Profiad Nia Jade Hopkins yn PCYDDS
Enw: Nia Jade Hopkins
Cwrs: BA Darlunio
Astudiaethau Blaenorol: Tystysgrif Genedlaethol Lefel 3
Tref eich cartref: Pontarddulais
Profiad Nia ar BA Darlunio
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Heblaw’r staff ffantastig, felly, fy hoff bethau oedd yr argraffydd baneri, mynediad at ddeunyddiau ac offer newydd a’r caffi.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais Y Drindod Dewi Sant oherwydd o ganlyniad i argymhelliad gan un o’m darlithwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Roedd bod yn agos at y man lle’r oeddwn i’n byw hefyd yn ffactor cyfrannu mawr.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Mae’r rhan fwyaf o’m hamser wedi cael fy nhynnu gan fy mod wedi ei fwynhau gymaint. Pan oedd gen i’r amser roeddwn i’n mwynhau chwarae The Legend of Zelda, Tears of the Kingdom a gemau cysylltiedig. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd allan am fwyd gyda theulu a chwarae Dungeons and Dragons.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Rwy’n gobeithio dod o hyd i swydd yn y diwydiant gemau fideo neu’r diwydiant animeiddio yn Ddylunydd Cymeriadau.
Rwy hefyd yn bwriadu sefydlu siop ar-lein sy’n gwerthu sticeri ac eitemau eraill o’m gwaith.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs yw ei fod wedi caniatáu i mi ddatblygu fy arddull unigol fy hun. Rwy hefyd wedi mwynhau’r semester cyntaf yn fawr iawn pan oeddwn i’n gallu gweithio ar fy mhrosiect fy hun tra roedd y darlithwyr wrth law i helpu pryd bynnag y byddwn i mewn twll.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un a oedd yn bwriadu cymryd darlunio o ddifri ond heb wybod o hyd ym mha faes yr oedden nhw am weithio.