Skip page header and navigation

Hollie-Anne Clark

Hollie-Anne Clark yn PCYDDS

Hollie performing

Enw: Hollie-Anne Clark

Cwrs: MA Astudiaethau Lleisiol Uwch

Astudiaethau Blaenorol: Diploma Uwch Theatr Gerddorol (Stiwdios Cysylltiedig); MA Perfformio Cerddoriaeth (Lleisiol) (RWCMD)

Tref eich cartref: Chelmsford, Essex
 

Profiad Hollie-Anne ar MA Astudiaethau Lleisiol Uwch

Hollie singing

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerdydd?

Gwnes i wir fwynhau naws bersonol y coleg, gan greu lle hyfryd i dyfu a datblygu eich sgiliau. Roedd llawer o ffocws ar eich crefft unigol, yn debyg i raglen datblygu artist ac roedd hynny’n fantais fawr.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roeddwn yn adnabod cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol oedd wedi cael profiad da. Cefais hefyd fy nennu gan y niferoedd bach ar y cwrs a ganiataodd rhagor o amser unigol.  
 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Rwy’n berfformiwr amlweddog, yn ogystal ag opera, rwy’n perfformio theatr gerddorol, yn canu arddulliau eraill mewn cabaret ac yn actio’n broffesiynol. Rwyf hefyd yn mwynhau recordio cerddoriaeth, gwneud fideos a dawnsio gwahanol arddulliau!  
 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwyf newydd berfformio a datblygu dwy sioe Leisiol yn adloniant ar gyfer gwesteion ar longau mordeithio, felly mae hynny’n gyffrous iawn! 

Mae un yn canolbwyntio ar theatr gerddorol/gorgyffwrdd clasurol a’r llall ar opera, felly mae cael y cyfle i ddangos y ddau yn wych! Rwyf hefyd yn ymgymryd â rôl Contessa yn ‘Marriage of Figaro’ Mozart yr haf yma, ar gyfer Gŵyl Opera Grimeborn yn Theatr Arcola! Rwy’n dwlu ar y rôl hon, gan fy mod wedi’i pherfformio o’r blaen, ac rwy’n ddiolchgar iawn i gael y cyfle i berfformio hwn yn broffesiynol yn Llundain! Ac rwy’n perfformio mewn rhai gwyliau’r haf yma hefyd!  

Gwnes i ryddhau fy EP newydd Enchanted ar Spotify a phlatfformau eraill ym mis Chwefror eleni, a byddaf yn rhyddhau cerddoriaeth newydd cyn hir, gan gynnwys ysgrifennu un wreiddiol hefyd!  

Ar wahân i berfformio fy hun, rwyf hefyd yn hyfforddi ac addysgu cantorion, ac yn arwain criw o berfformwyr sy’n diddanu plant! Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ysgrifennu, cyfeirio a chynhyrchu gwahanol sioeau proffesiynol a digwyddiadau gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Artistig ar fy nghwmni opera fy hun a thri phantomeim ar gyfer theatr. 

Gallwch weld rhagor o’r pethau rwyf wedi bod yn eu gwneud ar fy ngwefan www.hollieanneclark.com  

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Yr awyrgylch personol a chyfeillgar, a ffocws ac amser unigol. A’r gymysgedd ryngwladol – gan fod llawer o fyfyrwyr o wledydd eraill.

Buaswn yn dweud fy mod i ble rydw i, oherwydd fy mod yn rhagweithiol, yn gyson ac yn ddyfal. Ond nid oes cyrchfan, dim ond y daith i weld lle bydd fy mherfformio a’m sgiliau yn mynd â fi, a dyna’r antur! Mae’n bwysig dal ati i ffocysu ar yr hyn rydych chi am ei gyflawni, gan fy mod yn credu y gall unrhyw un lwyddo mewn unrhyw beth maen nhw’n canolbwyntio arno.

Trwy wneud y cwrs yn WIAV (WAVDA erbyn hyn), cefais fy helpu i hogi fy sgiliau mewn opera a datblygu’n lleisiol mewn amgylchedd positif a chalonogol – roedd Dennis O’Neill yn athro gwych! Rhoddodd hefyd offer a hyder i mi ddysgu rolau’n gyflym sydd wedi arwain at rai llwyddiannau’n ddiweddar!

Cardiff campus

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Buaswn – er bod peth o’m profiad o’r cwrs yn ystod y pandemig, felly cafodd yr addysgu ei oedi am gyfnod, teimlais fy mod wedi datblygu gryn dipyn fel artist ac fe wnes i gwrdd â phobl wych a dod yn ffrindiau gyda nhw o bob cwr o’r byd, felly fe fuaswn yn ei argymell, heb os! 

Gwybodaeth Gysylltiedig