Skip page header and navigation

Celeste Turnbull

Celeste Turnbull  yn PCYDDS

Celeste Turnbull performing on stage

Enw: Celeste Turnbull  

Cwrs: BA (Anrh) Actio

Tref eich cartref: Porth Tywyn

Profiad Celeste ar BA (Anrh) Actio

celeste green screen photo

Beth yw eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?

Fy hoff beth i am y campws yw’r holl gilfachau bach lle galla i eistedd a gweithio pan fo’r tywydd yn braf. Mae’r llecynnau hyn wedi fy helpu i ymlacio ac i ganolbwyntio, ac felly fy nghymell i i weithio. Fy hoff lecyn yw’r fan ger y goeden fawr rhwng y llyfrgell a NIB001. Byddwn i’n dychwelyd yno dro ar ôl tro rhwng gwersi, i ymlacio ac i wella fy lles meddyliol.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais PCYDDS oherwydd ei fod yn cynnig cwrs actio ymarferol yn bennaf, rhywbeth na allwn i ddod o hyd iddo yn unman arall. Rydw i’n dysgu trwy weld a thrwy wneud, felly mae’r cwrs hwn wedi bodloni f’anghenion yn hynny o beth, ac rwy’n teimlo’n llawn boddhad ac yn eithriadol o dda yn fy nghrefft.  

Roedd yr holl gyfleoedd ar y cwrs i berfformio o flaen cynulleidfa yn fy nenu hefyd. Cynulleidfa sy’n gwneud theatr, ac mae cael profi hyn mor fuan wedi cadarnhau fy nghariad tuag at y diwydiant.

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu hwnt i astudio, rwy’n mwynhau mynd i draeth Llansteffan gyda fy ffrindiau yn ogystal â mynd am droeon hir o gwmpas llwybr amgueddfa Abergwili. Gan fy mod i’n gyrru, roeddwn i a fy ffrindiau’n gallu mynd i ymweld â pharc gwledig Pen-bre hefyd, sydd ond 25 munud o’r campws yn y car. Rwy’n mwynhau bod yn heini, ac mae canolfan hamdden Caerfyrddin wedi bod yn hynod o ddefnyddiol o ran cynnal fy egni a’m cymhelliant trwy gydol pob tymor. Mae sawl castell gerllaw hefyd, sy’n adrodd hanes ein gwlad hardd!

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio gwneud gradd meistr mewn Actio ar gyfer y Sgrin! Ar ôl hynny, rwy’n awyddus i weithio ym myd teledu dwyieithog i blant! 

 Rwy’n angerddol am actio, a feddyliais i erioed y byddwn i’n cyrraedd cyn belled. Mae’n fy herio, yn fy ngwthio i’r eithaf, ond mae’n f’atgoffa bob dydd ei bod yn bosibl byw eich breuddwydion!

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Y darlithwyr yw fy hoff beth am y cwrs. Bob dydd, maen nhw’n ein croesawu â gwen ac â chalonnau agored, maen nhw’n ein cefnogi wrth i ni fentro y tu hwnt i’r hyn rydyn ni’n gyfarwydd ag o, gan ddathlu ein llwyddiannau, boed yn fawr neu’n fach, a dyma yw sylfaen y cwrs. Rydyn ni’n cael ein trin fel cwmni o actorion yn hytrach na myfyrwyr, ac maen nhw’n gwneud i ni deimlo fel un. Maen nhw’n gwrando arnom ni ac yn ystyried ein pryderon, maen nhw’n ymateb yn gyflym i adborth am y cwrs, ac maen nhw’n ei wneud yn brofiad cwbl hyfryd a chofiadwy i bawb. 

Celeste Turnbull performing on stage

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS i unrhyw un yn bendant. Yn PCYDDS, ces i brofiad o fod yn Lysgennad Myfyrwyr a chyfle i astudio dramor am dymor yn California, lle des i garu dringo creigiau. Ehangodd hyn fy sgiliau a gwella’r ffordd rwy’n wynebu pethau pob dydd. Hefyd, trwy brofiadau uniongyrchol â gwasanaethau myfyrwyr, mae sicr yn deg dweud bod fy sgiliau llenyddol, a’m sgiliau cyffredin hefyd, wedi gwella’n fawr, a hynny mewn ffordd fydd yn gwarantu llwyddiant yn y dyfodol. 

Rydw i wir wedi dod o hyd i mi fy hun yma yn PCYDDS, ac mae gen i syniad clir o beth allai ddod nesaf i mi. 

Gwybodaeth Gysylltiedig