Profiad Agnes yn PCYDDS
Enw: Agnes Olah
Cwrs: MA Dylunio Graffig
Astudiaethau Blaenorol: BA(Anrh) Dylunio Graffig yn PCYDDS; B.Eng mewn Peirianneg Diwydiant Ysgafn, yn BMF-RKK (Hwngari)
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Agnes ar MA Dylunio Graffig
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae gan y brifysgol weithdai anhygoel, lle cefais i gyfle i ddysgu am yr holl ddulliau argraffu traddodiadol, fel llythrenwasg, argraffu bloc, printio sgrin, riso ac UV.
Yn ogystal â rhoi anogaeth, roedd y darlithwyr a thechnegwyr y gweithdai hefyd yn rhoi pob cymorth i mi, gan gynnwys cyfleoedd i ddefnyddio gweithdai’r adrannau eraill ac i ehangu ar fy arbrofion trwy ymweld â gweithdai patrymau arwyneb, cerameg a gwydr, i enwi ond ychydig o blith y dewisiadau niferus oedd ar gael.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Enillodd fy ngŵr HND, MSc (Anrh) a’r Radd Meistr gyda PCYDDS tra’n gweithio yn y brifysgol. Edrychais i ar yr holl gyrsiau oedd ar gael, gan ddysgu’n fuan iawn am lwyddiannau’r myfyrwyr ac am safon uchel y profiad dysgu cefnogol. Gwelais hefyd fod cyfleoedd i gael profiadau ymarferol, a bod gan y brifysgol gysylltiadau cryf â chwmnïau allanol ayyb. O ddysgu hyn am y brifysgol, penderfynais mai dyma’r lle gorau i mi.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Rydw i wrth fy modd yn bod yn greadigol, yn dylunio ac yn creu pob math o wisgoedd, gemwaith, brodwaith ayyb. Enillodd un o fy narnau Wobr Dyfeisgarwch Myfyrwyr yng nghystadleuaeth World of Wearable Art, a gynhaliwyd yn Seland Newydd.
Rydw i wrth fy modd yn cysylltu â natur, yn mynd â fy nghi am dro, ac yn treulio amser gyda fy nheulu yma yn y DU ac yn Hwngari.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Ar ôl graddio, byddwn wrth fy modd yn cael gwaith mewn amgylchedd artistig.
Yn ddelfrydol, hoffwn i gael swydd ym myd addysg, rhywle lle gallwn i barhau i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, a rhywle lle gallwn i rannu fy mlynyddoedd o brofiad â myfyrwyr eraill, er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o artistiaid.
Beth yw eich hoff beth am y cwrs?
Cael fy amgylchynu gan bobl hynod o dalentog, ysbrydoledig a chefnogol.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i wir yn argymell y cwrs hwn i eraill, gan fy mod i nid yn unig wedi cael cyfleoedd gwych i ddysgu ac i arbrofi â dulliau dylunio traddodiadol ac anhraddodiadol, ond hefyd gan fod strwythur y cwrs yn rhoi pwyslais ar y diwydiant, roedd o gymorth i mi ennill sgiliau hynod o werthfawr er mwyn adeiladu gyrfa yn y diwydiant. Er enghraifft: cefais gyfle i ddatblygu ymgyrch hinsawdd i Gyngor Abertawe ar gyfer y ddinas gyfan, ‘Prosiect Sero Abertawe’, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Newid yn yr Hinsawdd a Natur.