Skip page header and navigation

Nathan Chaplin

Nathan Chaplin yn PCYDDS

Nathan presenting in the immersive room

Enw: Nathan Chaplin

Cwrs: BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Tref eich cartref: Baglan, Port Talbot

Profiad Nathan ar BA Dylunio Gemau Cyfrifiadurol

Nathan's escape room

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Un o fy hoff bethau am y campws yw’r amgylchedd. Gan ein bod ar gwrs creadigol rydyn ni’n cael ein hysbrydoli gan yr hyn sydd o’n cwmpas o ddydd i ddydd i greu amgylcheddau a phrofiadau newydd i chwaraewyr. Mae cael yr adrannau o’n cwmpas yn caniatáu i mi gael syniadau unigryw newydd ar gyfer fy ngwaith.   

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS gan fod yr academyddion yno mor brofiadol, a’r ffyrdd y gallan nhw fy helpu i wireddu fy amcanion fel dylunydd gemau fideo. Roedd gwybod eu bod nhw yno, waeth beth fyddwn i’n ei wneud, boed hynny’n fethu neu wthio’r ffiniau, yn barod i roi cefnogaeth ac adborth i mi a chael y gorau ohonof i ac o’r cwrs, yn rhoi hyder i mi.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Roeddwn i’n caru’r amgylchedd cymdeithasol, cael cwrdd â phobl ar gyrsiau eraill ac ennill profiadau newydd. Un o’r uchafbwyntiau oedd mynd i Insomnia gyda’r tîm, nid yn unig i gael hwyl ond i siarad â datblygwyr gemau ac i gael awgrymiadau a chyngor. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rydw i bellach yn gweithio i PCYDDS yn yr adran Dysgu a Chreadigrwydd Digidol. Rwy’n aelod o’r tîm Ymgysylltiad a Phrofiad Digidol. Pan ddechreuais i yma, roeddwn i’n fyfyriwr gradd, ac erbyn hyn rwy’n gweithio’n llawn-amser fel Arbenigwr Technoleg VR. Rwy’n gweithio ar greu rhaglenni VR, rheoli VR, ystafelloedd ymdrochol, teithiau digidol, dronau a mwy.  

Fe wnaeth fy nghwrs fy helpu i gyrraedd yma drwy roi cyfle i mi arbrofi ac i wthio ffiniau’r dechnoleg. Oni bai am y cwrs, fyddwn i ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i fentro gyda thechnolegau newydd a gweld beth allwn ni ei wneud â nhw. O edrych yn ôl ar rai meysydd allweddol, rwy’n gweld fod y profiad a gefais i gan yr academyddion wedi bod yn hanfodol i’m llwyddiant hyd yn hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r holl academyddion a’m dysgodd i.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Mae’n anodd iawn dewis gan fod cymaint o bynciau bythgofiadwy, cymaint o uchafbwyntiau, a hebddyn nhw fyddwn i ddim yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud heddiw. Pe byddai’n rhaid i mi enwi un, fyddwn i’n dewis dysgu hanes gemau. Er fy mod i’n hoff o wthio ffiniau technoleg newydd, rwy’n credu bod dysgu am hanes gemau wedi dangos faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn technoleg, a’r heriau y bu’n rhaid i bobl a chwmnïau eu goresgyn. Rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gofio’r gorffennol er mwyn gwella’r dyfodol.

game creation process

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn ei argymell 100%, mae gan PCYDDS ystod o wahanol gyrsiau yn ogystal â rhai o’r academyddion gorau, yn fy marn i, sy’n gallu addysgu lefel uchel o sgiliau yn eu meysydd i fyfyrwyr. O ‘mhrofiad i, roedd yr academyddion lefel uchel wir yn fy ysbrydoli. Hefyd, mae’r gymuned sy’n amgylchynu PCYDDS yn wych, mae’n nhw’n eich cefnogi y tu allan i’r dosbarth ac mae rhyw brofiad neu ddigwyddiad i’ch difyrru chi o hyd.

Gwybodaeth Gysylltiedig