Skip page header and navigation

 William Kingshott

Profiad  William yn PCYDDS

William Kingshott looks seriously towards the camera.

Enw:  William Kingshott 

Cwrs: MA Cyfarwyddo Theatr

Astudiaethau Blaenorol: BA Actio (PCYDDS)

Tref eich cartref: Porthmadog
 

Profiad William ar MA Cyfarwyddo Theatr

William Kingshott stands in a rehearsal room; he holds a playscript open in one hand and has a pencil in the other; his eyes are focused on another student.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

 Mae’r campws yng Nghaerfyrddin yn fach iawn, ac mae hynny’n gwneud iddo deimlo’n gartrefol iawn ac yn haws cwrdd â phobl newydd.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i’r Brifysgol oherwydd enw da’r cyrsiau Celfyddydau Perfformio, sy’n cynnig amrywiaeth o fodiwlau yn ogystal â phrofiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Fe wnes i wir fwynhau’r amser a dreuliais i ar y cwrs gradd ac ôl-radd. 

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Roeddwn i bob amser yn mwynhau bod yng nghwmni fy ffrindiau, yn mynd i’r dre, yn bowlio deg, neu’n mynd i Lansteffan am dro. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Fe wnes i raddio yn 2023, ac ers hynny rydw i wedi bod yn gweithio’n llawrydd (cymysgedd o waith actio, cyfarwyddo, a hwyluso), ond bues i’n lwcus iawn i wneud cysylltiadau yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, a gwnaeth hynny bethau’n haws ar ôl graddio. Fe roddodd y cwrs hyder a gwybodaeth i mi a ganiataodd i mi ddechrau gweithio yn y diwydiant, ac fe fydda i’n ddiolchgar am hynny am byth. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda’r Brifysgol ar un o’r cynyrchiadau sydd ganddyn nhw ar y gweill: The Admirable Crichton. Mae’n braf iawn cael dychwelwyd yma at y staff a’r myfyrwyr anhygoel. 

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am y cwrs oedd yr annibyniaeth ges i. Roedd cefnogaeth ar gael trwy’r adeg, ond i mi (fel cyfarwyddwr) nod y cwrs oedd dod i ddeall pwy oeddwn i fel cyfarwyddwr, yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau a sut rwy’n defnyddio gofodau ymarfer, a heb i mi fod wedi cael annibyniaeth fyddwn i byth wedi dysgu hynny.

Carmarthen campus

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Mae’r staff yn wych a wir yn gofalu am eu myfyrwyr a’u cynnydd.  

Gwybodaeth Gysylltiedig