Skip page header and navigation

Grace McArthur

Grace McArthur yn PCYDDS

Grace acting in a play

Enw: Grace McArthur

Cwrs: BA Actio

Astudiaethau Blaenorol: HND yn North East Scotland College

Tref eich cartref: Aberdeen, Yr Alban
 

Profiad Grace ar BA Actio

Ariel shot of Carmarthen campus

Beth yw eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Mae digonedd o olygfeydd a lleoedd gwych i fynd am dro yn yr ardal, ac mae cysylltiadau trên da â’r dinasoedd mawr eraill.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS oherwydd y dosbarthiadau bychain a chan fod dewis i astudio dramor.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Roeddwn i wrth fy modd yn mynd ar dripiau i draeth Llansteffan, sydd ddim yn bell yn y car, a chael mynd allan gyda fy ffrindiau ar ôl darlithoedd.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Rwy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant theatr a chael defnyddio’r sgiliau a’r cysylltiadau ges i ar y cwrs. Rydw i hefyd yn gobeithio gwneud mwy o deithio – ar ôl cael cyfle i astudio dramor yn California, rwy’n awyddus i deithio mwy, ac o bosibl chwilio am waith, y tu hwnt i’r DU. Rydw i wrth fy modd yn dysgu sut mae’r diwydiant actio yn wahanol dramor o’i gymharu â’r wlad hon.

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Rwy’n caru’r amser un-i-un gwerthfawr gyda’r darlithwyr, mae nhw’n ofalgar ac yn ystyriol iawn. Roedden nhw’n gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac yn fy helpu i fod cystal ag y gallwn i fod yn fy hastudiaethau.

floor made for an acting set

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS gan ei bod yn gymuned glòs, ac mae pawb, o sawl gwahanol adran, yn hynod o gyfeillgar a chefnogol. Yn y drydedd flwyddyn, roedd cyfleoedd i mi, fel actor, weithio gyda myfyrwyr y cwrs dylunio setiau hefyd. Roedd hynny’n hynod o ddefnyddiol.

Gwybodaeth Gysylltiedig