Skip page header and navigation

Sioe Haf: MA Deialogau Cyfoes

MASH-UP

Abstract image in crimson and white with lines like shattered glass.

Arddangosfa MA Deialogau Cyfoes

MASH-UP yw’r arddangosfa ryngddisgyblaethol sy’n dathlu gwaith datblygol y myfyrwyr MA Deialogau Cyfoes sy’n gweithio tuag at eu harddangosfa graddedigion derfynol sy’n agor ym mis Rhagfyr 2024. 

Mae’r arddangosfa ‘gwaith ar y gweill’ hon, yn rhoi blas o’r arferion creadigol amrywiol sy’n cael eu harchwilio i’w datblygu ymhellach tuag at gyfnod cadarnhaol y rhaglen.  

Mae’r gwaith a gyflwynir yn yr arddangosfa yn deillio o’r meysydd arbenigol MA Celf Gain, MA Crefftau Dylunio, MA Ffotograffiaeth, MA Darlunio, MA Dylunio Graffig, MA Gwydr, MA Patrymau Arwyneb, MA Dylunio Cynnyrch, MA Tecstilau a MA Delweddau Symudol.

Oriel MASH-UP

Darnau amrywiol i'w gweld yn yr arddangosfa.
Ffigur dynolffurf wedi'i wneud o bapur newydd yn chwyddo allan o ffrâm.
Cast plastr o law yng nghanol y disg papur gyda darnau o destun yn darllen: The hand that signed the paper – and halved a country – felled a city.
Dol carnifal fawr yn hongian mewn cylch o'r nenfwd a darnau eraill sy'n cael eu harddangos o dan y geiriau MA Contemporary Dialogues.
Eitemau amrywiol yn cael eu harddangos gan gynnwys clytwaith ar ffurf siaced giniawa a cherflun wedi'i wneud o blastig.
Poster yn dangos bod dynol â phen pysgodyn yn cario cês ac yn gwisgo crys coch a gwyn streipiog; ail boster yn dangos dyn mewn cilt yn gwisgo pen corgimwch cardbord a chrafangau cardbord mawr.
Gwaith toriad papur mewn glas golau ar las tywyll; gyda phetryalau yn arddangos toriadau o galonnau, ysgyfarnogod, tebot, blodyn ac eiconau cyfarwydd eraill.
Mwgwd dyfodolaidd gwyn disglair mewn blwch arddangos glas llachar wedi'i amgylchynu gan ffrâm ddu; ceg ddanheddog yn ysgyrnygu ar gefndir gwyn plaen; siâp tebyg i fwystfil ar gefndir inc du wedi'i osod o dan ddalen o wydr wedi torri.
Tair delwedd ffotograffig mewn ffrâm wedi'u troshaenu â phlanau o olau glas.
Tri llun o eiddew, canghennau, a dail marw ar lawr coedwig.
Pum gwaith celf a arddangosir wedi'u huno gan y thema glas.
Model o dŷ o'r oes Fictoraidd sydd wedi dirywio, gan gynnwys gât barrog, ffenestri wedi eu bordio, ac ysgrifen wedi ei sgrafellu ar y blaen sy’n darllen Wars Rock.