Skip page header and navigation

Connor Davies

Connor Davies yn PCYDDS

Connors headshot

Enw: Connor Davies 

Cwrs: BA Dylunio Graffig a Chyfathrebu Gweledol 

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch mewn Dylunio Graffig, Celfyddydau Perfformio a Bagloriaeth Cymru 

Tref eich cartref: Aberdâr, Cwm Cynon, de Cymru

Profiad Connor ar BA Dylunio Graffig a Chyfathrebu Gweledol

Connors artwork and celerbration of the sea company Flow

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Cael fy amgylchynu gan gymaint o bobl greadigol o’r un anian a’r holl wahanol arddulliau celf sy’n cael eu harddangos ar draws y campws.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Ces i gynnig lle diamod gan PCYDDS yn fy nghyfweliad, ac fe wnaeth hynny ddylanwadu ar fy newis, roeddwn i’n teimlo ein bod ar yr un donfedd â nhw ac yn meddwl y gallwn i ddysgu cymaint gan yr holl wahanol ddarlithwyr. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Rwy’n ddawnsiwr ar gyfer gwahanol gwmnïau ac ysgolion ledled y DU sy’n rhoi cyfle i mi deithio’r byd, o’r Almaen i America, naill ai i berfformio neu ddysgu, does dim llawer sy’n well gen i na dawnsio.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Fy mreuddwyd, mewn gwirionedd, yw parhau i wneud yr hyn rwy’n ei wneud nawr - gwneud bywoliaeth o fod yn greadigol. 

O graffeg i ddawns, rydw i wir yn credu mai celf sy’n gwneud i’r byd droi. 

 Byddwn i wrth fy modd yn adeiladu fy stiwdio greadigol fy hun, gydag adrannau gwahanol ar gyfer dawns, graffeg, ffotograffiaeth a chymaint mwy. 

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Ar hyn o bryd, fy hoff beth am y cwrs yw pa mor ystyriol yw’r darlithwyr o bynciau sensitif, maen nhw mor gefnogol pan fo angen.

design classroom

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

 Yn bendant, byddwn i’n argymell PCYDDS, mae gan y staff gymaint o brofiad o fewn eu harbenigeddau ac mae ganddyn nhw gymaint i’w rannu â’r myfyrwyr. 

Gwybodaeth Gysylltiedig