Profiad Daniel yn PCYDDS
Enw: Daniel Richards
Cwrs: BEng Anrh Peirianneg Drydanol ac Electronig (Rhan-amser)
Astudiaethau Blaenorol: HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig (Rhan-amser); HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Rhan-amser)
Tref eich cartref: Pen-y-bont ar Ogwr
Profiad Daniel ar BEng Anrh Peirianneg Drydanol ac Electronig
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae lleoliad y campws yn gyfleus, ac mae amrywiaeth o adnoddau o fewn cyrraedd hawdd. Mae cyfleusterau modern a newydd yno, a darlithwyr gwych.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Bu un o fy nghydweithwyr yma’n gwneud yr un cwrs, a nhw wnaeth ei argymell ei mi.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Pan nad ydw i’n gweithio, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu. Rydw i hefyd yn mwynhau gwneud rasys triathlon.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl graddio, rwy’n bwriadu defnyddio’r hyder a ges o wneud y cwrs yn fy ngwaith a’m bywyd bob dydd.
Ar hyn o bryd rwy’n datblygu system ddigidol trwydded-i-weithio newydd yn Tata Steel ym Mhort Talbot. Bydd y system hon yn disodli’r system bapur sydd yno ar hyn o bryd. Rydw i wedi trosglwyddo i’r rôl hon o fewn y cwmni gan fod fy swydd wreiddiol wedi’i dileu wrth i sawl adran o weithfeydd Tata Steel gael eu cau ym Mhort Talbot.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Cychwyn taith gyda ffrindiau wnes i chwe mlynedd yn ôl yn ystod fy HNC, a gorffen trwy raddio gyda BEng Anrh.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Mae’r holl nodweddion angenrheidiol yno ar gyfer creu myfyrwyr llwyddiannus.