Skip page header and navigation

 Chloe Fowler

 Chloe Fowler yn PCYDDS

Chloe headshot.

Enw:  Chloe Fowler 

Cwrs: BA Actio

Astudiaethau Blaenorol: Coleg Penybont, Lefel 3 Celfyddydau Perfformio

Tref eich cartref: Port Talbot

Profiad Chloe ar BA Actio

Chloe spinning the wheel

Beth yw eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Fy hoff beth am y campws yw’r natur. Mae’n llawn o bob math o blanhigion, bywyd gwyllt a choed. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roedd ganddyn nhw enw da o ran ansawdd y dysgu, ac roedd y campws yn teimlo’n gartrefol ac yn gysurus. Hefyd, roedd amrywiaeth o fodiwlau a oedd yn ymdrin ag ystod o wahanol sgiliau.

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Rwy’n mwynhau mynd i ddarllen llyfr yn y parc lleol i ddarllen llyfr, sydd ddim yn bell o’r campws. Rwy’n mwynhau mynd i’r caffi yn y parc hefyd.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Rwy’n gobeithio cysylltu â chwmnïau theatr sy’n canolbwyntio ar helpu eu cymunedau lleol.

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Y staff. Maen nhw’n dod i’ch adnabod fel unigolyn ac yn gallu rhoi cymorth ar unrhyw fater. Maen nhw’n hynod o gyfeillgar a gwybodus. 

Carmarthen campus

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i’n argymell PCYDDS am eu bod wedi rhoi neu argymell cymaint o gyfleoedd sydd wedi fy helpu i dyfu fel myfyriwr. 

Gwybodaeth Gysylltiedig