiliedig ar chwedlau sy’n archwilio pynciau LHDTC+ ac anabledd.  

Mae’u harfer yn cynnwys animeiddio indie y maent yn ceisio ei ddefnyddio’n fodd o ysbrydoli darpar animeiddwyr a darlunwyr. Eu nod yw dangos ei bod yn bosibl cynhyrchu eich sioe eich hun heb gefnogaeth cwmni animeiddio mawr drwy ddefnyddio arddull gelf fywiog, egnïol fel cartŵn sy’n dod ag atgofion o’r 2000au cynnar.   

Sophie Haggett

Mae Sophie Haggett yn artist a darlunydd ym maes dylunio cynnyrch sy’n creu deunydd pecynwaith a hysbysebion ar gyfer cynnyrch sy’n ei diddori ac yn deffro’i chwilfrydedd. Mae’n creu naratif drwy ddyluniadau gwreiddiol ac unigryw sy’n cyfoethogi elfennau gweledol y cynnyrch. I Sophie, mae dylunio cynnyrch bob amser wedi bod yn ffordd o ddefnyddio’i brwdfrydedd am gelf mewn ffordd sy’n dweud stori.  Mae Sophie yn defnyddio cymysgedd o ddyfrlliw, inc a Procreate i greu’i darluniadau egnïol.  

Thomas Cole

Wedi’i ysbrydoli gan ei gariad at ffantasi, mytholeg, a llên werin, mae Tom Cole yn ddarlunydd wedi’i leoli yn ne Cymru sy’n mwynhau creu creaduriaid, cymeriadau a bydoedd cyfoethog sy’n drawiadol yn weledol. Mae gweithio’n draddodiadol ac yn ddigidol i greu gwaith celf sy’n cyfleu emosiwn a dyfnder, ac ar yr un pryd yn chwistrellu arddull sydd wedi’i orliwio, yn dwysáu creadigaethau’r artist ac yn rhoi bywyd iddynt. Mae Tom yn gweithio tuag at yrfa mewn datblygu gweledol ar gyfer y cyfryngau. Mae ef o dan ddylanwad celf llyfrau rheolau TTRPG, celf gysyniadol, nofelau graffig, mapiau ffantasi, ac unrhyw beth sy’n dangos draig.  

Viktorija Elertaite

Mae gwaith Vik (a elwir hefyd yn ConsideringEyes) yn drwm dan ddylanwad nofelau graffig. A hwythau’n aml yn breuddwydio am fydoedd eraill a’r straeon maent yn eu hadrodd, maent yn cael eu hysbrydoli gan waith artistiaid eraill a bywyd pob dydd, gan droelli a llunio cysyniadau i’w gwneud ychydig yn dywyllach. Mae’r cyfryngau y mae ConsideringEyes yn eu defnyddio i gyflawni hyn yn amrywio o’r traddodiadol megis inc a dyfrlliw i ddigidol, gan eu cyfuno’n aml i greu darnau trawiadol. Gellir disgrifio eu gwaith fel gwaith tywyll, oriog a braidd yn wallgof gyda lliwiau wedi’u gwneud yn fwy golau a ffocws ar fanylion a gweadau.