Skip page header and navigation

Jac Thomas Elsey

Profiad Jac Thomas yn PCYDDS

jac headshot

Enw: Jac Thomas

Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Graffig

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch: Cyfathrebu Graffig, Troseddeg a Thechnoleg Gwybodaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Tref eich cartref: Gorseinon, Abertawe

Profiad Jac ar BA (Anrh) Dylunio Graffig

Jac in a stadium

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Roedd y cyfleusterau’n anhygoel, roedd ystafelloedd ar gyfer pob math o bobl creadigol. Ystafelloedd anhygoel ar gyfer argraffu, lleoedd i ysgogi’r meddwl, i arbrofi … a hynny heb sôn am y lleoliad yng nghanol y ddinas – digon o’ch cwmpas i’ch difyrru. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Ei enw da ar y rhestrau – 3ydd yn y DU am Ddylunio Graffig a 1af yng Nghymru. Wrth gwrs, roeddwn i’n gwybod ei fod yn gwrs gwych ers pan oeddwn i yn y coleg, ond y prif reswm dros roi’r brifysgol ar ben y rhestr oedd y teimlad gwych a gefais i wrth ymweld â’r campws ar y diwrnod agored.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Er fy mod i’n dylunio trwy’r wythnos yn y Brifysgol, roeddwn i hefyd yn gwneud llawer o waith dylunio arall hefyd. Dylunio yw fy mhrif ddiddordeb. Cyn fy swydd bresennol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, bues i’n gweithio ar ddwy job ddylunio – y ddwy ym maes chwaraeon, lle’r oeddwn i eisiau bod, ac roeddwn i’n gweithio gyda’r Sgarlets a Macron tra’r oeddwn i’n astudio.  

 Mae cymdeithasu â theulu a ffrindiau yn bwysig iawn i mi, ac roeddwn i’n ceisio gwneud cymaint o hynny ag y gallwn i er mwyn gwneud yn siŵr ‘mod i’n gadael yr amgylchedd gwaith yn ddigon aml. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio’n llawn amser fel unig ddylunydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Cyn fy swydd yma, bues i’n gweithio gyda chlwb rygbi’r Scarlets am ddwy flynedd, gydag un o’r blynyddoedd hynny pan oeddwn i’n astudio yn PCYDDS. Cefais i hyfforddiant a chyngor rheolaidd gan fy narlithwyr ynglŷn â gweithio yn y diwydiant, ac roedd hynny’n help mawr.   

 Roedd y gefnogaeth a’r addysg wych ges i gan ddarlithwyr y cwrs yn rhagorol. Dysgais i bopeth ganddyn nhw, o sgiliau sylfaenol hyd at sgiliau uwch, ac mae hynny wedi fy ngalluogi i ffynnu yn y diwydiant.  

 Nid eich paratoi i ennill gradd yn unig y mae’r cwrs, mae’n eich paratoi chi ar gyfer y diwydiant.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

Amrywiaeth y modiwlau, oedd yn galluogi pobl i ddysgu pa fath o ddylunydd yr hoffen nhw fod yn y dyfodol. Fel y soniais i, roedd cael cwrs sy’n eich paratoi ar gyfer bywyd y tu allan i’r brifysgol, nid dim ond er mwyn ennill gradd, yn anhygoel.  

 Pan ddechreuais i weithio mewn swyddi yn y diwydiant roeddwn i’n teimlo ‘mod i gam ar y blaen! Yn ystod fy mlwyddyn olaf wnes i fwynhau mynd i New Designers, lle’r oedd rhai o’m hoff ddylunwyr o bedwar ban byd yn dod i weld yr arddangosiadau.  

 Mae hyn yn gweithio’r ddwy ffordd, pan fyddwch chi’n cael cyfle i ddysgu am waith ac i gwrdd â phobl o wahanol brifysgolion! 

a empty design classroom

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Ble ddylwn i ddechrau? Y darlithwyr, y cyfleusterau, y lleoliad, y gefnogaeth, y cyfleoedd…  

 Efallai bod gen i ragfarn, ond mewn gwirionedd, wn i ddim sut allai cwrs prifysgol fod yn well na hyn. 

Does dim angen dweud mwy. 

Gwybodaeth Gysylltiedig