Skip page header and navigation

Zheng Jiayi

Profiad Zheng Jiayi yn PCYDDS

Zheng being given an award

Enw: Zheng Jiayi

Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Graffig

Astudiaethau Blaenorol: Diploma ysgol uwchradd (China) 

Tref eich cartref: China 

Profiad Jiayi ar BA (Anrh) Dylunio Graffig

a graphics design classroom

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

 Fy hoff beth am y campws yw ei awyrgylch bywiog a chynhwysol. Mae’r amgylchedd hardd, y cyfleusterau modern, a’r gymuned amrywiol yn creu amgylchedd dysgu cyffrous. Mae’r staff cefnogol a’r corff myfyrwyr croesawgar yn ei wneud yn lle croesawgar a chartrefol, ac yn ei gwneud yn haws i ffynnu’n academaidd ac yn gymdeithasol. Hefyd, mae lleoliad strategol y campws yn ei gwneud yn hawdd cyrraedd adnoddau, digwyddiadau diwylliannol a gweithgareddau hamdden, ac mae hynny’n gwella’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr. At ei gilydd, mae’r egni deinamig a’r ymdeimlad o gymuned yn golygu bod y daith astudio yma’n gyfoethog a chofiadwy. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS yn bennaf oherwydd bod sawl un o fy ffrindiau eisoes yn astudio yno, ac fe wnaeth eu profiadau cadarnhaol nhw ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i. Hefyd, roedd y ddinas ei hun yn fy nenu, yn ei lleoliad hardd ger y môr, gyda’r holl wylanod a’r bobl leol gyfeillgar. Roedd awyrgylch bywiog y ddinas, ynghyd ag enw da’r brifysgol o ran meithrin amgylchedd dysgu cefnogol, yn ei gwneud yn ddewis deniadol. Roeddwn i’n credu y byddwn i’n cael addysg o safon yn PCYDDS, ac ac hefyd y byddwn i’n cael bywyd cyfoethog a llawn boddhad y tu allan i weithgareddau academaidd. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau, rydw i wrth fy modd yn gwneud gwaith gwirfoddol i sefydliadau elusennol. Mae’n rhoi boddhad mawr i mi gyfrannu fy sgiliau dylunio i greu posteri a deunyddiau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd, fel myfyriwr rhyngwladol, mae cael dysgu am wahanol ddiwylliannau trwy deithio, ymgolli ym myd natur trwy gerdded, ac arbrofi gyda ryseitiau newydd yn rhoi boddhad mawr i mi. Mae’r pethau hyn yn rhoi seibiant i mi o’r gwaith academaidd, ac yn meithrin twf personol a boddhad.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Dros yr haf, ar ôl graddio, hoffwn i gael interniaeth ym maes dylunio graffig neu ddylunio UX, a hynny er mwyn gwella fy mhrofiad personol a’m CV. Ym mis Medi eleni, byddaf yn dechrau fy astudiaethau ôl-radd. Fy nod yw archwilio’r maes sydd o ddiddordeb i mi mewn mwy o ddyfnder ac i arbenigo ymhellach. 

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff agwedd yw’r cyfle i arbrofi, i wneud camgymeriadau, a’r anogaeth barhaus. Rwyf nid yn unig wedi cael dysgu am ddylunio graffig, ond hefyd wedi archwilio hanfodion meddylfryd dylunio. Fe wnaeth y staff cefnogol, a’r gallu i ddefnyddio offer dylunio modern, gyfoethogi fy nhaith ddysgu a throi pob prosiect yn brofiad cyffrous a gwerth chweil. 

graphic design computer lab

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

 Yn bendant, byddwn i’n argymell PCYDDS yn fawr.  Mae’r amgylchedd cefnogol, y staff ymroddedig a’r cyfleusterau modern yn ei wneud yn lle delfrydol ar gyfer twf academaidd a phersonol. Mae’r pwyslais y mae’r brifysgol yn ei roi ar ddysgu ymarferol, ynghyd â’r cyfleoedd ar gyfer interniaethau ac i wneud cysylltiadau â’r diwydiant, yn paratoi myfyrwyr i lwyddo yn eu maes.  Ac mae bywyd bywiog y campws, yr amrywiaeth ddiwylliannol a’r ardal leol drawiadol yn cyfrannu at brofiad cyfoethog, llawn boddhad i fyfyrwyr.  

Gwybodaeth Gysylltiedig